NEWID EICH CYFRES PODLEDIAD STORI

Dyma’r podlediad lle clywn straeon ysbrydoledig am bobl sy’n ennill cymwysterau ac yn dysgu sgiliau newydd yn ddiweddarach mewn bywyd.Bydd y gwesteiwr Nia Parry yn gofyn beth oedd yn gyrru ei gwesteion i newid eu stori a pha gyngor sydd ganddyn nhw i chi os ydych chi eisiau newid eich stori hefyd.

PENODAU

Pennod 7: Canfod eich llwybr i Addysg Uwch

Gall ennill cymwysterau lefel uwch agor drysau i well gyrfaoedd, cyflog uwch neu fwy o ddewisiadau bywyd. Mae Nia yn siarad gyda thair menyw na aeth i’r brifysgol o’r ysgol. Mae pob un wedi cymryd llwybr gwahanol i ddilyn addysg brifysgol – mae Emma, Brittany a Louise bob un wedi wynebu eu heriau eu hunain, maent yn siarad am fynd i’r afael â syndrom ffugiwr, cydnabod gwerth y profiad bywyd maent ei angen ar gyfer eu astudiaethau a’u huchelgais ar gyfer y dyfodol. Bydd Ceri Nicolle o First Campus yn ymuno â Nia. Mae’n siarad am y gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr a’r gwahanol gynlluniau sydd yn eu lle i sicrhau fod mwy o oedolion yn cael cyfle i symud ymlaen i brifysgol.