Fred Murad – Enillydd Gwobr Newid Bywyd
Springboard, Pembrokeshire County Council Dechreuodd Fred Murad ar daith a newidiodd ei fywyd pan fu ei wraig, Claire, farw’n drasig o sepsis yn 2021. Gyda dau o blant ifanc i ofalu amdanynt, ei flaenoriaeth oedd sicrhau fod ganddo’r sgiliau i’w cefnogi gyda’u haddysg a symud tuag at ddyfodol mwy disglair.
Ar ôl ymuno â chwrs addysg oedolion Sbardun yn ysgol ei blant yn Sir Benfro, mae wedi croesawu pob cyfle Dysgu a chwblhau 25 cwrs dros y pum mlynedd ddiwethaf, yn cynnwys dysgu fel teulu, rhifedd, llythrennedd, sgiliau digidol a weldio.
Gydag atgofion am ei wraig a’i blant yn ysbrydoliaeth iddo, mae Fred yn awr yn dechrau ar flwyddyn olaf Gradd Sylfaen mewn Addysg Gynhwysol ym Mhrifysgol Cymru Y
Drindod Dewi Sant, ond mae’n bwriadu gwneud blwyddyn ychwanegol i ennill gradd baglor. Ar yr un pryd, mae’n gweithio tuag at Ddyfarniad Lefel 3 mewn Addysg, Addysgu a Dysgu yng Ngholeg Sir Benfro ac mae wedi newid gyrfa o reoli chefs i weithio fel tiwtor weldio yn y coleg.
Ei uchelgais yw dod yn ddarlithydd I ysbrydoli dysgwyr eraill i lwyddo. “Pe byddwn i wedi marw ac nid Claire, fyddwn i ddim wedi bod eisiau iddi hi roi lan, felly fedraf i ddim ei siomi,” meddai Fred.
“Fe wnaeth Sbardun a Dysgu Sir Benfro agor y drws i fi ddysgu tra mod i’n rhoi gofal plant oedd ei fawr angen fel rhiant ar ben fy hun heb gymorth teulu.” Gan annog oedolion eraill i ddychwelyd i ddysgu, dywedodd Fred: “Os cewch gyfle, ewch amdani. Gallai’r cam cyntaf hwnnw i fynd yn ôl i ddysgu fod yr union gyfle rydych ei angen i agor drysau i’ch ysgogi i’r lefel nesaf.
“Rwy’n ei weld fel effaith domino – mae’r dysgu a’r buddsoddiad a wnewch yn awr, gyda help a chymorth staff, i gyd yn gamau bach fydd maes o law yn eich arwain at lle’r ydych eisiau bod.
“Gyda amgylchedd gwaith sy’n symud yn gyflym ac yn newid drwy’r amser, mae dysgu wedi sicrhau mod i’n cadw lan ac nad ydw i’n cael fy ngadael ar ôl.”
Dywedodd Laura Phillips o Sbardun yng Ngholeg Sir Benfro, a enwebodd Fred: “Fel tiwtor, mae gan Fred yr un ffordd o feddwl ag oedd yn ei defnyddio er lles ei blant.
Mae’n dweud nad yw’n mynd i anobeithio am neb ac mae eisiau ysbrydoli pob dysgwr i gredu ynddynt eu hunain a’u gallu i gyflawni.”