Gweminar ar Ddiogelwch Seicolegol yn y Gweithle
Cymru Iach ar Waith
Ymunwch â ni a Lianne Weaver, Rheolwr Gyfarwyddwr Beam, i gael mewnwelediad difyr ar ddiogelwch seicolegol yn y gweithle.
Cynlluniwyd y sesiwn hon i helpu cyflogwyr ledled Cymru i gryfhau eu hagwedd at ddiogelwch seicolegol a chreu gweithleoedd lle gall cyflogwyr hyrwyddo gweithleoedd diogel.
Bydd y weminar yn rhoi sylw i’r canlynol:
Diogelwch seicolegol: beth ydyw a beth nad ydyw
Cydnabod rôl diogelwch seicolegol mewn llesiant a diwylliant tîm
Myfyrio ar eich profiadau eich hun o ddiogelwch (neu ddiffyg ohono) yn y gweithle
Dysgu am offer ymarferol i ddechrau meithrin mwy o ymddiriedaeth, didwylledd a chefnogaeth
Byddwch yn gadael yn teimlo wedi’ch grymuso i fod yn rhan o ddiwylliant mwy diogel i bawb
Pwy all gymryd rhan?
Mae’r weminar hon ar agor i bob cyflogwr yng Nghymru yn cynnwys rheolwyr, arweinwyr adnoddau dynol, rheolwyr pobl, ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn creu gweithle sy’n ddiogel yn seicolegol.
Sesiwn Holi ac Ateb
Bydd amser i ofyn cwestiynau Lianne Weaver a Cymru Iach ar Waith, gan gynnwys yr opsiwn i ofyn cwestiynau’n ddienw.
Manylion y gweminar
Dyddiad: 26 Tachwedd 2026
Amser: 10:00 – 11:00
Lleoliad: Ar-lein (rhoddir y ddolen ar adeg cofrestru)
Archebwch eich lle nawr!
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu.
Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â ni.
Manylion
- Dyddiad: 26th Tachwedd 2026 
- Amser: 10:00am - 11:00am
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- E-bost: WorkplaceHealth@wales.nhs.uk