Gloria Beynon – Enillydd Gwobr Heneiddio’n Dda 2025

Agorodd ei hymddeoliad fyd cyfan o ddysgu oedolion a gwirfoddoli cymunedol i Gloria Beynon. Yn gymhorthydd dysgu wedi ymddeol mae wedi rhoi ei bywyd i ofalu am eraill, boed hynny’n fagu ei phlant ei hun, gofalu am ei hwyrion a’i hwyresau neu wasanaethu fel presenoldeb cadarn yn ei chymuned. Yn hytrach na gweld ei hoedran fel cyfyngiad, mae Gloria wedi ei dderbyn fel cyfle, gan brofi bod dysgu gydol oes, nid yn unig yn bosibl, ond yn drawsnewidiol hefyd.
Erbyn hyn mae’n Hyrwyddwr Gwirfoddolwyr Cymunedol yn Cysylltu Ieuenctid Plant ac Oedolion (CYCA) yn Llanelli, mae’n defnyddio ei phrofiad a’i sgiliau newydd i rymuso eraill trwy arwain gweithdy Coginio ar Gyllideb Dyn i famau ifanc, gan eu helpu i baratoi prydau maethlon ac ymestyn eu cyllideb ymhellach.
Yn ystod haf 2024, roedd Gloria yn chwarae rhan allweddol ym mhrosiect tlodi bwyd Lles y Bwyd CYCA, gan gefnogi teuluoedd mewn angen trwy eu helpu i baratoi 301 o brydau. “Roedd ei phresenoldeb cynnes a’i gallu i gysylltu gyda rhieni, yn neilltuol y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, yn ei gwneud yn rhan werthfawr o’r cynllun,” meddai Lianna Davies, mentor Gloria yn CYCA. “Erbyn hyn mae’n rhedeg sesiynau coginio wythnosol yn annibynnol – gan ymdrin â’r cynllunio, llunio cyllideb, siopa a chyflwyno heb gymorth gan y staff.”
Cychwynnodd ei thaith gyda CYCA pan oedd ei hŵyr yn mynychu eu meithrinfa Dechrau’n Deg. Yn awyddus i gymryd rhan, fe ddilynodd y cwrs Chwarae Sgyrsiol, a daniodd ei diddordeb mewn dysgu ac ymwneud cymunedol.
Wedi ei chalonogi gan ei hangerdd newydd, cychwynnodd Gloria ar gwrs Gwytnwch Lefel 1 Agored Cymru ac mae wedi mynd ymlaen i gwblhau chwech o gyrsiau wedi eu hachredu gan gynnwys Datblygiad Plentyn, Diogelu, Rheoli Gorbryder a Deall Straen. “Mae bod yn rhan o CYCA wedi cael effaith anferth ar fy mywyd i a bywyd fy ŵyr,” meddai Gloria. “Yn bersonol mae wedi bod yn anhygoel mynd allan o’r tŷ, cysylltu gydag oedolion eraill a chymryd rhan mewn cyrsiau sy’n ffitio o gwmpas fy ymrwymiadau.
“Mae dysgu wedi ailddeffro fy meddwl tu hwnt i ofal plant, gan roi hwb i’m hyder a’m llesiant cyffredinol. Mae gwirfoddoli wedi fy nghyflwyno i gymaint o deuluoedd gwych ac mae CYCA wedi rhoi hyder i’m hŵyr i ffynnu ymhlith ei gyfoedion. Mae’n brofiad gwych y byddwn yn ei argymell i unrhyw un o unrhyw oedran.”