YMUNWCH Â PHARTNERIAETH YR YMGYRCH
18 – 24 Medi 2023 gyda gweithgaredd hyrwyddo yn digwydd trwy gydol y mis.
Am yr ymgyrch
Mae Wythnos Addysg Oedolion yn ymgyrch flynyddol a drefnir mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru sy’n ceisio cysylltu pobl ag amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu, dangos manteision addysg oedolion, a dathlu llwyddiannau pobl, prosiectau a sefydliadau yng Nghymru gan hyrwyddo a chymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau dysgu gydol oes a sgiliau.
Bwriad yr ymgyrch yw annog cymaint o bobl â phosib i dderbyn ail gyfle mewn addysg a chyflogaeth a phrofi manteision grymus addysg oedolion. Rydym am ysbrydoli pobl i chwilio am gyngor ac arweiniad am y cyfleoedd sydd ar gael i uwchsgilio, i wella eu hyder a’u llesiant, i ffynnu yn eu gyrfaoedd a datblygu cariad at ddysgu trwy gydol eu hoes.
Yn flynyddol rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid ar draws nifer fawr o sectorau i gynllunio a chyflawni amrywiaeth o sesiynau blasu, cyrsiau byr, dyddiau agored, gwybodaeth a chyngor a digwyddiadau arbennig ar-lein ac yn bersonol i ddathlu’r gorau o addysg oedolion.
Ers lansio’r llwyfan hwn rydym wedi adeiladu ar ein partneriaethau ymgyrchu gyda dros 150 o ddarparwyr cofrestredig, dros 330,000 edrychiad tudalen, a 54,000 o ddefnyddwyr wedi ymweld â llwyfan yr ymgyrch. Er mwyn adeiladu ar y llwyddiant hwn, mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn gweithio gyda phartneriaid yr ymgyrch i hyrwyddo digwyddiadau, cyrsiau, sesiynau blasu, dyddiau agored, adnoddau a chyngor ac arweiniad gyrfa ar-lein, byw ac yn bersonol trwy gydol mis Medi gyda phwyslais ar ddigwyddiadau arbennig sy’n digwydd yn ystod wythnos yr ymgyrch.
I fod 2023 yn fwy llwyddiannus, rydym angen eich cefnogaeth i hyrwyddo cyfleoedd dysgu gydol oes
Ymuno â’n rhwydwaith partneriaid
Gyda’n gilydd gallwn gael mwy o sylw a momentwm i ddysgu gydol oes yng Nghymru ac ysbrydoli mwy o oedolion i symud ymlaen ac adeiladu dyfodol gwell.
Rydym eisiau gweithio gyda chi i:
- Hyrwyddo eich darpariaeth a chysylltu gyda chynulleidfaoedd newydd a phresennol drwy gynnig cyfleoedd i ddysgu
- Cysylltu pobl yng Nghymru i gael cefnogaeth gydag iechyd a llesiant, dysgu a chyfleoedd cyflogaeth
- Dod yn rhan o bartneriaeth ymgyrch Cymru-gyfan sy’n hyrwyddo dysgu gydol oes
- Rhannu straeon cadarnhaol fydd yn ysbrydoli eraill i gymryd rhan mewn dysgu gydol oes
Sut i gymryd rhan:
- Cynllunio a chyflwyno sesiynau blasu, gweithgareddau allgymorth, cyrsiau a digwyddiadau arbennig ar-lein neu wyneb yn wyneb a’u lanlwytho ar wefan yr ymgyrch er mwyn iddynt gael eu hyrwyddo fel rhan o’r ymgyrch cyfryngau. Enghreifftiau o weithgareddau: sgiliau bywyd a gwaith, llesiant, sgiliau digidol a thechnoleg, celf a chrefft, darllen, ysgrifennu, mathemateg a gwyddorau cymdeithasol. Edrychwch ar y cynnwys sydd eisoes wedi ei lanlwytho ar y calendr
- Hyrwyddo eich darpariaeth bresennol ar gyfer oedolion a’r llwybrau sydd ar gael iddynt i ailhyfforddi, cynyddu sgiliau a chysylltu gydag eraill. Rhannu gwybodaeth a chyfleoedd yr Wythnos Addysg Oedolion gyda dysgwyr, hybiau, grwpiau cymunedol, cydweithwyr a rhwydweithiau
- Rhoi sylw i beth fwy y gellid ei wneud i wella mynediad i ddysgu a sgiliau ar gyfer oedolion – rhannu eich ymchwil, ysgrifennu erthygl neu lansio cyhoeddiad – beth yw’r rhwystrau ar hyn o bryd a beth sydd angen iddo newid? Neu beth sy’n llwyddiannus?
- Rhannu eich straeon a dathlu llwyddiannau pobl sydd wedi defnyddio eich darpariaeth – beth yw manteision dysgu, sut mae wedi trawsnewid eu bywydau?
- Ymuno yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch. Tagiwch ni yn eich holl weithgaredd yn defnyddio dolenni a thagiau: Twitter – @LearnWorkCymru Instagram – @learnworkcymru Facebook – @learningandworkinstitute – #dalatiidysgu #wythnosaddysgoedolion
Gall Dysgu a Gwaith eich cefnogi gyda’r dilynol:
- Agor cyfrif darparydd ar wefan yr Wythnos Addysg Oedolion
- Hyrwyddo eich gweithgareddau yn rhad ac am ddim drwy ein calendr digwyddiadau ar-lein yn cynnwys gwefan Cymru’n Gweithio fel rhan o’r ymgyrch amlgyfrwng
- Cyflenwi pecyn adnoddau ymgyrch Wythnos Addysg Oedolion i’ch sefydliad
- Rhannu eich gweithgaredd Wythnos Addysg Oedolion drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol y Sefydliad Dysgu a Gwaith a phlatfformau eraill perthnasol
- Gweithgaredd trawshyrwyddo ar gyfer yr Wythnos Addysg Oedolion
Sut i gofrestru gweithgaredd ymgyrch:
Os ydych wedi darparu rhaglen ar gyfer yr Wythnos Addysg Oedolion yn flaenorol a bod gennych gyfrif eisoes mewngofnodwch i gofrestru eich digwyddiadau.
Os ydych yn newydd i’r Wythnos Addysg Oedolion, lawrlwythwch a llenwi ffurflen yr ymgyrch a’i dychwelyd i’r Sefydliad Dysgu a Gwaith drwy e-bost.
Os hoffech fwy o wybodaeth am yr ymgyrch neu os ydych angen cymorth gyda’ch cyfrif, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.