Sgwrs y Mis (Zoom)
Menter Caerdydd

Bydd Dr Lowri Cunnington Wynn, Darlithydd Cyfrwng Cymraeg mewn Troseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn siarad am ei hymchwil i effaith yr argyfwng hinsawdd ar bobl ifanc, 18-30 oed sy’n byw mewn cymunedau arfordirol yng Ngogledd Orllewin Cymru. Yn benodol, mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar ardaloedd Y Rhyl, Bae Colwyn, Porthmadog ac ardal Glaslyn a Phwllheli.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi nodi’r ardaloedd hyn fel y rhai sydd fwyaf bregus i effeithiau’r argyfwng hinsawdd, yn benodol lefelau’r môr yn codi a chynnydd mewn tywydd eithafol fel llifogydd. Mae adroddiad diweddar yn awgrymu y bydd y cynnydd mewn tymheredd fyd-eang yn cyrraedd 1.5 °C rhwng 2030 a 2052, gan effeithio’n sylweddol ar y tebygolrwydd o dywydd eithafol a chodiad yn lefel y môr.
Ychydig iawn o ymchwil sydd yn canolbwyntio ar effaith byw mewn cymunedau arfordirol ar bobl ifanc a’u rhagolygon ar gyfer y dyfodol a llai fyth sy’n archwilio’r cysylltiad rhwng pobl ifanc a chymunedau arfordirol sy’n agored i effaith yr argyfwng hinsawdd. Felly, gallai’r ymchwil hon ddarparu astudiaeth achos unigryw ar gyfer cymunedau eraill ledled y Deyrnas Gyfunol.
Manylion
- Dyddiad: 21st Medi 2023 
- Amser: 7:30pm - 8:30pm
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Ffôn: 02920689888