Cyflwyniad i asesiad coedwig law cyflym a rheolaeth
Ers lansio yn 20120 mae rhaglen Llysgennad Eryri yn gyfle unigryw i ddysgu am yr hyn sy’n gwneud Eryri yn eithriadol gan chware eich rhan i warchod y Parc Cenedlaethol am genedlaethau i ddod. Mae Llysgennad Eryri yn cynnig hyfforddiant o ansawdd uchel i unigolion o bob cefndir sy’n awyddus i ddysgu am y Parc Cenedlaethol. Mae’r mwyafrif o’r hyfforddi yn digwydd ar-lein, serch hynny mae digwyddiadau wyneb yn wyneb yn digwydd pan fydd cyfleoedd yn codi.
Bydd y digwyddiad penodol hwn yn cael ei gyd-gordio gan Barc Cenedlaethol Eryri (Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd) a Plantlife. Bydd y bore yn cynnwys cyflwyniadau gan dîm y prosiect ac arbenigwyr yn y maes yn Neuadd Bentref Llanelltud, gyda phrynhawn o hyfforddiant yn goedwig law yn edrych ar wahanol rywogaethau o goed a chenau a bioamrywiaeth amrywiol o fewn y cynefin.
Manylion
- Dyddiad: 15th Medi 2024 
- Amser: 10:30am - 3:00pm
- Rhanbarth: Gogledd Orllewin Cymru
- E-bost: llysgennad.eryri@eryri.llyw.cymru