SUT I GYMRYD RHAN:
-
Chwilio am gyfleoedd dysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb
Os ydych chi’n cofrestru ar gyfer digwyddiad, beth am ddod â ffrind gyda chi? Rhowch hyder i’ch ffrindiau a’ch teulu i roi cynnig arni hefyd ac ysbrydolwch eraill i ddod i ddigwyddiad Wythnos Addysg Oedolion ym mis Medi.
-
Chwilio am gyngor a chymorth gyrfaoedd arbenigol
Os ydych chi’n chwilio am gyngor ac arweiniad wedi’u teilwra ar feysydd fel cyflogaeth, ail-hyfforddi, gofal plant, straeon dysgu personol, Prentisiaethau, neu gymorth dileu swydd, ewch i’n tudalen Ble Nesaf i gael rhagor o wybodaeth.
-
Cysylltu â ni ar y cyfryngau cymdeithasol
Rydyn ni ar Facebook, X ac Instagram. Defnyddiwch yr hashnodau #cariomlaeniddysgu #wythnosaddysgoedolion a’n tagio yn eich postiadau. Dywedwch wrthym ni beth rydych chi’n ei ddysgu, rhannwch eich stori ysbrydoledig, neu rhannwch sgil.
Beth ddywedodd rhai a gymerodd ran yn yr Wythnos Addysg Oedolion…
“Mae’r digwyddiadau y bûm arnynt wedi bod yn help mawr i fi. Rwyf wedi cael problemau gyda bod yn gaeth i gyffuriau ac alcohol, felly roedd yn ddefnyddiol mynd allan a siarad gyda phobl eraill a fu mewn sefyllfa debyg sydd eisiau mynd nôl i addysg.”
Testimonial 5
“Mae’n braf gwybod fod help yna ar gyfer oedolion gan y gall oedolion fynd yn angosf weithiau.”
Testimonial 4
“Oherwydd yr Wythnos Addysg Oedolion, fe ddaeth fy ngŵr i wybod am gwrs yn yr ardal leol ac mae’n cychwyn arno yr wythnos nesaf.”
Testimonial 3
“Roedd yn gyfle gwych i fynd a gwneud rhywbeth cadarnhaol dros eich llesiant ei hun, roedd yn ddiddorol iawn ac roedd y tiwtor yn rhagorol.”
Testimonial 2
“Fe wnes ffrindiau newydd ac rwy’n teimlo’n fwy hyderus ers mynychu digwyddiad Wythnos Addysg Oedolion”
Testimonial 1
PARTNERIAID YMGYRCH
Caiff yr Wythnos Addysg Oedolion ei chydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, sefydliad polisi, ymchwil a datblygu annibynnol sy’n ymroddedig i ddysgu gydol oes, cyflogaeth lawn a chynhwysiant. Rydym wedi gweithio’n agos gydag ystod eang o bartneriaid a rhanddeiliaid am dros 25 mlynedd i gefnogi cyflwyno’r Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru. Diolch yn arbennig i noddwyr ymgyrch islaw.
Diddordeb mewn cefnogi’r Wythnos Addysg Oedolion?
A ydych yn ddarparydd ?
Ydych chi’n ddarparwr?
Ychwanegwch eich cyrsiau eich hun i’n gwefan.
CYMRU’N GWEITHO
Dysgu sgiliau newydd adechrau’r bennod nesaf
Mae Cymru’n Gweithio yn wasanaeth newydd sy’n galluogi unrhyw un dros 16 oed ledled Cymru i gael mynediad i gyngor ac arweiniad arbenigol i’ch helpu i oresgyn rhwystau a all fod yn eich wynebu i fynd i waith.
Felly p’un ai ydych angen help i chwilio am swyddi, ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliad, canfod lleoliad gwaith, dysgu sgiliau newydd, deall hawliau dileu swydd, cefnogaeth gofal plant, meithrin hunanhyder, neu hyd yn oed ble i droi iddo nesaf, dyma’r lle cywir i gael yr help rydych ei angen.