Sgiliau Microsoft Office
Addas ar gyfer y rhai sydd â sgiliau cyfrifiadurol cyfyngedig neu sydd wedi cwblhau cwrs TG rhagarweiniol. Ar y cwrs hwn gallwch ddysgu sut i ddefnyddio meddalwedd prosesu geiriau, creu a defnyddio taenlenni, defnyddio cronfa ddata, creu sioe sleidiau neu greu posteri a chylchlythyrau mewn Cyhoeddi Pen Desg. Byddwch yn defnyddio cyfres o raglenni Microsoft Office 2016 gan gynnwys Word, Excel, Access, PowerPoint a Publisher. Byddwch yn ennill achrediad ar gyfer y cwrs hwn ac mae’n addas iawn os ydych yn ystyried cael swydd neu eisiau gloywi eich sgiliau TG cyn dychwelyd i’r gwaith.
Manylion
- Dyddiad: 24th Medi 2024 - 1st Gorffennaf 2025 
- Amser: 12:30pm - 2:30pm
- Rhanbarth: De Orllewin Cymru
- Ffôn: 01437 770150 or 01437 770130
- E-bost: enquiries@pembrokeshire.gov.uk