Gweithdy Gwnïo i Ddechreuwyr
Repair Cafe Wales
Pryd: 5–7pm, dydd Iau 24 Medi
Ble: CAD405, Adran Ffasiwn, Prifysgol De Cymru, Campws yr Atriwm, 86-88 Stryd Adam, Caerdydd CF24 2FN
Cost: Am ddim
Mae’r gweithdy am ddim hwn wedi’i gynllunio ar gyfer llwyr ddechreuwyr a bydd yn rhoi’r hyder i chi godi nodwydd ac edau (neu eistedd wrth beiriant gwnïo) am y tro cyntaf.
Dros ddwy awr, byddwch yn cael cyflwyniad i ddefnyddio peiriant gwnïo ochr yn ochr â sgiliau gwnïo hanfodol â llaw. Yna byddwch yn cael eich tywys trwy dorri patrwm ar gyfer bag ‘tote’ neu becyn gwnïo (eich dewis chi!) yn barod i’w gymryd adref a’i gwblhau yn eich amser eich hun.
Bydd pob cyfranogwr yn gadael gyda’u darnau patrwm a phecyn gwnïo i ddechreuwyr i’w cadw, fel y gallwch barhau i ymarfer ar ôl i’r gweithdy ddod i ben.
Os bydd amser yn caniatáu, byddwch hefyd yn cael y cyfle i sgwrsio â’n trwsiwr arbenigol a chasglu awgrymiadau a chyngor ar drysiadau dillad a thecstilau.
Nid oes angen profiad; dewch â’ch brwdfrydedd yn unig!
Gwybodaeth bwysig:
Pan gyrhaeddwch Atriwm Prifysgol De Cymru, cofrestrwch yn y dderbynfa ac aros i gael eich casglu. Eich pwynt cyswllt yw Torunn Kjolberg
Rhowch wybod i ni ar y ffurflen archebu os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd
Manylion
- Dyddiad: 24th Medi 2026 
- Amser: 5:00pm - 7:00pm
- Rhanbarth: De Ddwyrain Cymru
- E-bost: info@repaircafewales.org