CHWILIO AM GWRS NEU DDIGWYDDIAD
Mae cannoedd o gyrsiau, digwyddiadau ac adnoddau dysgu am ddim ar y platfform, dewch o hyd i’r un iawn i chi trwy ddefnyddio’r blwch chwilio isod. Mae yna lawer o feysydd pwnc cyffrous i ddewis ohonynt.
Taniwch eich brwdfrydedd a pheidiwch byth â rhoi’r gorau i ddysgu.
CYRSIAU A DIGWYDDIADAU NEWYDD
Ydych chi’n ddarparwr?
Ychwanegwch eich cyrsiau eich hun i’n gwefan.
CYMRU'N GWEITHIO
Dysgu sgiliau newydd adechrau’r bennod nesaf
Mae Cymru’n Gweithio yn wasanaeth newydd sy’n galluogi unrhyw un dros 16 oed ledled Cymru i gael mynediad i gyngor ac arweiniad arbenigol i’ch helpu i oresgyn rhwystau a all fod yn eich wynebu i fynd i waith.
Felly p’un ai ydych angen help i chwilio am swyddi, ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliad, canfod lleoliad gwaith, dysgu sgiliau newydd, deall hawliau dileu swydd, cefnogaeth gofal plant, meithrin hunanhyder, neu hyd yn oed ble i droi iddo nesaf, dyma’r lle cywir i gael yr help rydych ei angen.
Rhannu sgiliau tu hwnt i Gymru
Edrychwch ar y digwyddiadau ar-lein sy’n digwydd tu hwnt i Gymru. Fe welwch amrywiaeth eang o gyrsiau ar-lein gydag achrediad, sesiynau blasu a sesiynau tiwtorial sydd ar gael i bawb ble bynnag yr ydych.