Podlediad: Rhowch hwb i’ch ffitrwydd meddwl a rhowch yr hyder i chi’ch hun i roi cynnig ar rywbeth newydd
RCS Cymru
Gall cychwyn ar rywbeth newydd ysgogi amrywiaeth o emosiynau – o gyffro a rhagweld i ofn, braw a phryder.
Ymgollwch yn y podlediad hwn gan Dr. Beverley Taylor, seicolegydd siartredig, wrth iddi ymchwilio i’r emosiynau hyn a’ch arwain ar sut i ymdopi ag ofn a herio’ch meddylfryd. Dysgwch sut i baratoi ar gyfer llwyddiant, meithrin eich hun, alinio eich meddylfryd, hybu hyder, a chyrraedd eich nodau personol.
Mae RCS yn cynnig cymorth, hyfforddiant a therapïau wedi’u teilwra i gynorthwyo unigolion a busnesau ledled Cymru i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy a gwella eu llesiant yn y gweithle. Fel sefydliad dielw arobryn, mae RCS yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n effeithio’n gadarnhaol ar filoedd o fywydau bob blwyddyn.
Gallwch wrando ar y podlediad yma https://rcs-wales.co.uk/cy/wythnos-addysg-oedolion-2024/
Manylion
Adnodd ar-lein yw hwn
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Arddull Dysgu: Ar-lein
- Ffôn: 01745 336442