Enillydd Gwobr Dechrau Arni – Dysgwyr Cymraeg
Daniel Minty
“Trochwch eich hun yng nghyfoeth y Gymraeg – bydd y profiad yn newid eich bywyd.”
Profodd Daniel Minty drawsnewidiad diwylliannol ers dechrau dysgu Cymraeg yn 2022. Mae Daniel, sy’n byw yng Nghaerdydd, wedi mynd o wybod dim ond ychydig eiriau o Gymraeg i siarad yr iaith wyth awr y dydd, bum diwrnod yr wythnos fel Swyddog Datblygu Cymunedol Menter Iaith Casnewydd.
Mae’n disgrifio cael y swydd eleni fel un o “lwyddiannau mwyaf fy mywyd”.
“Ar ôl dysgu Cymraeg am 18 mis, rwyf yn gweithio nawr trwy gyfrwng y Gymraeg, yn helpu cymunedau yn yr ardal i ddefnyddio’r iaith tu allan i’r dosbarth,” dywedodd. “Dyma un o’r newidiadau diwylliannol mwyaf yn fy mywyd. Rwyf mor ddiolchgar am hyn ac am helpu eraill i wneud yr un peth â fi.”
Wedi ei fagu yng Nghwm Rhymni, roedd Daniel yn falch o fod yn Gymro ond yn anaml yr oedd yn clywed y Gymraeg yn cael ei siarad yn y gymuned nag yn yr ysgolion yr oedd yn eu mynychu.
Trwy wirfoddoli yng Ngŵyl Sŵn yng Nghaerdydd yn 2014 a gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg fe ail daniwyd ei ddiddordeb. Creodd wefan dan yr enw Minty’s Gig Guide i hyrwyddo gigiau Cymraeg ar draws De Cymru a rhedodd nifer o ymgyrchoedd llwyddiannus.
Mae wedi cyflwyno gyda Bethan Elfyn ar BBC Radio Wales, ar ôl gweithio i’r gorfforaeth fel cynorthwyydd darlledu yn y gorffennol.
Cofrestrodd Daniel ar gwrs Mynediad Cymraeg ym Medi 2022 ac nid yw wedi edrych yn ôl. Llwyddodd i gael y cymhwyster Sylfaen, mae’n gweithio tuag at y lefel Canolradd ac mae’n bwriadu symud ymlaen i’r lefel Uwch.
Dywed bod ganddo “ddyled fawr” i’w diwtoriaid Elin Prys Davies a Meilyr ap Ifan yn Dysgu Cymraeg Caerdydd a Nigel Rees yng Ngholeg Sir Gâr am eu hanogaeth a’u hangerdd dros yr iaith.
Yn awyddus i rannu ei angerdd ei hun dros y Gymraeg, mae wedi helpu dysgwyr eraill trwy drefnu grwpiau sgwrsio anffurfiol a darllen a hyd yn oed ysbrydoli ei chwaer a’i frawd yng nghyfraith i ddysgu’r iaith.
Elin wnaeth annog Daniel i ymgeisio am swydd gyda Menter Iaith Casnewydd a’i enwebu ar gyfer y wobr hon.
“Yn ddiamau mae dysgu Cymraeg wedi trawsnewid bywyd Daniel,” dywedodd. “Mae’n unigolyn llawn egni sy’n ysbrydoli pawb o’i gwmpas i ddysgu Cymraeg. Mae ei frwdfrydedd yn heintus. Ei nod yw hybu, annog ac ysbrydoli preswylwyr Casnewydd i ddysgu Cymraeg, defnyddio’r sgiliau iaith sydd ganddynt, a mwy na dim, gwirioni ar yr iaith a mwynhau ei siarad.”
Enwebwyd gan:
Dysgu Cymraeg Caerdydd
Noddwr categori: