Mandy Price – Enillydd Gwobr Dysgu ar gyfer Gwell Iechyd 2025
Ni allai arwyddair Mandy Price “Get up and show up” fod yn fwy addas. Y diwrnod ar ôl cael ei thynnu oddi ar beiriant anadlu ar ôl cael ei derbyn i’r ysbyty am y tro cyntaf, eisteddai yn yr uned gofal dwys yn cwblhau cyflwyniad am ei Gradd Baglor mewn Gwyddoniaeth mewn Lles ac Ymddygiad
Anifeiliaid. Ddau ddiwrnod ar ôl cael ei rhyddhau o’r ysbyty, dychwelodd i astudio yng Ngholeg Sir Gâr yng Nghaerfyrddin.
Mae gan Mandy epilepsi a chyflyrau meddygol eraill ac mae’n gofalu am ei phartner a’i mab, sydd ag anghenion cymhleth. Ac eto mae’n canfod amser i astudio a chefnogi plant fel gwirfoddolwr darllen Burns by Your Side gyda’r ci cefnogi dysgu, Daisy. Roedd Mandy yn yr ysbyty am y trydydd tro wedi iddi
ddychwelyd o wlad Groeg, lle’r oedd hi a phump o fyfyrwyr eraill wedi bod yn gweithio ar Brosiect Ymchwil Cadwraeth Crwban Môr Pendew. Mae’r daith i wella wedi bod yn anodd, gan ei gorfodi i adael cwblhau ei gradd hyd y flwyddyn academaidd nesaf.
“Rwyf wedi bod yn dyst fy hun o sut mae addysg wedi bod yn rym trawsnewidiol ym mywyd Mandy – yn ffynhonnell grym, gan ei galluogi i harneisio ei chryfderau a sianelu ei hangerdd yn ymdrechion ystyrlon,” dywedodd y ddarlithwraig Stephanie Rees. “Mae ganddi ysbryd cryf iawn a phenderfyniad i ffynnu er gwaethaf y cymhlethdodau yn ei bywyd personol.”
Datblygodd diddordeb Mandy mewn astudiaethau yn gysylltiedig ag anifeiliaid ar ôl ymuno â grŵp gwirfoddolwyr yn Many Tears Animal Rescue. Er gwaethaf amau ei gallu academig ei hun, fe gyflawnodd Radd Sylfaenol mewn Gwyddor Anifeiliaid ac mae wedi symud ymlaen i BSc erbyn hyn. Mae Mandy yn bwriadu parhau ei hastudiaethau, gan gynnwys Gradd Meistr mewn Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc a hyfforddiant ychwanegol i gyflawni cyrsiau cymorth cyntaf anifeiliaid anwes a fydd yn ei symud tuag at gael cyflogaeth.
“Bydd cwblhau fy Ngradd Meistr yn rhoi hunaniaeth i mi tu hwnt i fy nghyfrifoldebau fel mam a gofalwr,” meddai. “Rwy’n benderfynol na fydd fy epilepsi yn fy niffinio. Heb y cwrs gradd, nid wyf yn gwybod ar ba lwybr y byddai fy iechyd meddwl a chorfforol.”