Wythnos Dysgu Oedolion – Sesiynau Blasu yn Wrecsam
The Little Learning Company

Yn rhan o Wythnos Dysgu Oedolion, mae’n bleser gan The Little Learning Company allu cynnig nifer o sesiynau blasu y gallwch alw i mewn iddynt, a lle gallwn ni ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Mae croeso i chi alw i mewn unrhyw bryd yn ystod yr amseroedd sydd wedi eu nodi.
Dydd Mercher 20fed Medi – 12:30pm – 2:30pm Canolfan Adnoddau Gwersyllt, Second Avenue, Wrecsam, LL11 4ED
Dewch i gwrdd â’r tîm a chanfod rhagor am y pethau sydd gennym i’w cynnig. Bydd staff wrth law i drafod beth yw Dysgu Oedolion yn y Gymuned, trafod rhwystrau neu bryderon sydd gennych, yr hyn a gynigiwn ar hyn o bryd a beth sydd ar y gweill. Rydym hefyd yn croesawu awgrymiadau am gyrsiau’r dyfodol!
Dydd Iau 21 Medi – 10am – 12pm Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown, Fusilier Way, Wrecsam LL13 7YF
Ymwybyddiaeth Ofalgar a Myfyrio – Dewch i gymryd rhan mewn ychydig o ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrio ysgafn, cewch gwrdd â’r hyfforddwr a chanfod rhagor am y buddion i’ch lles chi.
Dangosiad Cymorth Cyntaf Pediatrig – Cewch ganfod rhagor a gweld rhai o hanfodion Cymorth Cyntaf Pediatrig, cwrdd â’r hyfforddwr, cymryd rhan a chanfod rhagor am ofynion y cymhwyster llawn.
Dydd Gwener 22 Medi – 12.30pm – 2pm
Hwb Lles Wrecsam, Adeiladau’r Goron, Wrecsam, LL13 8BG
Crefft Rhieni a Phlant Bach – Rhowch gynnig ar ein gweithgareddau crefft i deuluoedd lle mae croeso i blant, cewch gwrdd â’r hyfforddwr a chymryd rhan mewn ychydig weithgareddau ymarferol i gefnogi dysgu eich plentyn yn ogystal â gwella eich sgiliau crefft chi hefyd.
Dangosiad Ymarferol Meddygon Bach – Cewch ddysgu rhagor am ein cwrs Cymorth Cyntaf i Blant, cwrdd â’r hyfforddwr, cymryd rhan a chanfod rhagor am gyrsiau tebyg i oedolion.
Manylion
- Dyddiad: 20th Medi 2023 - 22nd Medi 2023 
- Amser: 10:00am - 2:00pm
- Rhanbarth: Gogledd Ddwyrain Cymru