Daniel Mason – Enillydd Gwobr Dysgu ar gyfer Gwell Iechyd
Mae Daniel Mason yn dweud fod addysg oedolion wedi ei dynnu drwy “ddwy flynedd galetaf fy mywyd” a’i osod ar drywydd dyfodol gwell.
Fe wnaeth colli ei fam effeithio ar iechyd meddwl y dyn 29 oed gan arwain at iselder gwael. Cafodd Daniel ei atgyfeirio at Hyb Cymunedol Cwmpawd ym Merthyr Tudful gan Adferiad, sy’n darparu gwasanethau Cymorth yn lleol ar gyfer iechyd meddwl.
“Roeddwn wedi dod yn ynysig o’r byd ac fe wnaeth colli fy mam fy ngadael yn teimlo’n unig iawn,” meddai. “Roeddwn ar fin rhoi’r gorau iddi, heb wybod at bwy i droi a bywyd yn gyffredinol yn fy llethu. Mae’n deg dweud y teimlwn nad oedd unrhyw obaith i fi.
“Ond ar ôl cael fy nghyflwyno i Hyb Cymunedol Cwmpawd, gwelais fod cyfleoedd i ganfod cymorth a chymryd rhan mewn dysgu. Dyma lle dechreuodd fy nhaith i wella fy iechyd mewn gwirionedd.”
Cofrestrodd Daniel ar gwrs Dysgu Drwy’r Awyr Agored a, gyda strwythur cymorth yn ei le, roedd yn fuan yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi ac y gallai gredu ynddo ei hun eto.
Tyfodd ei hyder drwy fynd ar deithiau hir yn ei ardal leol, gan ymuno â theithiau cerdded i ddarganfod lleoliadau newydd, blodau a bywyd gwyllt, a mentro ymhellach nag a wnaeth erioed o’r blaen.
Fe wnaeth pob profiad dysgu gynyddu ei hyder, yn aml gyda chamera yn ei law wrth iddo ddatblygu angerdd am ffotograffiaeth, gan arwain at gwblhau gweithdy pedair wythnos. Mae Daniel hefyd wedi cwblhau cymhwyster Agored Cymru yn seiliedig ar ei weithgareddau yn yr awyr agored.
“Mae’r daith ddysgu yma wedi newid popeth i fi,” meddai. “Mae bod yng nghwmni pobl eraill, a chael gwared â’r unigrwydd a deimlwn a theimlo cysylltiad gyda natur a phrofi’r agwedd gadarnhaol y gallai ei gael ar fy hwyliau wedi bod o fudd mawr i fi.”
Mae Daniel yn defnyddio ei brofiadau ei hun i godi ymwybyddiaeth a chefnogi eraill. Fe aeth hefyd ar daith feiciau elusennol o Ferthyr Tudful i Gaerdydd, gan godi £1,650, ac mae ganddo gynlluniau i godi mwy arian i roi’n ôl i’r rhai a wnaeth ei gefnogi.
Daeth yn batrwm gwych i eraill yn Hwb Cymunedol Cwmpawd a dywedodd Kay Maybank, ei fentor Cymorth cyflogaeth anabledd: “Mae taith Daniel gyda’i iechyd meddwl a dysgu yn parhau a bydd ei agwedd fwy cadarnhaol yn ei alluogi i symud ymlaen hyd yn oed ymhellach, ac i ddod o hyd i swydd maes o law.”