Troed Yn Y Drws: Gŵyl Sgiliau Ffilm
Ffilm Cymru Wales
Mae Ffilm Cymru Wales, mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd, yn cyflwyno gŵyl bedair wythnos o hyfforddiant am ddim yn y diwydiant ffilm i bobl Casnewydd.
Ydych chi’n 16+ oed ac yn byw yng Nghasnewydd? Dewch i’n gweithdai hwyliog ac ymarferol am ddim i’ch helpu chi i gael eich Troed yn y Drws yn y diwydiannau creadigol.
Mewn mannau creadigol yn y Lle a’r Cab yng nghanol Casnewydd, bydd yr Ŵyl Sgiliau Ffilm yn cynnal gweithgareddau hwyliog am ddim dros gyfnod o bedair wythnos, gan gynnwys gweithdai ymarferol, sesiynau cynghori, digwyddiadau rhwydweithio, dangosiadau ffilm.
Manylion
- Dyddiad: 27th Awst 2024 - 22nd Medi 2024 
- Amser: 10:00am - 5:00pm
- Rhanbarth: De Ddwyrain Cymru