Cyflwyniad i ofal plant
Mae’r cwrs Cyflwyniad i ofal plant yn rhoi trosolwg o weithio ym maes gofal plant a’r blynyddoedd cynnar. Mae’n cyflwyno meysydd craidd sydd eu hangen arnoch i ddechrau gweithio ym maes gofal plant, yn rhoi gwybodaeth am opsiynau gyrfa ac yn egluro pa rinweddau sydd eu hangen ar weithwyr.
Mae gan bob cwrs siaradwyr gwadd a llysgenhadon sy’n sôn am y realiti o weithio ym maes gofal plant a’r blynyddoedd cynnar.
Cynnwys y cwrs:
• Rolau a chyfrifoldebau gweithwyr gofal plant a’r blynyddoedd cynnar
• Trosolwg o swyddi a lleoliadau
• Hawliau plant
• Lles
• Gweithio mewn ffyrdd sy’n canolbwyntio ar y plentyn
• Chwarae
• Yr iaith Gymraeg a chyfathrebu
• Iechyd a diogelwch
• Atal a rheoli heintiau
• Diogelu
• Cymdeithas Broffesiynol Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar (PACEY) sy’n darparu gwybodaeth benodol am ddod yn warchodwr plant
• Llysgenhadon
• cyngor a chymorth i gael gwaith gan Gyrfa Cymru.
Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd amrywiaeth o gefnogaeth ar gael i unigolion, gan gynnwys adnoddau dysgu, modiwlau dysgu digidol, cyfleoedd am dreialon gwaith a chymorth cyflogadwyedd gan Gyrfa Cymru i helpu unigolion ddechrau eu gyrfa yn y sector gofal plant.
I ddatblygu’r rhaglen ymhellach, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda lleoliadau gofal plant ledled Cymru i sicrhau cyfleoedd i unigolion sy’n cwblhau’r cwrs gael treial gwaith yn eu hardal leol. Byddwn yn anfon manylion am sut i gael mynediad at y cynllun ar ôl i chi gwblhau’r cwrs. Mae’r cynllun hwn yn gyfle gwerthfawr i weld sut mae lleoliad go iawn yn gweithio a gweld sut beth yw gweithio yn un o’r rolau a drafodwyd ar y cwrs.
Wedi i chi ddechrau gweithio yn y sector, byddwch chi hefyd yn derbyn cefnogaeth a hyfforddiant ychwanegol gan eich cyflogwr.
Manylion
- Dyddiad: 8th Medi 2026 
- Amser: 9:45am - 3:15pm
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- E-bost: introductiontochildcare@socialcare.wales