Dewch i Ddarganfod – Diploma Mynediad i Addysg Uwch
Quality Assurance Agency for Higher Education

Yn ystyried astudio ar lefel prifysgol, ond ddim yn bodloni’r gofynion mynediad? Gallai Diploma Mynediad i Addysg Uwch eich arwain yno. Ymunwch ag un o’n sesiynau cyflwyniadol ar-lein, a gynigir fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion, i ddysgu mwy am sut mae’r cymhwyster yn gweithio, ffynonellau ariannu posibl a sut i ddod o hyd i’r cwrs cywir i chi.
• Dydd Mawrth 16 Medi 12:00-12:50
• Dydd Mercher 17 Medi 13:00-13:50
• Dydd Iau 18 Medi 14:00-14:50
Mae Mynediad i AU yn gymhwyster Lefel 3 a gydnabyddir yn genedlaethol sydd wedi’i gynllunio’n benodol i baratoi unigolion, fel arfer 19 oed a hŷn, sydd heb gymwysterau mynediad traddodiadol (fel Lefel A neu Fagloriaeth Cymru) ar gyfer astudiaeth ar lefel prifysgol. Mae’r cyrsiau dwys hyn, sydd fel arfer yn para blwyddyn yn llawn-amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser, yn darparu’r wybodaeth academaidd angenrheidiol am y pwnc a’r sgiliau astudio hanfodol i fyfyrwyr i symud ymlaen yn hyderus i ystod eang o raglenni gradd mewn prifysgolion ledled y DU.
Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal gan Claire Swales, un o swyddogion yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y mae ei chylch gwaith yn cwmpasu ansawdd darpariaeth y Diploma ledled y DU.
Cynhelir Wythnos Addysg Oedolion rhwng 15 a 21 Medi 2025 – dysgwch fwy am sesiynau eraill sydd ar gael yn https://adultlearnersweek.wales/find-an-event/?lang=cy
Chwiliwch am Ddiplomâu a darganfyddwch fwy am y cymhwyster a’r cyllido sydd ar gael trwy www.accesstohe.ac.uk
*****************************************
Mae QAA yn asiantaeth ansawdd sydd ymysg y gorau yn y byd, â phrofiad heb ei ail o ddarparu sicrwydd a gwelliant ansawdd rheoleiddiol a chydweithredol diduedd. Rydym yn gweithio ledled y DU ac yn rhyngwladol i sicrhau bod myfyrwyr a dysgwyr yn cael profiadau addysgol o’r ansawdd uchaf posibl. Rydym yn elusen annibynnol, y mae llywodraethau a chyrff cyllido yn ymddiried ynddi. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr addysg uwch a cholegau, gan gynnwys trwy her adeiladol, gan eu cynorthwyo gyda gwelliant gan barchu eu hymreolaeth academaidd.
Mae QAA wedi rheoli’r cynllun ar gyfer cydnabyddiaeth a sicrhau ansawdd cyrsiau Mynediad i AU ers 1997. Rydym yn gweithio i sicrhau bod cyrsiau Mynediad i AU yn darparu paratoad da ar gyfer addysg uwch i fyfyrwyr sy’n oedolion, a bod y safon ar gyfer dyfarnu Diplomâu Mynediad i AU yn cael ei chynnal ledled Cymru a Lloegr.
Manylion
- Dyddiad: 18th Medi 2025 
- Amser: 2:00pm - 2:50pm
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Ffôn: 01452 557060
- E-bost: ahe@qaa.ac.uk