Gweminar am ddim – Hyrwyddo Llythrennedd Digidol a Lles Digidol i Blant a Phobl Ifanc mewn oes Deallusrwydd Artiffisial (AI)
WISE KIDS
Fel rhan o’r Wythnos Addysg Oedolion, mae’n bleser gan WISE KIDS gynnig gweminar 90 munud am ddim i rieni, gofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol ar draws Cymru ar 17/9/2024 rhwng 5.15pm a 6.45pm (gan ddefnyddio Teams) – Hyrwyddo Llythrennedd Digidol a Lles Digidol i Blant a Phobl Ifanc mewn oes Deallusrwydd Artiffisial (AI).
Bydd y weminar hon yn cynnig trosolwg byr o’r tirlun digidol sy’n newid, gan ganolbwyntio ar ddatblygiadau AI. Bydd yn archwilio’r sgiliau llythrennedd digidol, y gwerthoedd a’r cydnerthedd y mae eu hangen ar blant a phobl ifanc er mwyn iddynt barhau i fod yn ddinasyddion digidol wedi’u grymuso.
Gallwch gofrestru yma: https://forms.gle/DMfpU6EzjjWFmrNM9
Bydd pawb sy’n cofrestru yn cael y manylion i ymuno 3 diwrnod cyn y digwyddiad.
Cefnogir y gweithdy hwn yn garedig gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru, fel rhan o’r Wythnos Addysg Oedolion.
Manylion
- Dyddiad: 17th Medi 2024 
- Amser: 5:15pm - 6:45pm
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Ffôn: 01633673339