Wedi’i sefydlu ym 1988, mae ACT wedi bod yn cynnig nifer o gyrsiau cyrsiau hyfforddi, gan gynnwys cyrsiau byr a chymwysterau sy’n helpu pobl i gyrraedd eu potensial llawn. O Hyfforddeiaethau, Prentisiaethau a Phrentisiaethau Uwch ar draws 30 o wahanol sectorau, mae ACT yn gweithio gyda dysgwyr o amryw o wahanol gefndiroedd ac mae ganddo dros 6,500 o bobl yn cwblhau cymwysterau bob blwyddyn yn llwyddiannus.
Cenhadaeth y cwmni yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl, thrwy eu darpariaeth addysg, gweithio tuag at y nod o wneud Cymru yn lle gwell, yn gymdeithasol a gwella’r economi.
Gan gyflogi 360 aelod o staff ar draws 7 safle yng Nghymru, roedd ACT yn 52ain ar rhestr Sunday Times 100 Best Companies ar gyfer 2020, mae wedi ymddangos yn y rhestr am y 6 blynedd diwethaf. Yn 2018, dyfarnwyd gowbr ‘Large Responsible Business of the Year’ i ACT gan Business in the Community Cymru.
Rydym yn cynnig Hyfforddeiaethau, Prentisiaeth a Phrentisiaethau Uwch ar draws 30 o wahanol sectorau, o hyfforddiant cyflogadwyedd i chyrsiau masnachol byr, mae gennym rywbeth i bawb a, dyma’r darn da, mae’r rhan fwyaf o’n hyfforddiant wedi’i ariannu’n llawn.
-
Gwybodaeth Cyswllt
- Ffôn: 02920 464727
-
Cyfeiriad:
Ocean Park House
East Tyndall Street
Cardiff
CF24 5ET
Ni ddarganfuwyd digwyddiad tebyg