Michael Cook – Enillydd Gwobr Newid Bywyd 2025
Wedi gweithio fel pobydd a chogydd crwst yng Nghaerdydd, penderfynodd Michael Cook ddychwelyd at addysg i symud ei yrfa ymlaen. Llwyddodd i gael cymwysterau cogydd a phobi ffurfiol i ddechrau yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro (CAVC), yna gofynnodd ei ddarlithydd a oedd wedi ystyried addysgu a wnaeth ei ysbrydoli i barhau ei daith yn dysgu.
Ar ôl cwblhau Addysg a Hyfforddiant Ôl-Addysg Orfodol (PCET), cafodd gontract rhan-amser yn cyflwyno’r rhaglen Prentisiaeth Iau i fyfyrwyr ifanc.
Aeth yn ei flaen i gwblhau Gradd Meistr mewn Twristiaeth a Lletygarwch Rhyngwladol, trwy astudio ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd yr un pryd â’i ferch 25 oed, Livvy. Roedd wedi ei hannog i fynd i brifysgol i ddilyn ei breuddwyd o weithio fel rheolwr digwyddiadau.
Cred Michael bod dyslecsia wedi effeithio ar ei yrfa fel cogydd, ond, gan ei fod wedi bod wrth ei fodd yn rhannu ei sgiliau erioed, mae’n awr wedi ei ysgogi i helpu eraill, yn enwedig pobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu tebyg i’w rai ef. “Trwy gydol fy nhaith yn ôl i addysg, fe wnes i sylweddoli fy mod wedi osgoi dysgu yn fwriadol oherwydd fy nhrafferthion gyda dyslecsia,” esboniodd Michael.
“Roeddwn wedi darbwyllo fy hun nad oeddwn yn academaidd nag yn ddigon deallus i lwyddo mewn amgylchedd addysgol. “Nododd fy mhenderfyniad i chwilio am gymwysterau ffurfiol eiliad allweddol yn fy mywyd. Fe wnaeth yr hyfforddiant trylwyr gryfhau fy sgiliau coginio ac aildanio fy angerdd am ddysgu.
“Wrth i mi symud trwy’r cyrsiau, fe wnes i sylweddoli pwysigrwydd addysg wrth ddatgloi cyfleoedd newydd. Mae’n rhoi boddhad mawr gwylio myfyrwyr, yr ydych
wedi eu hyfforddi a’u cefnogi, yn llwyddo.”
Dywedodd Dr Elspeth Dale, o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, a enwebodd Michael am y wobr: “Yr hyn sy’n gwirioneddol osod Mike ar wahân yw ei allu i gysylltu â’i fyfyrwyr ar lefel bersonol. Ar ôl bod ar daith addysgol heriol ei hun, mae’n deall y trafferthion a’r buddugoliaethau wrth gychwyn ar lwybr newydd. “Nid yn unig mae wedi ail-siapio ei fywyd ei hun ond bydd yn cael effaith barhaus ar fywydau ei fyfyrwyr, cydweithwyr a’r gymuned addysgol ehangach.”
Ychwanegodd Michael: “Mae addysg yn ffordd rymus allan o dlodi, ac fe fyddwn yn annog unrhyw un i ddal ar y cyfle ar unrhyw oedran. Byddaf yn parhau i addysgu,
arwain ac ysbrydoli eraill.”