Cymerwch Ran Gefn Llwyfan yn eich Theatr Gymunedol Leol
Bitesize Youth Theatre/Reactivate Charity
![cymerwch-ran-gefn-llwyfan-yn-eich-theatr-gymunedol-leol](https://adultlearnersweek.wales/wp-content/uploads/2023/08/Bitesize-Logo-1.jpg)
Ydych chi erioed wedi bod eisiau darganfod mwy am theatr gymunedol ond ddim eisiau perfformio? Oes gennych chi ddiddordeb mewn goleuo, sain, gwisgoedd, gwneud golygfeydd, rheoli llwyfan neu golur? Hoffech chi ddysgu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant lleol? Eisiau darganfod sut mae cynhyrchiad yn mynd o dudalen i lwyfan? Fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion 2023, rydym yn cynnal diwrnod o weithdai ar agweddau technegol theatr gymunedol. Bydd cyfleoedd pellach i gymryd rhan yn y cynhyrchiad o’n Sioe Gerdd Gymunedol ym mis Chwefror 2024. Mae croeso i chi fynychu pob un neu rai o’r gweithdai sydd ar gael. Cysylltwch â ni am fanylion pellach. Byddem wrth ein bodd yn eich croesawu ac yn rhannu ein profiad a’n brwdfrydedd.
Manylion
- Dyddiad: 23rd Medi 2023 
- Amser: 10:00am - 3:00pm
- Rhanbarth: Gogledd Ddwyrain Cymru
- Ffôn: 07731 410590
- E-bost: admin@bitesizetheatre.co.uk