Adult Learners Week
  • English
  • Cymraeg
Mewngofnodi Darparydd
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Youtube
  • CARTREF
  • Cael Ysbrydoli
    • Straeon Dysgwyr
    • Enillwyr Gwobrau Ysbrydoli!
    • Cyfres Podlediad
  • Amdanom
  • Cyrsiau A Digwyddiadau
    • Chwilio pob Cwrs a Digwyddiad
    • Rhestr Darparwyr
  • Gwybodaeth i ddarparwyr
  • Cyswllt
Select Page

Foo Seng Thean – Enillydd Gwobr Siaradwr Cymraeg Newydd 2025

Cyrhaeddodd Foo Seng Thean Abertawe gyda’i deulu i ddechrau bywyd newydd yn 2015. Er ei fod yn siaradwr Saesneg hyderus, fe aeth i deimlo’n
rhwystredig o fod yn methu sgwrsio yn iaith frodorol ei gartref mabwysiedig ac roedd yn benderfynol o ddysgu Cymraeg.

“Mae hen ddywediad yn dweud ‘Er mwyn ffynnu mewn lle newydd rhaid i chi fabwysiadu ei draddodiadau a’i ffordd o fyw’, meddai Foo Seng. “Felly dyna’n union wyf fi’n ei wneud, dysgu Cymraeg gyda fy meibion, eu helpu gyda’u gwaith cartref ac ysgrifennu sylwadau Cymraeg mewn dyddiadur. Nawr, pan fydd arnyn nhw angen eu hysbrydoli, maen nhw’n dod ata’ i.

“Mae’n hwyl – canu gyda’n gilydd, rhannu’r hyn yr ydym yn ei ddysgu, sefydlu diwrnod Cymraeg gartref. Mae fy nith o Singapore hyd yn oed yn fy ngalw yn ei Hewythr Cymreig!” Cychwynnodd ei daith yn fuan ar ôl cyrraedd Cymru, tra’r oedd yn gweithio i Ganolfan Amlddiwylliannol y Tsieineaid yng Nghymru, fe’i derbyniwyd ar y cwrs Cymraeg yn y Gweithle a drefnwyd gan Ardal Bae Abertawe Dysgu Cymraeg Prifysgol Abertawe.

Ond ni wnaeth Foo Seng stopio gyda dim ond dysgu’r iaith. Roedd am drochi ei hun yn llawn yn niwylliant  Cymru sydd wedi ei arwain i ymuno â Chôr y Dysgwyr fu’n perfformio yn Eisteddfod Genedlaethol 2024. “Synnodd yr aelodau at fy ynganiad o’r Gymraeg,” meddai Foo Seng. “Rwyf wedi gwirioni ar harddwch yr iaith.”

Mae Foo Seng yn defnyddio ei brofiad i ysbrydoli cymunedau eraill o leiafrifoedd ethnig i groesawu’r Gymraeg i’w bywydau bob dydd. Cafodd ei gyfweld gan raglen Heno S4C ac mae’n awr yn hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg yng nghyfathrebiadau, negeseuon cyfryngau cymdeithasol a digwyddiadau swyddogol y Gymdeithas y Tseiniaid yng Nghymru.

Fe wnaeth tiwtor Foo Seng, Emyr Jones, ei annog i ganu gyda Chôr y Dysgwyr, dywedodd “Fe wnaeth gymryd y cyfle i ddysgu Cymraeg ac roedd yn awyddus a brwdfrydig o’r dechrau cyntaf, nid dim ond yn y dosbarthiadau, ond hefyd wrth ategu at ei ddysgu tu allan i’r dosbarth trwy’r ap Duolingo. Bydd yn sefyll yr Arholiad Sylfaenol yn 2026.”

Cred Foo Seng mai dim ond newydd ddechrau mai ei daith gyda’r Gymraeg ac ychwanegodd: “Nid wyf yn rhugl eto – ond rydwi ar y ffordd!”

Adult Learners Week
  • English
  • Cymraeg
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Youtube
GOV Wales
ESF
Learning and Work Institute
  • CARTREF
    • Amdanom
    • Gwybodaeth i ddarparwyr
    • Cyswllt
  • Cael eich Ysbrydoli
    • Newid Dy Stori
    • Newyddion a Blogiau
  • Canfod Digwyddiad
    • Chwilio Digwyddiad Rhydd
    • Rhestr Darparwyr
  • Mewngofnodi Darparydd
    • Fy Nghyfrif
    • Digwyddiadau
©2019 Sefydliad Dysgu a Gwaith. Cedwir Pob Hawl.
  • Polisi Cwcis
  • Datganiad Hygyrchedd
  • Polisi Preifatrwydd

We are using cookies to give you the best experience on our website.

You can find out more about which cookies we are using or switch them off in .

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.

Strictly Necessary Cookies

Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.

Cookie Policy

More information about our Cookie Policy