Groundwork North Wales
Newid Lleoedd : Newid Bywydau
Mae Groundwork Gogledd Cymru yn helpu pobl a sefydliadau i wneud newidiadau er mwyn creu gwell cymdogaethau, meithrin sgiliau a gwella rhagolygon swyddi a byw a gweithio mewn ffordd fwy gwyrdd.
Rydym yn gweithio gyda chymunedau lleol, cyrff cyhoeddus, cwmnïau preifat a sefydliadau sector gwirfoddol eraill i gefnogi cymunedau mewn angen.
Mae gennym flynyddoedd lawer o brofiad o gyflenwi cyrsiau hyfforddi, ac mae ein holl hyfforddwyr cymwysedig yn cyflwyno cyrsiau mewn ffordd ymarferol a difyr sy’n cydnabod arddulliau dysgu gwahanol. Gallwn deilwra hyfforddiant i ymdrin yn fwy manwl â’r meysydd hynny sy’n fwyaf perthnasol i’ch anghenion busnes ac amgylchedd gwaith.
Mae ein prosesau sicrwydd ansawdd yn sicrhau bod ein holl gyrsiau hyfforddiant yn effeithiol ac yn cynnig cysondeb er mwyn i ni fodloni anghenion dysgwyr a chynnal safonau uchel. Rydym wedi gallu ymateb yn gyflym i addasu’r ffordd rydym yn darparu hyfforddiant, gan symud i ddulliau gweithio a dysgu o bell yn llwyddiannus iawn!
Yn ogystal â hyn, rydym yn sefydliad nid-er-elw sy’n cynnig gwasanaeth o ansawdd uchel a gwerth am arian. Mae holl elw ein gwasanaethau hyfforddiant yn cael ei ailfuddsoddi er budd cymunedau lleol.
Mae ein darpariaeth yn ystyried yr amrywiaeth yn arddulliau dysgu ac anghenion gwahanol bobl, gan gynnig atebion ymarferol i sicrhau ein bod yn addasu ein dulliau addysgu er mwyn bod yn gynhwysol.
-
Gwybodaeth Cyswllt
- Ffôn: 01978757524
-
Cyfeiriad:
3-4 Plas Power
Tanyfron
Wrexham
LL11 5SZ
Ni ddarganfuwyd digwyddiad tebyg