Hyfforddi i hyfforddi: A yw gyrfa mewn addysg yn addas i chi?
Panda Education and Training Ltd

Mae’r gweithdy byr hwn yn addas ar gyfer oedolion sy’n ystyried gyrfa mewn addysg.
• Hoffech chi ysbrydoli eraill i ddilyn galwedigaeth neu ddysgu sgil newydd?
Mae swyddi mewn addysg yn amrywio o diwtoriaid addysg oedolion, i aseswyr seiliedig ar waith a darlithwyr addysg bellach.
P’un a ydych yn chwilio am waith ar hyn o bryd neu am newid gyrfa, bydd y gweithdy hwn yn rhoi ymwybyddiaeth i chi a yw gweithio ym myd addysg yn addas i chi; y rhinweddau a’r cymwysterau sydd eu hangen arnoch; y cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd a ble i ddod o hyd iddynt.
Manylion
- Dyddiad: 21st Hydref 2022 
- Amser: 10:00am - 12:30pm
- Rhanbarth: De Ddwyrain Cymru
- Ffôn: 02921679037