Gina Powell – Enillydd Gwobr Llais Dysgwyr 2025
Pan wnaeth Gina Powell wirfoddoli fel cymhorthydd dysgu yn 2004, ni wnaeth ddychmygu pa mor ganolog fyddai Ysgol Gynradd Pencaerau, yng Nghaerdydd yn dod yn ei bywyd. Cymerodd y swydd wirfoddol i fod yn “wyneb cyfarwydd, cyfeillgar wrth giatiau’r ysgol i deuluoedd i greu pont rhwng y cartref a’r ysgol”.
Yn un oedd am hyrwyddo addysg oedolion, fe wnaeth Gina sicrhau gwaith cyflogedig yn yr ysgol yn fuan ac mae’n swyddog ymgysylltu â theuluoedd yno erbyn hyn. Mae’r “swydd ddelfrydol” yn gadael iddi gefnogi rhieni a theuluoedd. Mae’n cysylltu gyda darparwyr addysg, gan gynnwys Coleg Caerdydd a’r Fro (CAVC) ac Addysg Oedolion Caerdydd, i gynnig cyfleoedd dysgu i rieni ac oedolion. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae 52 o oedolion wedi cwblhau cyrsiau dysgu fel teulu ac addysg oedolion, gyda rhai yn symud ymlaen i’r brifysgol.
“Wrth fod yn hyrwyddwr dysgu rwy’n dangos nad yw bywyd yn dod i ben wrth ddod yn rhiant – fe allant fod yn beth bynnag y maen nhw am ei fod! Rwyf wedi cerdded ar yr un llwybr â llawer o’r teuluoedd yr wyf yn eu cefnogi,” meddai Gina, sy’n fam i dri ac yn fam-gu i bump. “Efallai na wnaeth dysgu ddigwydd iddyn nhw pan oedden nhw’n iau ond nid yw hynny’n golygu ei bod hi’n rhy hwyr. Rwyf wedi dod i ddeall nad yw dysgu yn golygu dim ond cymwysterau; mae’n golygu hyder, perthyn ac agor drysau.”
Yr hyn sy’n gwneud ei gwaith hyd yn oed yn fwy personol yw bod ei merched yn dysgu yn yr ysgol erbyn hyn, yr ysgol yr oedden nhw’n ei mynychu, ac mae ei hwyrion yn ddisgyblion. “Rwy’n caru’r hyn yr wyf yn ei wneud, ac rwy’n caru’r ysgol. Mae’n fwy na gweithle i mi, dyma fy nghartref, fy hanes a’m calon!,” esboniodd Gina. “Rwyf wedi gweld rhieni’n ailgysylltu â dysgu a chael ymdeimlad o hunanwerth o’r newydd. Boed yn anelu am y brifysgol neu ddim ond yr hyder i gymryd y cam cyntaf, rwyf yma i gerdded wrth eu hochrau, achos mae pob cam ymlaen o bwys.
“Erbyn hyn rwyf hefyd yn cael cefnogi Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd eraill a helpu i agor ein hysgol i ddysgu cymunedol ehangach. Pan fyddwn ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd, mae rhywbeth rhyfeddol yn digwydd: mae ein cymuned yn tyfu’n gryfach, yn fwy clos ac yn llawn o bosibiliadau.”
Emma Mcloughlin o CAVC a enwebodd Gina, dywedodd, “Mae ei thaith o fod yn fam i fod yn ddysgwr, yn weithiwr cyflogedig a hyrwyddwr addysg oedolion yn dangos y gall
cael llais dros ddysgu greu newid sylweddol i’w theulu a’i chymuned. Mae hi’n weithredwraig newid allweddol.”