Cwrs Llysgennad Twristiaeth Cymru
Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Cymru
Mae Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Cymru yn set o gyrsiau ar-lein, am ddim a fydd yn eich cyflwyno i wahanol ardaloedd ac atyniadau yng Nghymru. Gallwch ddewis unrhyw gwrs sy’n berthnasol i ble rydych chi byw, neu beth sydd o ddiddordeb i chi.
Dewch yn Llysgennad ar gyfer pob sir drwy weithio eich ffordd drwy’r gyfres hon o fodiwlau hyfforddi ar-lein, gan roi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i rannu’r negeseuon am yr hyn sy’n gwneud Cymru’n lle mor wych i ymweld ag ef, i fyw ac i weithio ynddo.
I ddod yn Llysgennad ar unrhyw un o’r cyrsiau, bydd yn rhaid i chi gyrraedd y dystysgrif lefel Efydd trwy basio’r nifer gofynnol o fodiwlau. Efallai y bydd rhai modiwlau yn orfodol.
Mae pob modiwl yn gymysgedd o destun, fideos a lluniau, gyda chwis ar y diwedd am gynnwys y modiwl.
*Ychydig o bethau i’w cofio*
1. Rhaid i chi gofrestru ar y wefan cyn y gallwch wneud y cwrs.
2. Cofiwch mai eich Enw Defnyddiwr fydd eich e-bost.
3. Rhaid chwarae pob fideo YN LLAWN cyn y byddwch yn gallu parhau â’r modiwl.
4. I ddod o hyd i’r Cwis ar gyfer pob modiwl, rhaid sgrolio i waelod tudalen trosolwg y modiwl a chlicio ar y ddolen. (Ac eithrio lle mae cwisiau yn digwydd o fewn y modiwl.)
5. Mae’n rhaid i chi basio unrhyw fodiwlau gorfodol cyn rhyddhau’r cwisiau ar gyfer gweddill y modiwlau.
6. Os na fyddwch chi’n pasio’r cwis ar eich ymgais gyntaf. Cliciwch i ‘View Answers’ lle gallwch wneud nodyn o’r rhai a gawsoch yn anghywir, i wella’ch sgôr y tro nesaf.
7. Peidiwch â newid eich iaith ar ôl i chi ddechrau’r cwrs. Ni allwn warantu y bydd eich cynnydd yn cael ei gadw os byddwch yn newid iaith.
Manylion
Adnodd ar-lein yw hwn
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Arddull Dysgu: Ar-lein
- Ffôn: 01824 706146
- E-bost: tourism@denbighshire.gov.uk