Cydweithrediad ESOL rhwng Coleg Caerdydd a’r Fro ac OASIS Caerdydd
Coleg Caerdydd a´r Fro

Fel rhan o Wythnos Addysgwyr Oedolion, rydym yn falch o ddathlu’r cydweithrediad rhwng Coleg Caerdydd a’r Fro ac Oasis, Caerdydd. Mae’r coleg a’r ganolfan gymunedol wedi ymuno i gyflwyno sesiynau ESOL wedi’u teilwra ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid.
Gan rannu eu profiad o gyflwyno ESOL CAVC, dywedodd y dysgwyr:
‘Rydym wedi mwynhau a gwneud cynnydd gwych yn Oasis gyda’r addysgu gan CAVC. Roedd eu staff yn hyfryd’.
Mae’r bartneriaeth hon yn ymgorffori ysbryd cydweithio a chysylltiad, gan greu mannau croesawgar lle gall dysgwyr feithrin sgiliau iaith, hyder a chymuned. Gyda’n gilydd, rydym yn agor drysau i gyfleoedd ac yn cefnogi dyheadau dysgwyr.
Manylion
- Dyddiad: 15th Medi 2025 
- Amser: 9:00am - 4:00pm
- Rhanbarth: De Ddwyrain Cymru
- Ffôn: 02920 250 250
- E-bost: esol@cavc.cuk