Addysg a Chyflogadwyedd
Welsh Refugee Council
Sgiliau ar gyfer integreiddiad
Mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid i Gymru o bob cwr y byd, gan gyfoethogi ein diwylliant a helpu gwneud Cymru yn genedl amlddiwylliannol ac amlieithog sy’n edrych tuag allan.
Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau ein bod ni’n darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i integreiddio i fywyd Cymru yn llawn.
Sut yr ydym yn helpu
Rydym yn cynnig gwersi Saesneg a Chymraeg i geiswyr lloches a ffoaduriaid gyda lefelau o ddechreuwyr ymlaen. Mae’r gwersi’n dod â phobl o wahanol wledydd a chyfandiroedd ynghyd i astudio gyda’i gilydd a gwneud ffrindiau ar hyd y ffordd.#
Rydym yn cynnig cyrsiau byr arbenigol i geiswyr lloches a ffoaduriaid sydd wedi cynnwys Dehongli Gwasanaethau Cyhoeddus, gwersi rhifedd a gweithdai CV.
.
Rydym yn gwella’r sgiliau a phrofiadau y mae pobl yn dod â nhw drwy ddarparu cyfleoedd i wirfoddoli. Mae gwirfoddolwyr o gefndiroedd ffoadur yn helpu gweithwyr achos, dehongli a sicrhau bod cleientiaid yn cael eu croesawu i’n swyddfeydd. Darparir hyfforddiant arbenigol.
Rydym yn cydweithio’n agos â sefydliadau sy’n cefnogi llwybrau i gyflogadwyedd ac sy’n gallu cyfeirio cleientiaid ar gyfer asesiadau a chynllunio unigoledig. Mae ein partneriaeth Integreiddiad Diwylliannol gyda Jobcentre Plus yn cynnig cyfle i gleientiaid ddysgu rhagor am y byd weithio yn y DU.
Mae ein tîm yn helpu pobl i ddarllen a deall cytundebau tenantiaeth, biliau a chontractau bob dydd – y sgiliau allweddol sydd eu hangen i fyw a gweithio yn y DU.
Gallwch chi ein helpu i gefnogi ffoaduriaid wrth greu dyfodol newydd yng Nghymru drwy roi yma.
Manylion
Adnodd ar-lein yw hwn
- Rhanbarth: De Ddwyrain Cymru
- Arddull Dysgu: Ar-lein
- Ffôn: 07837942463
- E-bost: employment@wrc.wales