NEWID DY STORI AR-LEIN
Bydd yr holl weithgareddau dysgu ar gyfer ymgyrch Wythnos Dysgwyr Oedolion eleni (21 – 27 Medi) yn cael eu cyflwyno trwy ein platfform dysgu ar-lein. Gall aros yn gysylltiedig a chymryd y cyfle hwn i ddysgu sgiliau newydd eich helpu i gynyddu eich hyder a datblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol. Maent yn gyflym, yn hwyl ac yn hawdd i’w gwneud ac ni fyddant yn costio dim ond eich amser i chi. Mae yna lawer o feysydd cyffrous i ddewis ohonynt, felly dewiswch bwnc o’ch dewis a newid eich stori ar-lein. Mae gennym hefyd ystod o Ddosbarthiadau Meistr yn cael eu cynnal trwy gydol yr wythnos – gallwch weld yr amserlen dosbarthiadau meistr llawn yma yn ogystal â dod o hyd i gyrsiau gan ddefnyddio’r bar chwilio isod.
CAEL EICH YSBRYDOLI GAN ...
Gall Addysg Oedolion ehangu gorwelion, adeiladu eich rhwydweithiau ac agor drysau, mae’n gyfle i chi wneud dechrau newydd. P’un ai ydych yn edrych am gyfeiriad newydd, gloywi eich sgiliau, gwella eich cyfleoedd swydd, ceisio cyngor newydd ac arweiniad ar gymhwyster, neu yn syml ddysgu rhywbeth newydd. Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn rhad ac am ddim ac ar gyfer pawb.
Islaw mae rhai o straeon ysbrydoledig pobl a gymerodd y cam nesaf i droi eu bywydau o amgylch i adeiladu dyfodol gwell. Bu addysg oedolion yn allweddol i straeon llwyddiant pob un ohonynt ac yn rhaff bywyd i lawer.


Tarek Zou Anghena
Ffodd Tarek Zou Anghena o Syria pan ddechreuodd rhyfel cartref yno yn 2011 a daeth i Brydain lai na dwy flynedd yn ôl i adeiladu bywyd newydd. Tair ar hugain oed oedd e pan gafodd ei orfodi i fynd – roedd ei dref enedigol wedi troi’n faes y gad yn y rhyfel cartref “Roeddwn i ofn am fy mywyd,” meddai Tarek, “Mae gen i bedair chwaer ifancach, tri brawd a fy rhieni. Fe adawon ni i gyd gyda’n gilydd, maen nhw nawr yn byw yn Sweden.”
Roedd Tarek yn ddyn busnes, yn cwrdd â ffrindiau mewn caffes a bwytai, cyn i fywyd bob dydd droi’n beryglus. Wrth i’r teulu ddianc fe gawson nhw’u gwahanu – gyda Tarek yn cyrraedd Prydain ar ei ben ei hun yn 2015 ar ôl treulio blynyddoedd yn alltud yn Iorddonen, yr Aifft a Thwrci. “Fe adawais i heb ddim byd,” medd Tarek. Treuliodd fis yn y gwersyll i ffoaduriaid yn Calais cyn gwneud ei ffordd i Brydain. “Roedd pethau’n ddrwg yn y gwersyll. Roedd bywyd yn anodd, roedden ni’n byw mewn pebyll y rhan fwyaf o’r amser. Roedd asiantaethau’n rhoi bwyd i ni, ond roedd yn lle brawychus i fod ynddo.”
Ym Mhrydain cafodd Tarek statws ffoadur ac ymsefydlodd yng Nghaerdydd ar ôl derbyn lloches. Doedd ganddo ddim Saesneg, ac roedd rhestr aros o chwe mis ar gyfer y cwrs ESOL (Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill) agosaf, felly aeth ati i fynychu pob dosbarth Saesneg gwirfoddol y gallai ddod o hyd iddo.
“Pan gyrhaeddais i roedd yn drist bod ar fy mhen fy hun. Ycyfan allwn i ei ddweud yn Saesneg oedd ‘Hi, (I want to go) London, Cardiff, Manchester neu beth bynnag oedd enw’r dinasoedd, ac ychydig iawn o eiriau.”
Am yr ychydig fisoedd cyntaf mynychodd ddosbarthiadau goroesi Saesneg, yn cael eu cyflwyno gan athrawon gwirfoddol a myfyrwyr prifysgol yng Nghyngor Ffoaduriaid Cymru a Chanolfan Oasis. Cyn gynted y daeth lle ar gael, dechreuodd Tarek astudio mewn dosbarthiadau ESOL ffurfiol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Ddwy flynedd yn ddiweddarach ymgeisiodd am gwrs gradd sylfaen, ac oherwydd ei statws ffoadur roedd yn gallu cymryd rhan yng Nghynllun Noddfa Ffoaduriaid Prifysgol De Cymru. Mae’r cynllun yn darparu paratoad Saesneg dwys am ddim i ffoaduriaid sydd eisiau astudio mewn prifysgol ond ddim yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf.
Dysgwyd Tarek ar dri mis o gwrs Saesneg dwys, y llwyddodd arno y llynedd, a’i galluogodd i gwblhau blwyddyn gyntaf ei gwrs prifysgol yn llwyddiannus. Dywedodd, “Fe fyddwn i’n astudio am tua deuddeg awr y dydd. Ambell waith doeddwn i ddim yn cysgu, rwyf bob amser yn dysgu. Rwy’n gweithio arno bob diwrnod.” Mae newydd gwblhau ei flwyddyn sylfaen ac ym Medi bydd yn dechrau ar flwyddyn gyntaf ei radd tair blynedd mewn Mesur Meintiau a Rheoli Masnachol.
“Roeddwn i’n caru fy hen fywyd,” meddai. “Mae’n anodd esbonio mor galed yw gorfod gadael a dechrau yn rhywle newydd pan ydych chi ddim eisiau mynd. Yn eich cartref mae gyda chi hawliau. Pan fydd eich gwlad yn cael ei rhwygo a mynd yn wan, does gyda chi ddim hawliau, dim llais. Mae dysgu Saesneg wedi newid fy mywyd, rwy’n gallu cael llais. Efallai gwnaf i aros yng Nghymru, efallai deithio’r byd, neu efallai ryw ddydd y bydd hi’n ddiogel i mi ddychwelyd i Syria.”
Mike Chick o Brifysgol De Cymru wnaeth enwebu Tarek. Dywedodd: “Dengys profiad Tarek pa mor bwysig yw ESOL i fywyd ffoaduriaid sy’n ceisio lloches yng Nghymru. Drwy gydweithio mae mudiadau gwirfoddol, dysgu cymunedol a sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch yn chwarae rôl hanfodol mewn integreiddio a chydlyniaeth gymunedol. Llwybr i ymfudwyr oroesi a ffynnu!”


Rhiannon Norfolk
Roedd cael y cyfle i ddysgu Cymraeg yn factor allweddol ym mhenderfyniad Rhiannon Norfolk i symud yn ôl i Gymru. Roedd wedi etifeddu ei chariad at Gymreictod gan ei rhieni, sy’n hanu’n wreiddiol o dde Cymru ac arferai dreulio’u gwyliau bob haf yng Ngwynedd.
Fe ysbrydolodd y gwyliau teuluol hynny Rhiannon I astudio ym Mhrifysgol Bangor ble’r oedd wedi bwriadu dod yn rhugl yn yr iaith, ond oherwydd ei hamserlen brifysgol brysur bu raid iddi roi’r gorau i’w gwersi Cymraeg. “Fe es ymlaen gyda fy mywyd, fel mae rhywun yn gwneud, ond roedd Cymru bob amser yn teimlo fel adref ac roedd gen i’r hiraeth yma am yr iaith.”
Bu rhaid aros nes ei bod yn byw yn Wiltshire flynyddoedd yn ddiweddarach cyn i gyfarfyddiad hap a damwain arwain Rhiannon yn ôl i Gymru. “Gwelais boster am fand o’r enw Calan yn chwarae yn neuadd y dref yn Chippenham,” meddai. “Es draw yno ar fy mhen fy hun ac roeddwn i ar ben fy nigon. Fe deimlais gysylltiad enfawr gyda seiniau prydferth y Gymraeg a’r gerddoriaeth hudolus, a death hynny â rhywfaint o’r hyn oeddwn i wedi ei ddysgu yn ôl.”
Pan welodd swydd yn cael ei hysbysebu yn ei maes hi, sef gwerthuso yn y gwasanaeth iechyd, gwnaeth gais amdani, cafodd y swydd a symudodd i Gymru. Flwyddyn yn ddiweddarach mae bron wedi cwblhau cwrs Cymraeg lefel-sylfaen llwybr carlam yng Nghymuned Ddysgu Penarth.
“Roeddwn i’n teimlo’n nerfus iawn yn mynd yno ond cefais fy sicrhau y byddwn i’n gallu adeiladu ar y sgiliau Cymraeg oedd gen i’n barod, er eu bod nhw’n rhydlyd,” meddai. “Roeddwn i’n poeni y byddwn i mor bell ar ôl pawb arall gyda fy Nghymraeg elfennol iawn a finnau heb fod yn dysgu ers 13 blynedd, ond roedd yn wych. Roedd pawb mor groesawgar ac mae’n rhyfeddol gymaint mae rhywun yn ei gofio.”
Mae Rhiannon yn mynychu’r dosbarth am ddwyawr bob wythnos ochr yn ochr ag ysgolion dydd Sadwrn. Mae’n ymuno â grŵp darllen yng Nghanolfan Ddysgu Cymunedol i Oedolion Palmerston yn y Barri, ac wedi mynychu cwrs preswyl penwythnos gyda’i mam, Gill, sydd hefyd yn dysgu Cymraeg mewn dosbarthiadau yn agos at ei chartref yn Nhrefynwy.
Ar ôl cael canlyniadau rhagorol yn ei harholiad mynediad, mae Rhiannon nawr yn paratoi i sefyll ei hasesiad sylfaen. “Mae dysgu Cymraeg wedi bod yn bleser pur i mi, o’r diwedd rwyf wir yn teimlo ’mod i gartref,” meddai.
Mae Rhiannon yn dioddef o iselder, gorbryder a Syndrom Poen Rhanbarthol Cymhleth, sy’n golygu’i bod yn gorfod defnyddio ffon neu gadair olwyn ac yn achosi poen a blinder cyson.
Dywedodd Rhiannon: “Mae dod i ddosbarthiadau Cymraeg wedi gwneud wahaniaeth mawr i fy iechyd meddwl. Rwy’n mynd ar fy nghyflymder fy hun ac yn cymryd seibiant yn y dosbarth pan fydd angen. Mae dysgu’n rhoi strwythur i mi a lle i wneud ffrindiau. Mae wedi fy helpu i gadw fy ymennydd yn brysur a rhoi teimlad i mi o bwrpas a chyflawni. Roeddwn i wastad yn teimlo’n edifar i mi roi’r gorau i’r Gymraeg ac eisiau datrys hynny, ac rwy’n teimlo mor fodlon nawr fy mod wedi llwyddo.”
Dywedodd Suzanne Condon a enwebodd Rhiannon, “Mae’n amlwg fod dysgwyr eraill yn y dosbarth wrth eu bodd yn ymarfer gyda Rhiannon, mae hi’n wych am eu hannog i ddweud cymaint â allan nhw. Mae hi’n ddysgwraig gyda chenhadaeth ac yn ysbrydoliaeth i eraill.”


Thomas Ferriday
Mae Thomas Ferriday wedi ennill Diploma Gwaith Brics Lefel 3 a nawr yn gweithio yng Ngholeg Caerdydd ar Fro fel technegydd yn yr Adran Adeiladu ble mae’n mentora dysgwyr newydd ar ddechrau eu taith.
Mae Tom wedi dod ymhell, ar ôl treulio blynyddoedd yn byw gyda gwahanol aelodau o’r teulu oherwydd problemau yn y cartref, cyn symud i fflat un ystafell ar ei ben ei hun pan oedd yn 17 oed. Ymwelodd ag elusen ddigartrefedd Llamau, a ddarparodd weithiwr cymorth i’w helpu i roi trefn ar ei faterion ariannol a’i sgiliau byw o ddydd i ddydd. “Fe weithiais allan mod i angen £5 y dydd i brynu bwyd, talu biliau a chael fy hun i’r coleg,” meddai. “Doedd gen i ddim llawer o arian ac roedd rhai diwrnodau nad oedd gen i brin ddigon i gael cinio, ond fe ddaliais I fynd i’r coleg gan fy mod i’n gwybod y byddai hynny’n fy helpu i gael gwaith a chael dyfodol gwell.”
Roedd wedi gadael yr ysgol heb unrhyw TGAU, roedd yn cael ei fwlio ac roedd bywyd gartref yn anodd. “Dwedais i wrtha’n hun o oedran cynnar fy mod i’n mynd I weithio’n galed a derbyn pob cyfle i fynd bant o’r helbulon a dod o hyd i rywbeth oeddwn i’n ei garu. Rwy’n dweud yr un peth wrth fy myfyrwyr.”
Ar ôl gadael ysgol rhoddodd Tom gynnig ar gwrs Paentio ac Addurno. “Wnes i ddim yn dda ar y cwrs hwnnw ond roeddwn i’n gwybod fod gen i lawer i’w gynnig, felly daliais ati,” meddai. Rhoddodd gwylio pytiau ysgogi ar YouTube fwy eto o benderfyniad iddo wneud ei orau. Mae’n dweud, “Roedd yna ddyn gydag anableddau difrifol oedd wedi gwneud pethau anhygoel, doedd e ddim wedi gadael i unrhyw beth ei ddal yn ôl ac roedd yn astudio mewn prifysgol. Meddyliais innau, mae cymaint o bobl wedi bod trwy galedi. Mae gan lawer o bobl brofiadau anodd ond maen nhw wedi newid eu bywydau trwy ddysgu.”
Ymgeisiodd Thomas am 40 swydd heb gael cymaint ag un cyfweliad, ond roedd yn benderfynol o gael gwaith, felly cofrestrodd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ar gwrs Diploma Gwaith Brics Lefel 2.
Gan gymryd dosbarthiadau ychwanegol mewn Mathemateg a Saesneg aeth ymlaen i gwrs Lefel 3. Nawr mae Thomas yn gobeithio y bydd ei sgiliau yn ei helpu I wireddu ei uchelgais i grwydro’r byd.
“Byddwn wrth fy modd yn gweithio ar brosiectau adeiladu yn Affrica,” meddai. “Rwyf wedi cynilo rhywfaint o arian ac yn gobeithio cynllunio rhywbeth ar gyfer gweddill y flwyddyn.”
Dywedodd y darlithydd Gwaith Brics, Paul Sebburn, a enwebodd Thomas, “Roedd ei agwedd at waith yn anhygoel. O’r diwrnod cyntaf roedd eisiau mwy o waith, doedd e byth yn hwyr, roedd ganddo bresenoldeb 100%, ac roedd bob amser yn cyrraedd ei wersi gyda gwên ar ei wyneb. Mae wedi gweithio mor galed i gyrraedd ble mae e a fe fydd y person cyntaf i ddweud nad oedd y Gwaith academaidd yn hawdd iddo, ond mae wedi dal ati.”
Ychwanegodd Thomas: “Rwyf bob amser wedi gorfod brwydro, ond rwyf bob amser wedi bod yn benderfynol o wneud fy ngorau a gwneud pethau ychwanegol i gyrraedd fy nod. Mae gweithio’n galed wedi rhoi cymaint i mi.”


John Spence
Dechreuodd John ei daith ddysgu gyda’r Brifysgol Agored yn 2010, a graddiodd saith mlynedd yn ddiweddarach gyda gradd BSc (Anrh) mewn Gwyddorau Iechyd, cyflawniad sydd yn cael ei ddisgrifio ganddo fel “cyflawniad mwyaf rhyfeddol fy mywyd.”
Roedd John wedi cael trafferth yn dysgu yn yr ysgol. Roedd ganddo ddyslecsia difrifol ac ADHD, a dywedwyd wrtho “y byddai’n fethiant, ac nad oedd yn haeddu cael ei addysgu gydag eraill”. Meddai, “Roeddwn i’n cael fy ngwneud i deimlo ac i edrych yn dwp drwy’r amser. Roeddwn yn cael fy ngwneud yn destun sbort gan fy athrawon, ac yn cael fy mychanu o flaen plant eraill. Cefais fy ngwneud i sefyll ar gadair a darllen o flaen y dosbarth. Fe wnaethon nhw esiampl ohonof, heb sylwi fy mod i wir angen help. Cafodd fy hyder ei chwalu, a dechreuais ddatblygu atal dweud.”
Ymunodd John â’r fyddin ar ôl gadael yr ysgol, a gwasanaethodd fel Comando y Fyddin yn Irac ac yn Affganistan. Cafodd ei wthio i’w gyfyngiadau corfforol, a chafodd fywyd milwrol llwyddiannus, ond fe barhaodd i frwydro gyda’r demoniaid personol oedd wedi cael eu plannu yn ei blentyndod.
Nid oedd erioed wedi dweud wrth unrhyw un nad oedd yn gallu darllen nac ysgrifennu. Dim ond pan adawodd y Fyddin yn 2000, a phan oedd yn gweithio fel Parafeddyg ar y Môr, y cafodd ei gyfrinach ei darganfod. “Roeddwn i’n arfer dysgu popeth ar gof. Mae’r fyddin yn gorfforol iawn, felly roedd hi’n hawdd cuddio. Ond roeddwn i’n gwybod bob amser y buaswn i’n ofnadwy mewn arholiad. “Sylwodd ei hyfforddwr fod rhywbeth yn bod, a dywedodd wrtho ei fod yn ddigon clyfar i barhau â’i freuddwyd i gael gyrfa mewn meddygaeth – ac anogodd ef, yn 34 oed, i ailymuno â’r byd addysg.
Roedd John yn nerfus iawn, ond gwnaeth ymholiadau gyda’r Brifysgol Agored. Cafodd asesiadau ar gyfer dyslecsia eu gwneud a gyda chefnogaeth tiwtoriaid, gwnaeth gynnydd da. Yna, cafodd ei ddiagnosio gydag anhwylder gweledol sy’n gysylltiedig â dyslecsia. Er ei fod angen cymryd mwy o amser i ddarllen trwy lyfrau testun a chwblhau aseiniadau, daliodd John ati, gan fuddsoddi amser ac ymdrech i feistroli technoleg gynorthwyol. Roedd gweithio oddi ar y tir yn cyflwyno heriau ychwanegol yn ystod amseroedd arholiadau, ond llwyddodd i oresgyn y rhain drwy recriwtio Capten y Llong i weithredu fel goruchwyliwr!
Roedd y diwrnod graddio yn ddiwrnod emosiynol dros ben. “Does dim geiriau i ddisgrifio’r ymroddiad, yr amynedd a’r anogaeth a gefais gan fy nhiwtoriaid. Dechreuais gyda nhw fel milwr wedi torri, ond nawr, ar ôl siwrnai hir, ‘dwi wedi symud ymlaen, a dwi’n rhedeg fy nghwmni meddygol fy hun. ”
Erbyn hyn, mae John yn uwch swyddog meddygol sy’n teithio’r byd, ac sy’n gyfrifol am iechyd criw o 150 o bobl ac am redeg ei fusnes meddygol ei hun, o’r enw PATRONAS Rescue International. Mae ei fusnes wedi’i seilio ar yr egwyddor o gefnogi eraill, addysgu gofal brys cyn mynd i’r ysbyty i dimau o feddygon, a darparu


Jimama Ansumana
Ganed Jimama (JJ) yn Sierra Leone, Gorllewin Affrica, ym 1995. Collodd ei theulu cyfan yn ystod y rhyfel cartref ac yn 7 oed, cafodd ei hachub gan ffrindiau i’r teulu a lwyddodd i ddod â hi i’r DU pan wnaethant ffoi.
Yn methu siarad Saesneg heb unrhyw addysg flaenorol na theulu yn y DU, cafodd Jimama ei symud rhwng sawl cartref maeth. Amharodd y plentyndod ansefydlog a di-drefn hwn ar addysg JJ a chynyddu ei phryder, gan arwain at swildod eithafol.
Yn 10 oed, cafodd Jimama ddiagnosis o ddyslecsia. Cafodd gymorth dysgu a oedd o gymorth, ond roedd yn dal i weld yr ysgol yn heriol a chafodd raddau G yn ei harholiadau TGAU.
Ond, rhoddodd taith addysgol Jimama ar ôl gadael yr ysgol hi ar y llwybr tuag at lwyddiant. Ymrestrodd ar gwrs Trin Gwallt lefel 1 yng Ngholeg Gŵyr Abertawe lle cafodd ei hanghenion dysgu eu cydnabod a’u cefnogi o’r cychwyn. Dechreuodd ffynnu a daeth ei phersonoliaeth hapus, wirioneddol i’r amlwg. Aeth ymlaen i astudio cymwysterau lefel 2 a 3 mewn Trin Gwallt a Therapi Harddwch, ynghyd â hyn, aeth ymlaen i wella ei sgiliau hanfodol. Bellach yn 21 oed, bydd JJ yn cymhwyso ac yn gorffen yn y coleg ym mis Mehefin a bydd yn dechrau ar daith o antur – yn llythrennol – am ei bod wedi cael swydd mewn sba ar long fordeithio.
Dywed Jimama, “Mae’r holl heriau wedi fy ngwneud yn fwy penderfynol o fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd yr wyf wedi eu cael. Byddwn yn dweud os oes gennych freuddwyd a’ch bod ei eisiau gymaint, yna gweithiwch yn galed a pheidiwch â gadael i unrhyw beth eich rhwystro. Nid wyf wedi cael llawer o sefydlogrwydd yn fy mywyd, collais fy mam a’m tad yn ifanc iawn, ond rwy’n siŵr y byddent yn falch iawn ohonof nawr. Mae dod i’r coleg a chael cymwysterau wedi rhoi strwythur, cyfeillgarwch a dyfodol i mi.”


Andrea Garvey
Roedd gan Andrea Garvey uchelgais bob amser i astudio’r gyfraith. Pan ddaeth yn fam yn 16 oed ac yn magu dau blentyn ar ei phen ei hun, yn 21 oed, ac yn dioddef o ymosodiadau pryder difrifol, rhoddodd ei huchelgais o’r neilltu fel “breuddwyd gwrach”.
Effeithiodd ei phryder a’i hiselder ar ei chyfleoedd ar gyfer gwaith, ond rhoddodd astudio ffocws iddi. Cwblhaodd Andrera gwrs blwyddyn gyda’r Brifysgol Agored ac ennill tystysgrif mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Dywedodd, “Gyda dau blentyn i ofalu amdanynt roeddwn i’n gwybod fod rhaid i mi ddal i frwydro yn erbyn yr awydd i guddio fy hun. Dechreuais gwrs dysgu o bell oedd yn help i mi sianelu fy egni nerfus. Roeddwn i’n benderfynol o weithio a bod yn fodel rôl dda.”
Cam nesaf Andrea oedd gwirfoddoli am ddwy flynedd mewn cartref preswyl, gan ennill NVQ Lefelau 2 a 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac yna dechreuodd weithiogydag Ymddiriedolaeth Shaw, yn cefnogi pobl gydag anableddau.
Yn dal i frwydro gyda phroblemau iechyd meddwl, mae’n dweud, “Yn rhyfedd iawn, yr un peth wnaeth fy helpu oedd astudio. Fe helpodd fi i ganolbwyntio ar rywbeth arall yn hytrach na fy mhroblemau fy hun a daeth yn fendith annisgwyl.”
Pan enillodd Lefel 5 mewn Rheoli fe brofodd hynny I Andrea y gallai gyrraedd lefelau dysgu uwch a phan oedd yn wynebu colli ei gwaith dechreuodd feddwl eto am ei huchelgais ym myd y gyfraith. “Roeddwn wedi argyhoeddi fy hun fod fy uchelgais gyfreithiol ar ben a bod fy nghyfle wedi mynd – ond doeddwn i ddim yn credu hynny, er gwaethaf fy oed, hwn oedd cyfle mawr fy mywyd – roeddwn i’n mynd i gwblhau gradd yn y gyfraith.” Yn 48 oed, ymrestrodd ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer gradd lawnamser yn y gyfraith. Dywedodd, “Dyma’r peth anoddaf i mi ei wneud erioed. Doedd gen i ddim cynilion a heb fod mewn ystafell ddosbarth am fwy na 30 mlynedd.”
Enwebwyd Andrea gan ei merch Lucie, a ddywedodd: “Mae bywyd Mam wedi bod yn galed ond mae cryfder ei chymeriad yn ysbrydoliaeth – er gwaethaf yr holl rwystrau mae wedi cymryd rheolaeth o’i bywyd a dilyn ei breuddwydion. Roedd ganddi fynyddoedd o waith i’w gwblhau gartref, yn ogystal â cheisio ymdopi ar fenthyciadau myfyriwr fel rhiant sengl. Doedd neb yn credo y byddai hi’n para’n hir… yn amlwg doedden nhw ddim yn adnabod fy mam yn ddigon da. Byddai’n gweithio tan yn hwyr y nos, roedd yn gorfod colli rhai darlithoedd oherwydd ei gorbryder, felly roedd rhaid iddi ddysgu adref ar ei phen ei hun. Ond fe wnaeth ei phenderfyniad i gyflawni uchelgais oes ei gyrru ymlaen.”
Pan gafodd chwaer Andrea ddiagnosis canser terfynol dechreuodd Andrea ofalu amdani hithau yn ogystal â dal i astudio, gan wrthod gohirio’i hastudiaethau. Gadawodd marwolaeth ei chwaer hi mewn trallod ond yn fwy penderfynol nag erioed i gwblhau ei harholiadau.
Graddiodd Andrea yn haf y llynedd, 35 mlynedd ar ôl gadael yr ysgol heb unrhyw ymwysterau. “Roeddwn wrth fy modd, fe es â’r wn adre gyda fi a’i gwisgo o amgylch y tŷ cyn mynd â hi nôl y trannoeth.” Mae’n awr hanner ffordd drwy radd Meistr mewn cyfraith uwch a throseddeg ac mae’n gweithio i gymhwyso fel cyfreithiwr.
“Mae cynifer o bobl yn wynebu’r un problemau â fi. Mae’n bwysig iddynt wybod – gallem fod i lawr, ond dydyn ni ddim allan! Rwyf eisiau i famau ifanc, unrhyw un sydd wedi colli eu hyder a’u cred i wybod – peidiwch rhoi lan – nid yw am byth – dim os nad ydych eisiau iddo fod.”
Cliciwch y botwm islaw am fwy o straeon newid bywyd gan bobl ar draws Cymru.
Rhannu sgiliau tu hwnt i Gymru
Edrychwch ar y digwyddiadau ar-lein sy’n digwydd tu hwnt i Gymru. Fe welwch amrywiaeth eang o gyrsiau ar-lein gydag achrediad, sesiynau blasu a sesiynau tiwtorial sydd ar gael i bawb ble bynnag yr ydych.
Canfod mwy o ddigwyddiadau ar-lein
CYMRU’N GWEITHO
Dysgu sgiliau newydd adechrau’r bennod nesaf
Mae Cymru’n Gweithio yn wasanaeth newydd sy’n galluogi unrhyw un dros 16 oed ledled Cymru i gael mynediad i gyngor ac arweiniad arbenigol i’ch helpu i oresgyn rhwystau a all fod yn eich wynebu i fynd i waith.
Felly p’un ai ydych angen help i chwilio am swyddi, ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliad, canfod lleoliad gwaith, dysgu sgiliau newydd, deall hawliau dileu swydd, cefnogaeth gofal plant, meithrin hunanhyder, neu hyd yn oed ble i droi iddo nesaf, dyma’r lle cywir i gael yr help rydych ei angen.
AMDANOM NI
Yr Wythnos Addysg Oedolion yw gŵyl ddysgu flynyddol fwyaf y Deyrnas Unedig. Bellach yn ei 28fed flwyddyn, caiff yr ymgyrch ei dathlu mewn dros 55 o wledydd ym mhob rhan o’r byd a bob blwyddyn gwelwn dros 10,000 o oedolion yng Nghymru yn cymryd rhan yng ngweithgareddau’r Wythnos Addysg Oedolion. Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth o werth addysg oedolion, dathlu llwyddiannau pobl a phrosiectau rhyfeddol ac ysbrydoli mwy o bobl i ddarganfod sut y gall dysgu newid eu bywydau mewn modd cadarnhaol.
Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cydlynu’r Wythnos Addysg Oedolion mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru.