NEWID DY STORI
Edrychwch ar straeon ysbrydoledig pobl a gymerodd y cam cyntaf i droi eu bywydau o amgylch i adeiladu dyfodol gwell iddynt eu hunain, eu teulu a’u cymuned. Bu addysg oedolion yn allweddol i bob un o’u straeon llwyddiant ac yn rhaff bywyd i lawer. Cewch chithau eich ysbrydoli drwy glicio ar unrhyw un o’r delweddau islaw i ddarllen neu gweld eu stori. Dyma’r hyn y gall addysg oedolion ei wneud i chi, gallwch chithau newid eich stori hefyd.


Walid Musa Albuqai
Cafodd Walid Musa Albuqai ei fagu yn Syria ond cafodd ei orfodi i ffoi o’r wlad gyda’i wraig a’i dair merch ddeng mlynedd yn ôl…
Darllen stori Walid
Walid Musa Albuqai
Cafodd Walid Musa Albuqai ei fagu yn Syria ond cafodd ei orfodi i ffoi o’r wlad gyda’i wraig a’i dair merch ddeng mlynedd yn ôl oherwydd y rhyfel. Roedd wedi gweithio ar fferm pan oedd yn ifanc ac wedyn fel rheolwr warws a gweithiwr ffatri ond roedd wedi’i chael yn anodd cael swydd barhaol oherwydd y rhyfel parhaus.
Dywedodd Walis: “Oherwydd y sefyllfa yn Iwerddon, Libanus a Syria, rhoddodd y Cenhedloedd Unedig y dewis i deuluoedd fel ni i symud i Brydain. Ni wnaeth pawb symud, ond penderfynodd fy nheulu a finnau mai dyma’r peth iawn i’w wneud. Dywedwyd wrthym y byddem yn symud i Abertawe ac roeddwn i’n edrych ymlaen oherwydd nad oeddwn erioed wedi bod yng Nghymru o’r blaen. Rwyf wrth fy modd yma oherwydd y bobl a’r traethau hardd. Mae’n ddinas gyfeillgar iawn ac rwy’n ddiolchgar iawn mod i wedi dod o hyd i waith.”
Ychydig iawn o Saesneg oedd gan Walid pan gyrhaeddodd Abertawe. Roedd yn cael anhawster gyda gramadeg sylfaenol a strwythur brawddegau felly dechreuodd astudio Saesneg Lefel Mynediad 1 Saesnig fel Ail Iaith (ESOL) yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
“Prin iawn oedd fy Saesneg pan symudais i Brydain gyntaf. Fe wnaeth fy ngweithwyr cymorth roi llawer o help i mi ac fe wnes wirfoddoli mewn siop elusen i ymarfer fy Saesneg a dechrau gwneud ffrindiau gyda phobl yn y gymuned leol”, meddai.
Drwy fynychu dosbarthiadau yn rheolaidd, astudio tu allan i’r dosbarth a manteisio ar gyfleoedd i ymarfer siarad Saesneg, gallodd Walid ddatblygu ei sgiliau iaith. Manteisiodd hefyd ar adnoddau ar-lein yn cynnwys gwersi gramadeg ac apiau i barhau i ddysgu tu allan i’w ddosbarthiadau.
“Mae fy merched yn 13, 9 a 6 oed. Maent yn mynd i ysgolion cyfrwng Saesneg ac maent hefyd wedi fy helpu i wella fy Saesneg. Maen nhw, ynghyd â fy ngwraig, yn fy ysbrydoli bob dydd ac maent wedi fy annog i wireddu fy mreuddwydion.
Mae Walid nawr wedi gorffen ESOL Lefelau 1 a 2 a gwnaeth cais am nifer o swyddi, yn cynnwys swydd gyrru bws gyda FirstBus. Roedd ei angerdd am yrru a’i sgiliau iaith yn amlwg iawn yn ei gyfweliad, a chafodd y swydd.
“Rwyf wrth fy modd yn gweithio fel gyrrwr bys. Yn ymarferol, nid oedd yr arholiad yn rhy anodd ond roedd y prawf damcaniaeth yn anodd. Fyddwn i ddim wedi medru gwneud y cyfweliad heb fy sgiliau mewn Saesneg. Cefais fy ngyrfa diolch i’r dosbarthiadau hynny.”
Mae Walid yn awr yn edrych i’r dyfodol ac yn gobeithio cwblhau ESOL Lefel 3 cyn ail-hyfforddi fel hyfforddwr gyrru. Dywedodd, “Byddwn yn hoffi annog pobl eraill i ddychwelyd i ddysgu a gwireddu eu huchelgais, pa bynnag mor heriol y gall ymddangos. Fy nghyngor yw gweithio’n galed a peidio byth rhoi lan. Does dim yn amhosibl os ewch amdani. Rwy’n gyffrous wrth feddwl i ble aiff fy nhaith â fi wrth i mi barhau i wneud fy ffordd tuag at fy nodau a gwneud gwahaniaeth i’r gymuned.”


Rachel Parker
Cafodd Rachel Parker ei geni i fywyd cartref cythryblus gyda rhieni oedd yn gaeth i alcohol a heb fawr o gefnogaeth bryd hynny ar gyfer…
Darllen stori Rachel
Rachel Parker
Cafodd Rachel Parker ei geni i fywyd cartref cythryblus gyda rhieni oedd yn gaeth i alcohol a heb fawr o gefnogaeth bryd hynny ar gyfer ei datblygiad a’i haddysg. Ar ôl iddi fynd i ofal, gadawodd yr ysgol yn ifanc a chanfod dihangfa mewn cyffuriau ac alcohol. Ar ôl blynyddoedd o gaethiwed, mae Rachel bellach yn lân ac ar ei ffordd i gyflawni ei breuddwyd o ddod yn gwnselydd.
Esboniodd Rachel: “Roedd cyffuriau ac alcohol yn mynd â fi allan o fy realaeth ond roedd yn atal fy nhwf ac yn cyfyngu fy mhotensial”. Daeth Rachel yn fam ifanc yn 18 oed pan anwyd ei merch Holly, a gafodd ei geni yn ddall a gydag anableddau difrifol eraill. Roedd yn anodd iddi roi lefel y gofal roedd Holly ei angen tra’i bod hi ei hun yn gaeth. Ar ôl colli gwarchodaeth o Holly aeth bywyd Rachel ar chwâl, gyda’i chaethiwed yn drech.
Er ei chaethiwed, roedd Rachel yn breuddwydio am yrfa lle medrai helpu eraill. Roedd yn edmygu ei chwnselwyr ar gamddefnyddio sylweddau. “Ar hyd fy nhriniaeth fe fyddwn yn aml yn meddwl, pe gallwn aros yn lân, efallai y gallwn wneud eu gwaith nhw ryw ddydd.”
Sylwodd Rachel fod pobl yn ei chael yn agos atynt ac y byddent yn mynd ati yn gyson am eu problemau, a’i bod bob amser yn rhoi amser i wrando. “Gwaetha’r modd, nid oeddwn mewn unrhyw sefyllfa i hyfforddi i ddod yn gwnselydd pan oeddwn yn gaeth fy hun”, esboniodd.
Flynyddoedd wedyn, unwaith y gallodd Rachel ddod yn lân ac aros yn sobr, gallodd ddechrau meddwl am hyfforddi a throi ei bywyd o gwmpas. Mae’n cofio: “Wnes i ddim erfyn ar fy nghwnselydd i fy helpu i fynd i rehab nes y deallais fod fy ffordd o fyw yn fy lladd. Diolch byth, fe wnaeth ddod o hyd i’r cyllid ac rwy’n credu iddi achub fy mywyd.”
Yn 2017 dechreuodd hyfforddi gydag Addysg Oedolion Cymru. Dywedodd Nicola Holmes, a enwebodd Rachel am y wobr: “Mae stori Rachel yn un o benderfyniad, ymroddiad a thwf personol. Mae wedi cael llawer o broblemau yn ystod ei thaith, a chafodd weithiau ddyddiau pan oedd yn amau hi ei hun. Eto nid wyf erioed wedi cwrdd â rhywun oedd mor benderfynol i wneud newid, nid yn unig ar gyfer ei dyfodol ei hun ond hefyd ar gyfer pawb sydd angen cefnogaeth yn union fel yr oedd hi yr holl flynyddoedd hynny yn ôl.”
Nawr, yn sobr ers naw mlynedd, bu Rachel yn gwnselydd cymwysedig am flwyddyn, ar ôl cwblhau dros 100 awr o gwnsela i ennill ei diploma. “Roedd cymhwyso yn deimlad swreal, roeddwn ar ben fy nigon ac mor falch o fi fy hun,” meddai Rachel.
Mae’n gweithio’n rheolaidd ar linell gymorth Narcotics Anonymous, a dywedodd “Rydw i eisiau cwnsela pobl oherwydd mod i eisiau rhoi yn ôl, dydw i ddim eisiau bod yn niwsans i gymdeithas.”
Fe wnaeth ffydd Rachel ei chadw’n gryf drwy’r holl golledion a ddioddefodd, yn cynnwys marwolaeth ei march Holly ddwy flynedd ar ôl iddi ddod yn sobr.
Symudodd ymlaen drwy ei diplomâu Lefel 2 a 3, ac mae wedi gohirio astudio am ddiploma Lefel 4 tra’i bod yn cymryd amser i drin ei chyflyrau iechyd. Mae’n parhau’n eiriolydd cryf dros addysg oedolion, gan ddweud “Mae’n rhaid i chi fynd amdani a rhoi’r cyfle hwnnw i chi eich hun. Rydych yn mynd i gwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau newydd a dysgu llawer amdanoch eich hun a’r byd o’ch cwmpas.”


John Gates
Mae John Gates, 82 oed, yn byw ym Maesteg ac yn dod o deulu o lowyr. Dechreuodd weithio yng Nglofa Coegnant pan oedd yn ddim…
Darllen stori John
John Gates
Mae John Gates, 82 oed, yn byw ym Maesteg ac yn dod o deulu o lowyr. Dechreuodd weithio yng Nglofa Coegnant pan oedd yn ddim ond 15 oed a gweithiodd ei ffordd lan o fod yn löwr dan hyfforddiant i fod yn ffiter, i berson cymorth cyntaf a ‘dyn achub’.
Dywedodd John: “Gadewais yr ysgol heb unrhyw gymwysterau, a prin y gallwn i ddarllen nac ysgrifennu. Roeddwn eisiau profi i fi fy hun ac eraill y gallwn wneud rhywbeth o fy mywyd.
“Fe fues i’n gweithio dân ddaear am 19 mlynedd ond penderfynais wneud cais am swydd mewn canolfan hyfforddi ar ôl i fy ngwraig ddod yn bryderus am beryglon y swydd. Dim ond ar ôl i mi symud i’r ganolfan hyfforddi fel hyfforddwr cymorth cyntaf y gwnaeth pethau ddechrau newid i mi o ddifri.
“Fe astudiais gwrs sgiliau sylfaenol am ddwy flynedd a sylweddoli y gallwn wneud unrhyw beth os oeddwn yn mynd amdani. Fe es ymlaen i gael tair lefel O yng Ngholeg Penybont a chymhwyster mewn Cyfrifiadureg wnaeth fy ngalluogi i ddal ati i weithio am bum mlynedd arall. Arhosais fel rheolwr hyfforddi i lofeydd eraill pan wnaeth y ganolfan hyfforddi gau.”
Yn ystod ei gyfnod yn y gangen hyfforddi, astudiodd John am radd yn y Dyniaethau y Brifysgol Agored. Fe wnaeth hefyd sefydlu ei hunan fel brodiwr o fri a theithio’r byd i addysgu ac ysbrydoli eraill.
Meddai: “Pan roeddwn yn tyfu lan, roedd fy mam a chymdogion o amgylch yn gwnïo ac yn gweu. Roeddwn yn ddiflas iawn ac yn brin o arian yn ystod y streiciau yn y saith-degau felly fe benderfynais roi cynnig ar frodwaith.
“Fe wnes ddechrau cwblhau citiau a sylweddoli y gallwn wella’r cynlluniau. Wrth i fy hyder dyfu, fe wnes ddechrau creu fy rhai fy hun. Fe fues ar gwrs edau aur yn Longleat House a gwneud cwrs preswyl ar frodwaith sidan Japaneaidd. Fe wnes hyd yn oed wneud y brodwaith ar gyfer gwisgoedd priodas fy nwy ferch ac wedyn wisgoedd bedyddio fy wyrion.
Dechreuodd John ar gwrs hyfforddi athrawon TAR dwy flynedd a bu’n gweithio mewn addysg anghenion arbennig. Cwblhaodd ei TAR yn 1998, yr un flwyddyn ag yr enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn.
“Yn ystod Wythnos Addysg Oedolion 2000, gofynnwyd i mi roi araith i groesawu ymwelwyr rhyngwladol i’r Millennium Dome yn Llundain. Dechreuais sgwrsio gyda dyn oedd yn digwydd bod yn Weinidog Addysg yn Awstralia ac fe wnaeth fy ngwahodd i fynd i Awstralia i siarad am fy mhrofiad o golli fy ngwaith oherwydd bod y pyllau glo a’r melinau dur yn cau draw yno”.
Aeth y gair ar led ac ers hynny gwahoddwyd John i siarad mewn cynadleddau yn Norwy ac yn CONFINTEA VI Brasil. Siaradodd ddwywaith yn y Senedd yn Llundain, yn ogystal â nifer o weithiau yn Senedd yr Alban ac yn Senedd Cymru fel llysgennad dysgu byd-eang.
“Rwy’n cael llawer o bleser wrth siarad gyda phobl eraill a’u hysbrydoli. Y peth pwysicaf un am fy stori yw faint rwyf wedi mwynhau dysgu. Mae addysg yn antur; pan ydych yn camu lawr y llwybr hwnnw wyddoch chi byth lle bydd yn mynd â chi”, meddai John.
“Mae wedi mynd â fi o amgylch y byd ac i leoedd na fyddwn byth wedi medru fforddio mynd iddyn nhw, ond y budd mwyaf un yw hyder. Mae drysau yn agor ac yn cau, ond pan mae drws yn agor, mae gennyf yr hyder i gerdded drwyddo.”
Mewn blynyddoedd mwy diweddar daeth John yn Gadeirydd Men’s Shed, elusen sy’n anelu i drin problemau iechyd corfforol a iechyd meddwl dynion.
Dywedodd John: “Cafodd Men’s Shed ei ddechrau yn Awstralia i fynd i’r afael â hunanladdiad yn yr outback. Gan sylwi ar gynnydd tebyg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fe wnaethom benderfynu troi yr hyn oedd wedi bod yn glwb i gyn-aelodau’r lluoedd arfog yn Men’s Shed a chwrdd bob dydd Iau am ddishgled o de, cinio a siarad am wahanol brosiectau a phynciau. Mae hefyd yn gyfle i ddynion ddatblygu eu sgiliau a theimlo yn rhan o’r gymuned.”
“Ers ei gyflwyno, rydym wedi dechrau gweithio gyda Carchar Parc. Mae bellach Men’s Shed yn y carchar ei hun a gafodd ei dderbyn dan yr un ymbarél. Rwy’n ymweld yn gyson ac yn mwynhau’r sesiynau.”


Fatma Al Nahdy
Pan ddaeth Fatma Al Nahdy i Brydain o Yemen yn 2015, nid oedd ganddi unrhyw Saesneg ac nid oedd erioed wedi bod yn yr ysgol…
Darllen stori Fatma
Fatma Al Nahdy
Pan ddaeth Fatma Al Nahdy i Brydain o Yemen yn 2015, nid oedd ganddi unrhyw Saesneg ac nid oedd erioed wedi bod yn yr ysgol oherwydd y rhyfeloedd parhaus a’r sefyllfa gythryblus yn Yemen. Roedd Fatma yn rhugl mewn dwy iaith ond wyddai hi ddim sut i ddarllen nac ysgrifennu.
Ganwyd ei mab yn weddol fuan ar ôl iddi gyrraedd ac roedd yn benderfynol i sicrhau gwell bywyd iddo. Felly pan gafodd gynnig cyfle i gofrestru ar gwrs Saesneg fel Ail Iaith (ESOL) yn Coleg Cambria, roedd yn nerfus ond yn edrych ymlaen at her newydd. Dim ond bum mlynedd yn ddiweddarach, mae Fatma wedi gorffen ESOL yn ogystal â Diploma Lefel 2 mewn Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach a chwrs Lefel 3 Mynediad i Addysg Uwch. Pasiodd TGAU mewn mathemateg a Saesneg ac mae wedi dal ati i ehangu ei gwybodaeth drwy gofrestru ar gyrsiau ECDL, Cymraeg i ddechreuwyr a dehongli. Nod Fatma bob amser fu dod yn nyrs. Cafodd ei derbyn yn ddiweddar i wneud gradd nyrsio ym Mhrifysgol Bangor.
I Fatma, roedd dysgu Saesneg yn rhan hanfodol o setlo a dechrau ar ei bywyd newydd yng Nghymru. Dywedodd: “Roeddwn yn nerfus yn mynd i’r dosbarth cyntaf. Gwyddwn y byddwn yn cwrdd â llawer o bobl newydd ac roeddwn yn swil iawn i ddechrau. Ond roedd yn ddosbarth hyfryd. Fe wnaeth fy nhiwtoriaid fy helpu i weld yr hwyl mewn dysgu ac ar ôl mis neu ddau dechreuais deimlo’n fwy cartrefol a hyderus. Roedd dysgu Saesneg yn golygu y gallwn fynd allan ac adeiladu cysylltiadau gyda’r Gymuned.
Yn ogystal â her dysgu pethau newydd, caiff Fatma ei hysgogi gan ei dymuniad i’w mab gael bywyd gwell. “Nawr rwy’n gallu siarad, darllen, ysgrifennu a deall Saesneg yn dda iawn, rwy’n gallu darllen llythyrau ar fy mhen fy hun, mynd at y meddyg teulu heb neb i gyfieithu a chefnogi fy mab gyda’i waith ysgol.
Ychwanegodd: “Fy mab yw fy nghymhelliant a fy ysbrydoliaeth. Roedd dysgu yn ystod y pandemig yn anodd oherwydd fy mod hefyd yn gyfrifol am ei addysg gartref ac yn gofalu amdano. Nid dysgu o bell yw fy hoff ffordd o ddysgu, ond rwy’n gwneud yn iawn. Rwyf bob amser wedi eisiau bod yn nyrs, mae’r holl gyrsiau a wnes hyd yma wedi fy helpu i gyrraedd y nod honno. Nid yw wedi bod yn rhwydd, ond ryw’n awr yn nes nag erioed i gyflawni fy mreuddwyd. Fedra i ddim aros i ddechrau fy ngradd nyrsio y flwyddyn nesaf. Rwy’n ddiolchgar iawn i fod ble’r ydw i a hoffwn ddiolch i fy nhiwtoriaid am fy helpu i gyrraedd yno. Fe wnaethant ddweud wrthyf fy mod yn ddeallus; doedd neb erioed wedi dweud hynny wrthyf yn fy hoff fywyd. Fe wnaethant fy nghymell i ddal ati ar fy nhaith i nyrsio,
“Pan gyrhaeddais Gymru, wyddwn i ddim am yr help oedd ar gael i mi. Rydw i wedi aros mewn cysylltiad gyda’r merched wnaeth fy helpu ac maen nhw fel teulu yn awr, mae gan fy fab ddwy ‘nain am byth’. Fy nghyngor i unrhyw un arall sy’n ystyried dilyn cwrs fel oedolyn yw trefnu eich amser a chanolbwyntio ar eich nod – addysg yw’r allwedd i fywyd.”


John Spence
Dechreuodd John ei daith ddysgu gyda'r Brifysgol Agored yn 2010, a graddiodd saith mlynedd yn ddiweddarach gyda gradd BSc (Anrh) mewn Gwyddorau Iechyd, cyflawniad sydd…
Darllen stori John
John Spence
Dechreuodd John ei daith ddysgu gyda’r Brifysgol Agored yn 2010, a graddiodd saith mlynedd yn ddiweddarach gyda gradd BSc (Anrh) mewn Gwyddorau Iechyd, cyflawniad sydd yn cael ei ddisgrifio ganddo fel “cyflawniad mwyaf rhyfeddol fy mywyd.” Roedd John wedi cael trafferth yn dysgu yn yr ysgol. Roedd ganddo ddyslecsia difrifol ac ADHD, a dywedwyd wrtho “y byddai’n fethiant, ac nad oedd yn haeddu cael ei addysgu gydag eraill”. Meddai, “Roeddwn i’n cael fy ngwneud i deimlo ac i edrych yn dwp drwy’r amser. Roeddwn yn cael fy ngwneud yn destun sbort gan fy athrawon, ac yn cael fy mychanu o flaen plant eraill. Cefais fy ngwneud i sefyll ar gadair a darllen o flaen y dosbarth. Fe wnaethon nhw esiampl ohonof, heb sylwi fy mod i wir angen help. Cafodd fy hyder ei chwalu, a dechreuais ddatblygu atal dweud.” Ymunodd John â’r fyddin ar ôl gadael yr ysgol, a gwasanaethodd fel Comando y Fyddin yn Irac ac yn Affganistan. Cafodd ei wthio i’w gyfyngiadau corfforol, a chafodd fywyd milwrol llwyddiannus, ond fe barhaodd i frwydro gyda’r demoniaid personol oedd wedi cael eu plannu yn ei blentyndod. Nid oedd erioed wedi dweud wrth unrhyw un nad oedd yn gallu darllen nac ysgrifennu. Dim ond pan adawodd y Fyddin yn 2000, a phan oedd yn gweithio fel Parafeddyg ar y Môr, y cafodd ei gyfrinach ei darganfod. “Roeddwn i’n arfer dysgu popeth ar gof. Mae’r fyddin yn gorfforol iawn, felly roedd hi’n hawdd cuddio. Ond roeddwn i’n gwybod bob amser y buaswn i’n ofnadwy mewn arholiad. “Sylwodd ei hyfforddwr fod rhywbeth yn bod, a dywedodd wrtho ei fod yn ddigon clyfar i barhau â’i freuddwyd i gael gyrfa mewn meddygaeth – ac anogodd ef, yn 34 oed, i ailymuno â’r byd addysg. Roedd John yn nerfus iawn, ond gwnaeth ymholiadau gyda’r Brifysgol Agored. Cafodd asesiadau ar gyfer dyslecsia eu gwneud a gyda chefnogaeth tiwtoriaid, gwnaeth gynnydd da. Yna, cafodd ei ddiagnosio gydag anhwylder gweledol sy’n gysylltiedig â dyslecsia. Er ei fod angen cymryd mwy o amser i ddarllen trwy lyfrau testun a chwblhau aseiniadau, daliodd John ati, gan fuddsoddi amser ac ymdrech i feistroli technoleg gynorthwyol. Roedd gweithio oddi ar y tir yn cyflwyno heriau ychwanegol yn ystod amseroedd arholiadau, ond llwyddodd i oresgyn y rhain drwy recriwtio Capten y Llong i weithredu fel goruchwyliwr! Roedd y diwrnod graddio yn ddiwrnod emosiynol dros ben. “Does dim geiriau i ddisgrifio’r ymroddiad, yr amynedd a’r anogaeth a gefais gan fy nhiwtoriaid. Dechreuais gyda nhw fel milwr wedi torri, ond nawr, ar ôl siwrnai hir, ‘dwi wedi symud ymlaen, a dwi’n rhedeg fy nghwmni meddygol fy hun. ” Erbyn hyn, mae John yn uwch swyddog meddygol sy’n teithio’r byd, ac sy’n gyfrifol am iechyd criw o 150 o bobl ac am redeg ei fusnes meddygol ei hun, o’r enw PATRONAS Rescue International. Mae ei fusnes wedi’i seilio ar yr egwyddor o gefnogi eraill, addysgu gofal brys cyn mynd i’r ysbyty i dimau o feddygon, a darparu


Rhiannon Norfolk
Roedd cael y cyfle i ddysgu Cymraeg yn factor allweddol ym mhenderfyniad Rhiannon Norfolk i symud yn ôl i Gymru. Roedd wedi etifeddu ei chariad…
Darllen stori Rhiannon
Rhiannon Norfolk
Roedd cael y cyfle i ddysgu Cymraeg yn factor allweddol ym mhenderfyniad Rhiannon Norfolk i symud yn ôl i Gymru. Roedd wedi etifeddu ei chariad at Gymreictod gan ei rhieni, sy’n hanu’n wreiddiol o dde Cymru ac arferai dreulio’u gwyliau bob haf yng Ngwynedd.
Fe ysbrydolodd y gwyliau teuluol hynny Rhiannon I astudio ym Mhrifysgol Bangor ble’r oedd wedi bwriadu dod yn rhugl yn yr iaith, ond oherwydd ei hamserlen brifysgol brysur bu raid iddi roi’r gorau i’w gwersi Cymraeg. “Fe es ymlaen gyda fy mywyd, fel mae rhywun yn gwneud, ond roedd Cymru bob amser yn teimlo fel adref ac roedd gen i’r hiraeth yma am yr iaith.”
Bu rhaid aros nes ei bod yn byw yn Wiltshire flynyddoedd yn ddiweddarach cyn i gyfarfyddiad hap a damwain arwain Rhiannon yn ôl i Gymru. “Gwelais boster am fand o’r enw Calan yn chwarae yn neuadd y dref yn Chippenham,” meddai. “Es draw yno ar fy mhen fy hun ac roeddwn i ar ben fy nigon. Fe deimlais gysylltiad enfawr gyda seiniau prydferth y Gymraeg a’r gerddoriaeth hudolus, a death hynny â rhywfaint o’r hyn oeddwn i wedi ei ddysgu yn ôl.”
Pan welodd swydd yn cael ei hysbysebu yn ei maes hi, sef gwerthuso yn y gwasanaeth iechyd, gwnaeth gais amdani, cafodd y swydd a symudodd i Gymru. Flwyddyn yn ddiweddarach mae bron wedi cwblhau cwrs Cymraeg lefel-sylfaen llwybr carlam yng Nghymuned Ddysgu Penarth.
“Roeddwn i’n teimlo’n nerfus iawn yn mynd yno ond cefais fy sicrhau y byddwn i’n gallu adeiladu ar y sgiliau Cymraeg oedd gen i’n barod, er eu bod nhw’n rhydlyd,” meddai. “Roeddwn i’n poeni y byddwn i mor bell ar ôl pawb arall gyda fy Nghymraeg elfennol iawn a finnau heb fod yn dysgu ers 13 blynedd, ond roedd yn wych. Roedd pawb mor groesawgar ac mae’n rhyfeddol gymaint mae rhywun yn ei gofio.”
Mae Rhiannon yn mynychu’r dosbarth am ddwyawr bob wythnos ochr yn ochr ag ysgolion dydd Sadwrn. Mae’n ymuno â grŵp darllen yng Nghanolfan Ddysgu Cymunedol i Oedolion Palmerston yn y Barri, ac wedi mynychu cwrs preswyl penwythnos gyda’i mam, Gill, sydd hefyd yn dysgu Cymraeg mewn dosbarthiadau yn agos at ei chartref yn Nhrefynwy.
Ar ôl cael canlyniadau rhagorol yn ei harholiad mynediad, mae Rhiannon nawr yn paratoi i sefyll ei hasesiad sylfaen. “Mae dysgu Cymraeg wedi bod yn bleser pur i mi, o’r diwedd rwyf wir yn teimlo ’mod i gartref,” meddai.
Mae Rhiannon yn dioddef o iselder, gorbryder a Syndrom Poen Rhanbarthol Cymhleth, sy’n golygu’i bod yn gorfod defnyddio ffon neu gadair olwyn ac yn achosi poen a blinder cyson.
Dywedodd Rhiannon: “Mae dod i ddosbarthiadau Cymraeg wedi gwneud wahaniaeth mawr i fy iechyd meddwl. Rwy’n mynd ar fy nghyflymder fy hun ac yn cymryd seibiant yn y dosbarth pan fydd angen. Mae dysgu’n rhoi strwythur i mi a lle i wneud ffrindiau. Mae wedi fy helpu i gadw fy ymennydd yn brysur a rhoi teimlad i mi o bwrpas a chyflawni. Roeddwn i wastad yn teimlo’n edifar i mi roi’r gorau i’r Gymraeg ac eisiau datrys hynny, ac rwy’n teimlo mor fodlon nawr fy mod wedi llwyddo.”
Dywedodd Suzanne Condon a enwebodd Rhiannon, “Mae’n amlwg fod dysgwyr eraill yn y dosbarth wrth eu bodd yn ymarfer gyda Rhiannon, mae hi’n wych am eu hannog i ddweud cymaint â allan nhw. Mae hi’n ddysgwraig gyda chenhadaeth ac yn ysbrydoliaeth i eraill.”


Catrin Pugh
Newidiodd bywyd Catrin am byth yn 2013 pan ddioddefodd losgiadau gradd tri ar 96% o’i chorff mewn damwain bws yn Ffrainc, roedd yn 19. Doedd…
Darllen stori Catrin
Catrin Pugh
Newidiodd bywyd Catrin am byth yn 2013 pan ddioddefodd losgiadau gradd tri ar 96% o’i chorff mewn damwain bws yn Ffrainc, roedd yn 19. Doedd fawr o obaith iddi bara’n fyw ac fe fu mewn coma am dri mis. Meddai, “Fe ddaliais ati i frwydro, ond roeddwn yn amheus a oedd gen i ddyfodol. Pan wnes i ddeffro o’r coma roeddwn wedi cael sawl llawdriniaeth ac yn methu symud”. Cafodd Catrin ei gadael gyda chreithiau corfforol a meddyliol, roedd ei golwg canol y maes wedi diflannu, cafodd blaenau bysedd ei llaw chwith eu trychu, a bu’n ymgodymu ag anhwylder pryder ôl-drawmatig ac ôl-fflachiau o fod ar dân. Meddai, “Roedd bywydau pawb arall yn mynd yn eu blaenau tra roedd fy mywyd i’n cymryd egwyl. Mae’n gwneud i chi amau eich gwerth, roedd fy hunan hyder yn deilchion”. Wedi treulio’r pedair blynedd ganlynol yn cael therapi corfforol i ddysgu unwaith eto sut i gerdded, siarad a bwyta, meddai Catrin “Dechreuais weld fod fy anableddau corfforol a’m materion iechyd meddwl yn llai o rwystr ac yn fwy o ysgogiad i brofi fod modd cyflawni unrhyw beth os rowch eich bryd arno.” Er bod y byd yn teimlo fel lle dychrynllyd, gwthiodd Catrin ei ffordd drwy’r heriau hyn a chymryd ei cham cyntaf pan ddechreuodd weithio fel cyfaill cefnogol gydag elusennau megis Sefydliad Katie Piper a Changing Faces, gan gynnal sgyrsiau cymhelliant ar sut i oroesi profiadau sy’n newid bywydau. Meddai, “Yr hyn oeddwn wir am ei wneud oedd astudio unwaith eto ac anelu at yrfa ystyrlon ble gallwn i wneud gwahaniaeth.” Cafodd Catrin ei hysbrydoli gan swyddogaeth y Ffisiotherapydd yn ystod ei hadferiad ei hun, ac yn 2017 dechreuodd ar daith i ddod yn ffisiotherapydd. Meddai, “Roedd mynd yn ôl i fyd addysg yn frawychus. Roeddwn wedi cwblhau 15 mlynedd o addysg mewn sefyllfa ffodus o beidio â chael anghenion ychwanegol, nawr roedd gen i anghenion niferus.” I ddilyn cwrs gradd mewn Ffisiotherapi, roedd rhaid i Catrin gael cymhwyster Safon 3 mewn pwnc gwyddonol. Cofrestrodd i fynd ar gwrs Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru i astudio Biowyddorau yng Ngholeg Cambria. Meddai, “Wedi magu dewrder i fynychu, daeth pob dydd yn haws. Roeddwn i’n parhau i fod yn ddeallus, yn alluog a llwyddodd yr addasiadau i wneud popeth yn gyraeddadwy.” Wedi rhagori yn ei chwrs, mae Catrin wedi derbyn cynigion gan Brifysgol a bydd yn cymryd ei lle ym mis Medi 2018. Dywedodd Jackie Grieves o Goleg Cambria, “Mae pawb yma wedi cael eu syfrdanu a’u hysbrydoli gan agwedd gadarnhaol a phenderfyniad Catrin i gyrraedd ei nod.”


Scott Jenkinson
Ddeng mlynedd yn ol, roedd Scott Jenkinson yn camddefnyddio sylweddau ac yn ddigartref. Ond diolch i addysg oedolion, mae wedi newid ei fyd yn llwyr.…
Darllen stori Scott
Scott Jenkinson
Ddeng mlynedd yn ol, roedd Scott Jenkinson yn camddefnyddio sylweddau ac yn ddigartref. Ond diolch i addysg oedolion, mae wedi newid ei fyd yn llwyr. Erbyn hyn mae’n athro, yn briod efo merch fach newydd-anedig ac mae’n hapus!
Yn ol yn 2005, addysg oedolion oedd y peth olaf ar feddwl Scott, ond pan gafodd ei annog gan staff hostel lle roedd yn aros i wneud cais i ddilyn cwrs, cytunodd I wneud hynny gan ei fod angen rhywle i fyw. Yr hyn na sylweddolai ar y pryd oedd mai’r cwrs hwn fyddai’r trobwynt yr oedd ei angen oherwydd diolch i’r arweiniad, yr ysgogiad a’r cymorth a gafodd yno, dechreuodd osod y sylfeini ar gyfer bywyd newydd sbon ac ennill cymhwyster.
Yn 2008, gwnaeth Scott gais I ddilyn cwrs Cymorth Dysgu a Gofal Cymdeithasol ac fe’i hysbrydolwyd gan ei diwtor i ddilyn y llwybr a fyddai’n ei arwain i fod yn athro. Erbyn hyn mae’n hyfforddwr rhan-amser i Nacro, gan gydweithio ag oedolion ifanc ar raglan hyfforddeiaeth ac fe sefydlodd ‘4:28 training’ sy’n darparu hyfforddiant argyfer oedolion sydd yn wynebu’r un trafferthion ag yr oedd ef ar un adeg.
Meddai Scott, “Mae fy nhaith bersonol I fel rhywun a oedd yn gaeth i sylweddau ac yn gyn-droseddwr wedi rhoi darlun cliriach i mi o’r llwybr a arweiniodd at yrfa fel athro a’r unigolyn ydw i heddiw. Rwy’n credu’n gryf fod addysg yn newid bywydau a gall addysg fod yn Sylfaen i fywyd newydd a thynnu pobl allan o’r cylch dieflig o droseddu a hynny drwy gyfleoedd, anogaeth ac arweiniad. “Os galla i fod y math o athro yr oeddwn i’n ddigon lwcus o’i gyfarfod ar fy nhaith I yna rwy’n credu’n gryf bod yna reswm i’r blynyddoedd cythryblus y bues i’n gaeth I sylweddau.”


Joseff Oscar Gnagbo
Cafodd Joseff Gnagbo ei fagu ar y Traeth Ifori, ond bu’n rhaid iddo geisio lloches yng Nghymru oherwydd aflonyddwch gwleidyddol. Meddai: “Roedd fy mamwlad o…
Darllen stori Joseff
Joseff Oscar Gnagbo
Cafodd Joseff Gnagbo ei fagu ar y Traeth Ifori, ond bu’n rhaid iddo geisio lloches yng Nghymru oherwydd aflonyddwch gwleidyddol. Meddai: “Roedd fy mamwlad o dan warchae ac roedd o’n frawychus. Roedd yna lawer o ymladd, felly roedd yn rhaid i fi ffoi i rywle diogel.
Doeddwn i’n gwybod dim am Gaerdydd heb sôn am Gymru. Y cyfan roeddwn i wedi’i glywed oedd ei fod yn lle gwyrdd iawn, nad oedd gormod o bobl yma a bod y trigolion yn neis iawn. Dwi wedi byw ymhob cwr o’r byd ac wedi addo i fi fy hun y byddwn i bob amser yn dysgu iaith frodorol y wlad yr oeddwn ynddi.”
Mae Joseff bellach yn gweithio fel gofalwr, cyfieithydd ac athro, ac mae’n gwirfoddoli i Gymdeithas yr Iaith. Mae hefyd yn rhoi sesiynau blasu Cymraeg sy’n para hanner awr yng Nghyngor Ffoaduriaid Cymru – ar ôl i ddysgwyr gael awr o hyfforddiant Saesneg.
Aeth ymlaen i ddweud: “Roedd rhai o’m tiwtoriaid yn amheus am ychwanegu’r Gymraeg at y cyrsiau Saesneg.
Roedden nhw’n meddwl y gallai ddrysu pobl. Ond gan fod cymaint o arwyddion yn Gymraeg a bod pobl yn siarad yr iaith, dwi’n meddwl ei bod yn bwysig gwybod y pethau sylfaenol, yn enwedig os ydych chi’n chwilio am waith neu os oes gennych chi blant sy’n mynychu ysgolion dwyieithog. Dwi am barhau i ddatblygu fy sgiliau ac wrth fy modd yn cerdded drwy’r canolfannau lle dwi’n gwirfoddoli a chlywed ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn dweud diolch!”


Ralph Handscomb
Bu Ralph Handscomb, sy’n dod o Ferthyr Tudful ac sydd wedi ymddeol, yn helpu pobl i chwilio am swyddi yn ystod y cyfnod clo, mae’n…
Darllen stori Ralph
Ralph Handscomb
Bu Ralph Handscomb, sy’n dod o Ferthyr Tudful ac sydd wedi ymddeol, yn helpu pobl i chwilio am swyddi yn ystod y cyfnod clo, mae’n ddysgwr ac yn wirfoddolwr sy’n gweithio gyda Dysgu Oedolion yn y Gymuned Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn Y Coleg ym Merthyr ac yn y Ganolfan Gwaith a Mwy yn y dref.
Meddai Ralph: “Dwi wedi bod â diddordeb brwd mewn cyfrifiaduron erioed. Ond ar ôl pasio saith Lefel O yn y 70au, doedd dim llawer o gyfleoedd i mi yn y diwydiant, felly tyfodd fy niddordeb gryn dipyn ar ôl i ni gael ein cyfrifiadur desg cyntaf gartref yn 1996. Fues i’n mynd i ddosbarthiadau nos ac roeddwn i wedi synnu pa mor wahanol oedd hynny i’m profiad yn yr ysgol oherwydd fod pobl eisiau bod yno go iawn! Roedd yn brawf bod modd i chi barhau i ddysgu, yn eich amser eich hun ac o gwmpas ymrwymiadau teuluol.
Meddai Ralph: “Dwi wedi dod â’m sgiliau digidol i bob swydd dwi wedi’i gwneud, hyd yn oed fel gyrrwr bws roeddwn i’n helpu pawb yn y swyddfa i ddigideiddio ac ailwampio’r systemau llwybrau a thocynnau. Ar ôl ymuno â’r gwasanaeth sifil roedd y ffaith ‘mod i wedi gwneud dosbarthiadau nos a chael cymwysterau yn gyfrifol am dri dyrchafiad o fewn y gwasanaeth sifil ond ar ôl 18 mlynedd roedd hi’n bryd i mi ymddeol. Fe wnes i dreulio peth amser o amgylch y tŷ, ond roedd fy ngwraig am i mi wneud rhywbeth i lenwi’r amser – ac achos ‘mod i o dan draed.”
Aeth Ralph yn ôl i’r “ysgol” gan gwblhau’r Wobr mewn Addysg a Hyfforddiant (Lefel III), sydd nawr yn caniatáu iddo rannu ei sgiliau a’i brofiad drwy ei waith gwirfoddoli. Meddai:
Aeth Ralph ymlaen: “Mae dysgu wedi fy helpu i drwy gydol fy ngyrfa ac erbyn hyn dwi’n hapus iawn fy mod i’n gallu helpu eraill. Mae bron bopeth ar-lein erbyn hyn, a gall fod yn greulon i’r rhai sy’n teimlo’n ddihyder – mae hyd yn oed cofrestru yn y Ganolfan Waith i gyd yn ddigidol, yn ogystal â chwilio am swydd.
Dwi wrth fy modd yn gweld fy nysgwyr yn pasio ac yn magu hyder a gweld drysau’n agor iddyn nhw – yn bersonol ac yn broffesiynol. Unwaith mae’r fflam ddysgu wedi tanio ac yn llosgi mae’r dysgwyr yn sicr o gyflawni, a does dim ffordd o fesur y balchder dwi’n ei deimlo.”


Emma Williams
Cafodd Emma Williams ei geni yn Wrecsam a roedd wedi gadael cartref erbyn iddi fod yn 14 oed. Cafodd broblemau gyda’i iechyd meddwl a bod…
Darllen stori Emma
Emma Williams
Cafodd Emma Williams ei geni yn Wrecsam a roedd wedi gadael cartref erbyn iddi fod yn 14 oed. Cafodd broblemau gyda’i iechyd meddwl a bod yn gaeth i gyffuriau, roedd yn ddigartref yn ei harddegau ac yn ofni na fedrai ddianc.
Pan oedd hi’n 21 oed, cafodd Emma ferch fach ac wrth iddi dioddef o iselder ôl-enedigol, gwaethygodd ei dibyniaeth ar gyffuriau ac aeth pethau o ddrwg i waeth. “Doeddwn i ddim yn gwybod y gwahaniaeth rhwng dydd a nos,” meddai. “Roeddwn i’n teimlo mai oes o galedi oedd fy nhynged i. Roedd cyffuriau ac alcohol fel blanced diogelwch.”
Wyth mlynedd yn ddiweddarach, a hithau’n 29 oed fe gerddodd i mewn i ganolfan adfer ym Mae Colwyn, o’r enw Touchstones 12.
“Roedd coleg drws nesaf i’r ganolfan. Dechreuais gyda rhywbeth bach – ychydig o gyrsiau cyflogadwyedd i gadw fy meddwl yn brysur. Fe newidiodd fy mywyd.”
Wrth gael help gyda’i dibyniaeth, gwnaeth Emma gais am swydd fel gweithiwr cymorth adfer a threuliodd y ddwy flynedd nesaf fel gweithiwr achos, gan helpu eraill i ddelio â’u problemau cyffuriau eu hunain.Roedd cael ei diswyddo o’r swydd yr oedd yn ei hoffi yn ergyd, ond fe’i gwnaeth hi’n fwy penderfynol byth i ddysgu a gwnaeth gais i fynd i’r brifysgol.
Gan ddychwelyd at y cymwysterau roedd hi wedi llwyddo i’w cael yn ei hugeiniau, ynghyd â’r cyrsiau newydd roedd hi wedi’u cwblhau, llwyddodd Emma i wneud cais i ddechrau astudio ar gyfer gradd mewn Gwyddoniaeth Fforensig.
Meddai Emma, sy’n 39: “Ddeng niwrnod yn ddiweddarach, roeddwn i’n eistedd yn fy narlith cemeg cwantwm cyntaf. Dwi wedi dioddef dipyn gyda syndrom twyllwr. Does dim llawer o’r myfyrwyr yn edrych fel fi nac yn dod o gefndir tebyg i fi – ond dwi mor benderfynol.”
Dros y pum mlynedd nesaf cwblhaodd ei gradd mewn Gwyddoniaeth Fforensig a chwrs TAR, ac ar hyn o bryd mae hi’n cwblhau MRes mewn Anthropoleg Fforensig a Bioarchaeoleg gyda ffocws ar anthropoleg fiolegol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Ar ôl cymhwyso fel athrawes, bu’n addysgu ar y cwrs gradd Gwyddoniaeth Fforensig ac mae bellach yn gyfathrebwr gwyddoniaeth i Techniquest yn y gogledd, gan weithio fel model rôl i fenywod mewn pynciau STEM.
“Nawr dwi’n annog merched i astudio gwyddoniaeth fel fi,” meddai.


Grŵp Dynion Pobl yn Gyntaf y Fro
Mae Grŵp Dynion Pobl yn Gyntaf y Fro, a ffurfiwyd yn 2012, yn cynnig lle diogel i ddynion yn y gymuned ddysgu sgiliau bywyd newydd…
Darllen stori Grŵp
Grŵp Dynion Pobl yn Gyntaf y Fro
Mae Grŵp Dynion Pobl yn Gyntaf y Fro, a ffurfiwyd yn 2012, yn cynnig lle diogel i ddynion yn y gymuned ddysgu sgiliau bywyd newydd a chysylltu gyda’i gilydd.
Caiff y sesiynau eu cynnal yn wythnosol mewn canolfan gymunedol yn y Barri a maent yn rhoi cyfle i ennill cymwysterau, gwneud ffrindiau newydd a thrafod materion sy’n bwysig iddynt.
Mae’r dynion yn amrywio o 18 i 60+ o ran oed , ac mae rhai yn byw gyda gwahanol gyflyrau yn cynnwys awtistiaeth, parlys yr ymennydd, sgitsoffrenia ac iselder. Gyda’r sesiwn bedair awr wythnosol mor boblogaidd, sefydlwyd rhestr aros a ffurfiwyd ail grŵp i ateb y galw.
Caiff y grŵp ei redeg ar y cyd gan y tiwtoriaid Liz Marriott a Joanne Price. Esboniodd Joanne: “Rydyn ni’n dechrau pob sesiwn drwy groesawu pawb, siarad am newyddion da neu unrhyw broblemau ac yna symud ymlaen i wahanol bynciau.”
Mae rhai o’r pynciau y rhoddir sylw iddynt yn cynnwys rheoli dicter ac ymdopi gydag emosiynau, trin arian, ailgylchu, paratoi bwyd, cymorth digidol a sgiliau bywyd eraill tebyg i reoli amser.
Gwelodd llawer o aelodau’r grŵp gynnydd mawr yn eu hyder o fynychu’r sesiynau ac aeth rhai ymlaen i wirfoddoli neu ddysgu darllen ac ysgrifennu. Caiff sesiynau eu defnyddio i drafod pynciau galwedigaethol, ond mae’r grŵp hefyd yn rhoi amgylchedd ar gyfer datblygu sgiliau cymdeithasol a chyfeillgarwch.
Meddai Joanne: “Mae llawer o’r dynion yn dioddef o unigrwydd, felly mae dod i’r sesiynau yn golygu eu bod yn mynd allan o’r tŷ a siarad gyda phobl, mae’n rhoi ymdeimlad o gwmnïaeth a lle diogel. Mae mudiadau eraill yn dod atom yn aml i drafod gwahanol bynciau tebyg i iechyd rhywiol dynion – help na fyddent efallai yn gofyn amdano ar ben eu hunain. Ysgrifennu yw un o’r prif sgiliau a addysgwn ac yn ddiweddar fe wnaeth un aelod ddysgu sut i ysgrifennu A fawr, ac Ashleigh yw enw ei chwaer, gall y pethau lleiaf wneud gwahaniaeth mawr.”
Ni fedrai Mark Tierney ddarllen nac ysgrifennu pan ymunodd gyntaf ond ers hynny mae wedi dysgu a chaiff yn awr ei gyflogi fel swyddog iechyd a llesiant y grŵp. Dywedodd “Rwyf wedi bod yn rhan o’r grŵp Dynion o’r cychwyn cyntaf, ac rwyf wrth fy modd. Rwy’n medru darllen ac ysgrifennu nawr, ac mae gen i swydd gyda’r grŵp. Dydych chi byth yn rhy hen i ddysgu ac mae’n well pan y medrwch gael hwyl ar yr un pryd. Roeddwn yn arfer teimlo’n ddiflas ac yn cwyno llawer, ond nawr rwy’n hapus bob amser.”
Yn y dyfodol mae’r grŵp yn bwriadu dal ati i ymchwilio pynciau newydd ac annog dysgwyr i gefnogi pynciau fyddai’n ddefnyddiol iddynt. Caiff amser ei neilltuo hefyd ar gyfer cyrsiau heb achrediad, tebyg i sefydlu siop ffug i ddefnyddio sgiliau rheoli arian, paratoi bwyd a sgiliau cymdeithasol y dynion.
Meddai Joanne, “Rwy’n caru’r grŵp. Rydyn ni’n chwerthin nes ein bod yn ein dagrau yn ystod ein sesiynau ac mae mor braf gweld drosoch eich hun sut y gall sgiliau pobl wella.”


Ewan Heppenstall
Ymrestrodd Ewan Heppenstall yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn 2018, gan astudio i ddechrau ar Raglen Sgiliau Gwaith Lefel Mynediad 1. Mae gan y dyn…
Darllen stori Ewan
Ewan Heppenstall
Ymrestrodd Ewan Heppenstall yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn 2018, gan astudio i ddechrau ar Raglen Sgiliau Gwaith Lefel Mynediad 1.
Mae gan y dyn ifanc 23 oed awtistiaeth ysgafn a dywedodd, “Nid wyf erioed wedi gadael i fy awtistiaeth fynd yn y ffordd, Ond doeddwn i ddim yn teimlo’n hyderus o gwbl yn tyfu lan. Doeddwn i erioed wedi meddwl am fy nyfodol o’r blaen ond roeddwn yn gwybod fod yn rhaid i mi ddechrau.”
Ar ôl gorffen y cwrs yn llwyddiannus, dechreuodd Ewan ar y rhaglen Lefel Mynediad 3 y flwyddyn ddilynol. Fe wnaeth orffen cymhwyster BTEC yn cynnwys amrywiaeth o feysydd yn cynnwys paratoi a dysgu am y gweithle, iechyd a diogelwch yn y gwaith, gweithio mewn tîm, cynllunio a rhedeg gweithgaredd menter, sut i ymddwyn yn y gwaith, paratoi CV a gwneud cais am swyddi.
Cafodd Ewan le ar DFN Project Search – rhaglen interniaeth â chymorth rhwng Coleg Caerdydd a’r Fro a Dow Silicones UK Cyfyngedig yn y Barri. Roedd yn teimlo’n ofnus i ddechrau, ond tyfodd ei hyder mewn dim o dro.
“Roedd yn rhaid i mi wneud cyfweliad fideo i wneud cais, ac roeddwn yn un o ddim ond chwech o bobl i gael lle. Meddyliais, ‘gallai hyn fod fy nghyfle mawr.’ Fe wnaeth wirioneddol agor fy llygaid. Dysgais fwy am ddefnyddio llawer o wahanol raglenni cyfrifiadur fel Excel a Word.”
Ar ôl gorffen un indemniaeth yn Dow ar-lein, roedd yn edrych ymlaen at symud i’r safle unwaith y llaciodd cyfyngiadau Covid: “Roedd yn brofiad diddorol ac yn rhoi golwg dda ar sut beth yw bywyd gwaith. Roeddwn yn gweithio gyda thîm; roedd pobl yn fy nghefnogi i a finnau’n eu cefnogi hwythau. Fe wnes wirioneddol fwynhau canfod beth oeddwn eisiau ei wneud. Roeddwn yn gwybod fy mod yn dda gyda phobl, a gallais ddefnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth roeddwn wedi eu hennill mewn amgylchedd gwaith go iawn.”
Dywedodd Wayne Carter, Pennaeth Paratoi ar gyfer Gwaith, Bywyd a Dysgu Coleg Caerdydd a’r Fro: “Mae Ewan yn enghraifft wych o’r daith yr aiff pobl ifanc arni. O fod yn unigolyn swil a thawel heb fawr o hyder a sgiliau gwaith, mae Ewan bellach yn credu ynddo ei hun. Rydym wedi ei ymestyn a’i herio ac wedi rhoi cyfleoedd y gall ffynnu arnynt, gan ganolbwyntio ar y pethau y gall e,u gwneud ac nid yr hyn na all wneud.”
Mae Ewan yn awr yn gweithio’n llawn-amser yn CF10 Retail – siop ar gampws y Coleg: “Rwyf bob amser yn awyddus i fynd amdani a gweithio’n galed. Mae pobl yn fy ngweld fel ased, rwyf wrth fy modd yn gweithio yno.”
Mae Ewan yn hyrwyddo cyfleoedd i bobl anabl ymuno â’r gweithle. Ychwanegodd: “Dylai pobl anabl gael eu cynnwys a chael cyfle i’w profi eu hunain. Dylai mwy o gyflogwyr ein cynnwys.”
Mae bellach hefyd yn cyflwyno gweithdai cymhelliant i ddysgwyr eraill sy’n dechau ar eu teithiau eu hunain: “Gwnewch eich gorau a mynd amdani. Gall addysg a hyfforddiant sgiliau agor drysau a gall roi ail gyfle i bawb.”


Clare Palmer
Gadawodd Clare Palmer yr ysgol yn 14 oed heb unrhyw gymwysterau. Roedd Clare yn angerddol am helpu eraill ac yn breuddwydio am yrfa lle gallai…
Darllen stori Clare
Clare Palmer
Gadawodd Clare Palmer yr ysgol yn 14 oed heb unrhyw gymwysterau. Roedd Clare yn angerddol am helpu eraill ac yn breuddwydio am yrfa lle gallai roi rhywbeth yn ôl. Ond erbyn iddi fod yn 18 oed, roedd yn fam gyda mab bach i ofalu amdano.
Bu’n gweithio mewn salon trin gwallt am y 14 mlynedd nesaf i gefnogi ei theulu ifanc. Pan ddychwelodd i Gymru gyda’i mab yn 2013, penderfynodd ddefnyddio ei hangerdd i helpu eraill i ddod yn gymhorthydd gofal. Ar ôl chwe mlynedd yn gweithio yn y sector gofal, roedd Clare yn breuddwydio am ddod yn weithiwr cymdeithasol. Gan wybod y byddai angen cymwysterau mewn mathemateg a Saesneg i gael ei derbyn ar gwrs prifysgol mewn gwaith cymdeithasol, ymunodd â Chanolfan Ddysgu’r Fro ac aeth ymlaen i gwblhau ei Lefel 1 Cymhwyso Rhif a Lefel 2 mewn Cyfathrebu.
Darganfu Clare y byddai’n dal i fod angen cymhwyster ychwanegol mewn mathemateg i gyrraedd ei dewis cyntaf o brifysgol. Felly, flwyddyn ar ôl cael ei chymhwyster cyntaf, dychwelodd i Ganolfan Dysgu y Fro i ddechrau astudio ei Lefel 2 Cymhwyso Rhif. Daeth hyn wrth iddi weithio yn y sector gofal a gafodd ei daro mor galed yn ystod y pandemig.
“Roeddwn wedi gadael yr ysgol heb unrhyw gymwysterau yn 14 oed a dilyn fy llwybr fy hun. Cefais fy mab, Taylor, pan oeddwn yn 18 a gorfod i mi dyfu lan yn sydyn iawn. Roeddwn wrth fy modd yn helpu pobl. Mae rhoi gwên ar wyneb rhywun arall a gwneud gwahaniaeth yn eu bywyd yn deimlad gwych.”
Yn 2019, ar ôl gorffen Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, roedd gan Claire lawer mwy o hunangred am ba mor bell y gallai fynd â’i gyrfa. Penderfynodd y byddai angen eisiau mynd â’i hangerdd am ofal gam ymhellach a gwneud cais i brifysgol i ddod yn weithiwr cymdeithasol.
Erbyn i’r pandemg daro ym mis Mawrth 2020, roedd wedi ennill Lefel 2 mewn Cyfathrebu a Lefel 1 Cymhwyso Rhif. Rhwng 14 a 41 oed doeddwn i ddim wedi gwneud unrhyw fathemateg na Saesneg. Roeddwn yn betrus i ddechrau ac, a deud y gwir, roeddwn yn ofnadwy. Ond fe wnes daflu fy hun iddi a roeddwn yn gwybod ar ôl dim ond ychydig o wythnosau mod i wedi gwneud y penderfyniad cywir.
“Fe wnes mor dda yn yr ychydig fisoedd cyntaf fel yr es ymlaen i wneud y Lefel 2 mewn Cyfathrebu. Dim ond deuddydd yr wythnos oedd y cwrs, oedd yn golygu y gallwn barhau i weithio fel cymhorthydd gofal tra fy mod yn dysgu.
“Ar un amser roeddwn yn gweithio hyd at 60 awr yr wythnos, weithiau saith diwrnod ar ôl ein gilydd. Roeddwn wedi blino’n lân. Ar ben hynny, roeddwn yn ceisio cydbwyso fy nysgu fy hun gyda gofalu am fy mab a chadw ein tŷ mewn trefn. Dwi dal ddim i wybod sut yn iawn, ond fe ddaethom drwyddi.”
Wrth fwrw golwg yn ôl ar ei phrofiad mewn addysg oedolion, dywedodd Claire: “Bu’n anodd weithiau ond rwyf yn anhygoel o falch fy mod wedi ei wneud ef. Bu’r profiad yn wych. Byddwn yn wirioneddol yn ei argymell. Rwy’n awr yn nes nag erioed at gyflawni fy mreuddwyd o ddod yn weithiwr cymdeithasol.”


Rose Probert
Gadawodd Rose, mam sengl o Sir Benfro, yr ysgol heb unrhyw gymwysterau TGAU gradd C neu uwch, ond roedd yn wastad wedi breuddwydioam ddod yn…
Darllen stori Rose
Rose Probert
Gadawodd Rose, mam sengl o Sir Benfro, yr ysgol heb unrhyw gymwysterau TGAU gradd C neu uwch, ond roedd yn wastad wedi breuddwydioam ddod yn athrawes Anghenion Arbennig.
Fe dyfodd yn oedolyn gyda’i theulu o deithwyr, gan helpu i ofalu am ei brawd a chanddo anabledd difrifol, ac o dair oed ymlaen, gwyddai sut i ymateb i’w ffitiau mynych.
Mae Rose yn dal i ofalu am ei brawd ac mae wedi magu ei merch 10 mlwydd oed, Olivia, heb unrhyw gymorth na chefnogaeth o’r tu allan. Er gwaethaf hyn, fe neidiodd ar y cyfle I ailafael yn ei haddysg ar ôl cael nifer o swyddi fel glanhawraig.
Er mwyn gwireddu’i breuddwyd, roedd ar Rose eisiau cael ei chymwysterau TGAU a llwyddodd mewn Saesneg a Mathemateg tra ei bod yn astudio drwy ‘Dechrau Dysgu’ (Launch Learning) yn Ysgol Gynradd Gymunedol Priordy Cil-maen.
Aeth Rose rhagddi wedyn i gwblhau Gradd Sylfaen mewn Addysg a Chynhwysiant Cymdeithasol, a ddarparwyd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, fel cwrs allgymorth yn yr ysgol. Mae’r rhaglen hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr gwblhau blwyddyn arall er mwyn ennill Gradd BA. (Anrhydedd).
Yn 2015, cymhwysodd Rose â Gradd BA gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf; y radd uchaf y mae modd ei hennill. Mae hi’n dechrau ar ei hastudiaethau ôl-raddedig mewn Anghenion Arbennig ym mis Medi.
Nid yn unig y mae Rose yn ddelfryd ymddwyn i’w merch, ond hefyd i gymuned y teithwyr. Yn ôl Cyfrifiad 2011 y Deyrnas Unedig, nid oedd gan 60% o’r 58,000 o bobl a ddisgrifiodd eu hunain fel Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig unrhyw gymwysterau.
Meddai Rose: “Ni feddyliais erioed yn fy mreuddwydion rhyfeddaf y byddwn lle rydwyf heddiw; rwy’n dal mewn sioc fy mod wedi cyflawni cymaint. O fod yn rhan o’r gymuned Sipsiwn/Teithwyr, nid oes yna bwysau i wneud yn dda yn yr ysgol. Gobeithiaf fy mod yn dangos mai gyda gwaith caled a thrwy fod yn benderfynol, ni waeth beth yw’ch cefndir, fe allwch ddilyn eich breuddwydion


Tom Dyer
Trodd Tom Dyer y pandemig yn gyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd. “Collais fy swydd pan gyrhaeddodd Covid a phenderfynu symud yn ôl o…
Darllen stori Tom
Tom Dyer
Trodd Tom Dyer y pandemig yn gyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd. “Collais fy swydd pan gyrhaeddodd Covid a phenderfynu symud yn ôl o Gaerdydd i Hwlffordd i helpu fy chwaer gydag ysgol gartref fy nith. Roeddwn yn meddwl y byddai Covid drosodd yn eithaf cyflym”, meddai Tom.
Roedd chwaer Tom yn weithiwr allweddol, felly roedd wedi cymryd yr awenau mewn dim o dro gyda’r ysgol gartref. Yn ystod gwersi ar-lein roedd yn brysur yn meddwl beth fedrai wneud nesaf. Roedd wedi gweithio yn Tenovus Cancer Care yn arwain rhaglen ‘Activate Your Life’ sy’n defnyddio egwyddorion Therapi Derbyn ac Ymroddiad (ACT) i helpu unrhyw un y mae canser wedi effeithia arnynt.
“Penderfynodd fy chwaer a finnau i gyhoeddi fideos byr ar Facebook i helpu pobl i ymdopi yn y cyfnodau clo. Roeddwn eisiau defnyddio egwyddorion ACT i helpu pobl fynd drwy’r cyfnodau clo. Mae’r cyfan am ganfod eich gwerthoedd, derbyn yr hyn na fedrwch ei newid ond ymroddi i bwy ydych eisiau bod yn awr ac yn y dyfodol.”
O ddyddiau Llun i ddyddiau Iau byddai fideo newydd amser cinio gydag eitem cyd-ganu ar nos Wener a daeth y ddeuawd yn fuan i sylw Pure West Radio. “Fe wnaethom gysylltu â nhw i ddweud wrthynt a, ein eitem Facebook, ac fe wnaethant gynnig sioe i ni. Fe wnaeth y ddau ohonom ddechrau cyflwyno’r sioe brecwast cynnar, oedd yn llawer iawn o hwyl.”
Bu Tom yn cyflwyno sioe am dros ddwy flynedd bellach. Gofynnodd yr orsaf iddo fwy neu lai ar y dechrau os byddai’n ystyried dysgu Cymraeg fel rhan o raglen garlam gyda Dysgu Cymraeg sir Benfro.
“Dyna beth wnaeth fy nghymell i ddechrau dysgu Cymraeg ond mae’n rhywbeth rwyf bob amser wedi bod eisiau ei wneud,” meddai Tom. “Rwyf yn sylfaenol wedi gwneud pedair blynedd o ddysgu mewn dwy flynedd felly mae’n gryn her. Yn ffodus, Cymraeg yw iaith gyntaf fy nghariad Helen. Mae’n dda medru cael sgyrsiau Cymraeg gyda rhywun tu allan i’r gwersi.”
Mae Tom wedi pasio lefel gyntaf ‘Mynediad’ a’i lefel ‘Sylfaen’ a bydd yn symud ymlaen i ‘Canolradd’ ym mis Medi.. Mae bob amser yn ceisio cynnwys ymadroddion Cymraeg a chynnwys yr iaith yn ei sioe radio. “Rydw i bob amser yn ceisio gweu ymadroddion bach i’r sioe. Rydyn ni’n cyfarch pobl yn Gymraeg a Saesneg, ac rwy’n gwneud eitem 10-munud ‘Ymadrodd yr Wythnos’.
Bu hefyd yn cadw dyddiadur fideo fel y gall rannu ei gynnydd ac annog eraill i ddysgu ac mae’n ymroddedig i’w ddysgu ei hunan. “Rwy’n rhywun sy’n gafael mewn cyfleoedd. Mewn llawer o ffyrdd, fe wnaeth Covid greu cyfleoedd i fi. Roeddwn yn ffodus na chollais neb, neu na fu unrhyw un agos ataf yn wael iawn, ond ni chredaf y byddaf yn dysgu Cymraeg pe na fyddwn wedi colli fy swydd.”
Dywedodd Tomos Hopkins, tiwtor gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro: “Mae brwdfrydedd Tom dros yr iaith yn anhygoel o heintus. Ac mae nawr yn ei chyflwyno i gynulleidfa newydd gyda’i sioe radio, sydd o fudd enfawr i’r iaith.”


Zaina Aljumma
Cyrhaeddodd Zaina Aljumma yng Nghymru dair blynedd yn ôl ar ôl ffoi rhag rhyfel sifil yn Syria. Yn y cyfnod byr ers iddi gyrraedd, nid…
Darllen stori Zaina
Zaina Aljumma
Cyrhaeddodd Zaina Aljumma yng Nghymru dair blynedd yn ôl ar ôl ffoi rhag rhyfel sifil yn Syria. Yn y cyfnod byr ers iddi gyrraedd, nid yn unig mae wedi dysgu Saesneg ond mae hefyd wedi dechrau ar radd meistr ym Mhrifysgol De Cymru, gorffen dwy lefel o Iaith Arwyddion Prydain, ennill cymwysterau mewn gwasanaeth cyhoeddus, ysgrifennu creadigol a dehongli. Ynghyd â hyn, mae hefyd yn dysgu Cymraeg.
Wrth ochr ei hastudiaethau mae hefyd yn magu ei dau fab ifanc a hefyd yn gweithio’n llawn-amser ac yn gwirfoddoli.
Roedd newydd ddechrau ar radd meistr yn Syria pan fu’n rhaid iddi ffoi. “Roedd yn ofnadwy. Roedd bomiau’n disgyn ar lle’r oeddem yn byw, nid oedd dim trydan, dim dŵr, dim rhyngrwyd. Roedd yn rhaid i fi adael perthnasau ar ôl.”
Treuliodd amser yn Kuwait ac astudio cyrsiau dwys mewn addysg ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu. Ond methodd aros ac roedd pethau’n wahanol iawn iddi pan gyrhaeddodd Brydain. “Saesneg sylfaenol iawn wnaethon ni yn yr ysgol yn Syria. Pan gyrhaeddais yma gyntaf, doeddwn i ddim eisiau gadael fy ystafell oherwydd na fedrwn gyfathrebu gyda neb. Roeddwn yn teimlo’n werth dim.”
Dechreuodd wirfoddoli a helpodd hynnu hi i gynyddu ei hyder a dechreuodd ar gwrs IELTS (‘International English Language Testing System’). Nawr, dair blynedd yn unig ar ôl cyrraedd Prydain, mae’n gorffen gradd mewn Addysg gydag Anghenion Addysgol Arbennig/Dysgu Ychwanegol.
“Bu’n daith ddysgu galed iawn ond rwyf wedi bod yn ffodus. Fe wnaeth fy nghyfeillion fy rhoi mewn cysylltiad â menyw hyfryd o Syria sydd wedi helpu i ofalu am fy meibion. Rwyf bob amser yn dweud wrthi na fyddwn yn medru mynd i brifysgol hebddi gan na fyddwn byth wedi medru mynychu fy narlithoedd min nos.”
Mae Zaina yn gweithio’n llawn-amser ynghyd ag astudio. Gan weithio i Ddinas Noddfa, mae hefyd wedi cymryd swydd gydag Addysg Oedolion Cymru fel Swyddog Datblygu Cwricwlwm. Mae hefyd yn awyddus i ddefnyddio’r sgiliau i helpu’r rhai sy’n ei chael yn anodd dysgu: “Weithiau mae ceiswyr nodded sy’n siarad Saesneg fel ail iaith yn ei chael yn anodd dysgu. Gallai hynny fod oherwydd y broses lloches – a all fod yn her i iechyd meddwl, ond gallai hefyd fod oherwydd bod anawsterau dysgu na wyddent amdanynt. Mae hynny’n rhywbeth mae gennyf ddiddordeb ei ymchwilio.
Mae Zaina yn gwirfoddoli i nifer o elusennau yn cynnwys y Groes Goch, Rhwydwaith Lleisiau, Oasis Caerdydd a Chyngor Ffoaduriaid Cymru. “Mae fy meibion yn aml yn dod gyda fi pan fyddaf yn gwirfoddoli. Maent yn actifyddion bach gwych”. Mae hefyd wedi llwyddo i ganfod amser i ddechrau dysgu Cymraeg: “Rwy’n gallu darllen ac ysgrifennu ychydig o Gymraeg. O Syria rwyf yn dod ond rwy’n teimlo’n Gymraes hefyd felly mae’n bwysig dysgu iaith y genedl rwy’n awr yn perthyn iddi.”
Cafodd Zaina ei henwebu gan Mike Chick. Prifysgol De Cymru. Dywedodd: “Mae’r hyn a gyflawnodd yn ddim llai na gwyrthiol. Mae’n enghraifft berffaith o sut y gall diwylliant gael ei gyfoethogi gan integreiddio. Mae wedi dangos nerth a gwytnwch i astudio, gwertho a gwirfoddoli ac wrth gwrs i fagu ei dau fab ifanc.”


Natalie Lintern
Mae dysgu fel teulu wedi trawsnewid bywydau Natalie Lintern a’i theulu. Ar ôl sawl perthynas ble’r oedd yn cael ei cham-drin, a brwydro yn erbyn…
Darllen stori Natalie
Natalie Lintern
Mae dysgu fel teulu wedi trawsnewid bywydau Natalie Lintern a’i theulu. Ar ôl sawl perthynas ble’r oedd yn cael ei cham-drin, a brwydro yn erbyn dibyniaeth ar gyffuriau, roedd yn magu ei thri phlentyn ar ei phen ei hun. “Roedd bywyd yn boen” meddai. Aeth i deimlo’n unig, a’i diffyg hyder, hunan barch isel a gorbryder yn ei rhwystro rhag gadael y tŷ.
Am chwe mis wnaeth Natalie ddim agor y llenni a welodd hi neb y tu allan i’w chartref. Roedd wedi dechrau cymryd cyffuriau yn 16 oed ac yn ddiweddarach dechreuodd gymryd heroin “Y chwe mis hynny oedd cyfnod isaf fy mywyd,” meddai. “Roedd dau o fy mhlant yn yr ysgol a’r feithrinfa, felly dim ond y babi a fi oedd gartref. Roeddwn trwy’r adeg yn gofalu am fy mhlant, roedden nhw bob amser yn cael eu bwydo a’u hymolch ond bodolaeth oedd e, nid bywyd.”
Nawr mae Natalie yn symud ymlaen ac ar ei ffordd i ddod yn weithiwr cymorth cyffuriau ar ôl cofrestru ar gyfer rhaglen dysgu fel teulu. “Roedd gan fy mhlentyn hynaf broblemau rheoli dicter a byddai’n dod adref o’r ysgol ac aros lan trwy’r nos ar y cyfrifiadur,” meddai. “Doedd fy mhlentyn bach ddim yn gallu siarad na gwneud sŵn. Doedden ni ddim yn darllen, doedd dim llyfrau, doeddwn i’n cael dim amser o ansawdd da gyda fy mhlant. Roeddwn I ofn am fy mywyd y byddai fy mhlant yn cael eu cymryd oddi arnaf ond doeddwn i ddim yn gadael i neb ddod i mewn i’r tŷ, felly doedd neb yn gwybod fod pethau mor wael.”
Dyna pryd y penderfynodd Natalie fod rhaid iddi gael cymorth. Symudodd ei mam i fyw ati a chysylltodd gyda gweithiwr cymorth Dechrau’n Deg. Dechreuodd gael cwnsela a chysylltodd ag ysgol ei phlant am y tro cyntaf ers misoedd.
Dywedodd athrawon wrth Natalie am Sbardun a Dysgu fel Teulu a dechreuodd ymuno ag un o’u sesiynau rheolaidd. Cofrestrodd Natalie ar gyfer y sesiynau ythnosol. “Roeddwn i mewn braw,” meddai. “doeddwn i erioed wedi ymwneud gyda rhieni eraill na’r staff ond bob tro’r oeddwn i’n mynd i’r sesiwn roeddwn i’n teimlo’n well. Rwy’n cofio’r trip ysgol cyntaf, ar draeth rhewllyd, ac roeddwn i mewn panic llwyr. Ond roedd rhywbeth ynglŷn â’r ffordd oedd y plant yn ymateb a wnaeth i mi ddal i fynd yn ôl.”
Dros yr ychydig wythnosau nesaf bu Natalie a’i theulu yn gwneud barcudiaid ar y traeth, ymdrochi mewn pyllau glan môr, a choginio ar danau agored. “Fe wnaethon ni bethau nad oedden ni erioed wedi eu gwneud fel teulu cyn hynny. Fe ddysgon ni gyfeiriannu, trochi pyllau a chelf bywyd gwyllt, cerdded yn droednoeth ar lwybrau mwdlyd a gwneud bara. Ond fe roddodd reswm i mi adael y tŷ. Fe wnes ffrindiau, tyfodd fy hyder, roedd fy mhlant yn mwynhau pob eiliad, erbyn yr haf roedden ni’n bwyta teisen ar y traeth ar ddiwrnod pen-blwydd fy merch fach.”
Rhoddodd dysgu fel teulu yr hyder i Natalie gwblhau Pecyn Cymorth Adfer 12 ythnos i oroeswyr trais yn y cartref oedd yn cael ei gyflenwi. Ers hynny mae wedi mynychu cyrsiau teulu Sbardun eraill a dau gwrs ychwanegol – rhaglen Mpower i fenywod gyda hunan barch isel a rhaglen Rhianta Blynyddoedd Cynradd.
Mae’n mynd â’i phlant i’r ysgol bob dydd – mae presenoldeb y ddau hynaf wedi cyrraedd 100%. “Mae fy mab yn gwneud yn dda iawn, mae’n dod adref yn hapus ac yn ffaelu aros i wneud ei waith cartref. Mae siarad fy merch yn wych – yn wir dyw hi byth yn stopio! Mae’r ifancaf yn mwynhau darllen – rwyf innau’n darllen nawr hefyd, allaf i ddim rhoi’r gorau iddi! Ddylai fy mhlant ddim bod wedi diodde’r hyn maen nhw wedi gorfod mynd trwyddo, ond nawr mae lan i fi ein cadw ni ar y llwybr yma.”
Gyda chymorth Cymunedau am Waith mae Natalie, sydd nawr yn glir o gyffuriau ers 18 mis, ar fin dechrau ar hyfforddiant i ddod yn weithiwr cymorth cyffuriau cymwysedig. Mae’n dweud, “Rwyf eisiau helpu pobl eraill a all weld eu hunain yn fy stori i. Rwyf eisiau i bobl sy’n mynd trwy broblemau weld sut gwnes i drawsnewid pethau. Mae’r rhwydwaith cymorth gefais i wedi bod yn rhyfeddol ac fe fyddwn i’n annog pobl eraill i ofyn am help. Rwy’n teimlo’n gyffrous ynglŷn â’r dyfodol.”


Marilyn Llewellyn
Mae Lynnie Llewellyn yn mynychu dau ddosbarth wythnosol er mwyn dysgu Cymraeg i Lefel Sylfaen 1 a 2 ac mae’n rheolaidd yn mynychu ysgolion dyddiol…
Darllen stori Marilyn
Marilyn Llewellyn
Mae Lynnie Llewellyn yn mynychu dau ddosbarth wythnosol er mwyn dysgu Cymraeg i Lefel Sylfaen 1 a 2 ac mae’n rheolaidd yn mynychu ysgolion dyddiol ychwanegol a chyrsiau penwythnos i ddatblygu ei sgiliau. Meddai, “Cyn i mi ddechrau dysgu Cymraeg, Lynnie oeddwn i, nawr ‘wi’n Lynnie’r Gymraes! Nawr alla i siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg. Ers i mi ddysgu, mae fy myd wedi’i droi wyneb i waered.” Mae hi eisoes wedi llwyddo yn Arholiadau Mynediad CBAC, ac wedi cofrestru ar gyfer y nesaf, ond dywed ei thiwtor, “A dweud y gwir, nid ei chynnydd yw’r peth pwysicaf am Lynnie ond ei brwdfrydedd tuag at yr iaith a’i pharodrwydd i ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r dosbarth, gyda’i theulu, yn y gymuned ac yn y gweithle”. Mae Lynnie wedi mynychu cyrsiau preswyl, gan annog ei ffrindiau i ddod gyda hi i ymarfer y Gymraeg ac mae’n mynychu nosweithiau cymdeithasol yn rheolaidd – ond mae’n disgleirio wrth wneud y pethau bychain, megis dweud “Shwmae” a
“Diolch” wrth siopwyr yng Nghaerffili neu fynd â dysgwyr swil o’i dosbarth i’r bore coffi lleol. Mae dysgu Cymraeg wedi cynnig cyfleoedd newydd i Lynnie ac mae wedi manteisio ar y cyfan. Mae wedi teithio drwy Gymru gyfan, wedi gwirfoddoli yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac aeth â’i wyrion ar gwrs Cymraeg i’r Teulu yng nghanolfan breswyl yr Urdd yn Llangrannog – roedd am iddyn nhw gael rhan o’r iaith a chael cyfle i glywed a dechrau dysgu hefyd. Meddai, “Dechreuais ddysgu Cymraeg er mwyn fy wyrion ac am fonws enfawr cael mynd â nhw i Langrannog, dyna’u hanrheg Nadolig, atgofion nid teganau!” Mae ei brwdfrydedd dros ddysgu yn heintus ac mae Lynnie wedi derbyn swyddogaeth weithgar yn cefnogi cydddysgwyr drwy gydlynu eu hymrwymiad y tu allan i’r dosbarth drwy gyfrwng y cyfryngau cymdeithasol a gwirfoddoli. Meddai ei thiwtor, “Mae Lynnie yn hyrwyddwr ardderchog ar ran yr iaith Gymraeg ac mae’n dangos sut y gall ailddechrau dysgu yn weddol hwyr yn eich bywyd newid eich bywyd.”


Emily Harding
Cafodd Emily ei gyrru yn ôl i ddysgu er mwyn iddi gael y sgiliau i gynnal ei bachgen bach sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae…
Darllen stori Emily
Emily Harding
Cafodd Emily ei gyrru yn ôl i ddysgu er mwyn iddi gael y sgiliau i gynnal ei bachgen bach sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae Emily yn fam sengl a gafodd blentyndod cythryblus a’i gadawodd yn fewnblyg, yn ymladd materion iechyd meddwl a diffyg hunan barch. Yn 15 oed cafodd ddiagnosis fod ganddi anorecsia ac iselder a’i bod yn hunanniweidio er yn 11 oed.
Meddai, “Fe wnes i gloi fy hun o’r golwg am bedair blynedd gyda gorbryder erchyll ac iselder, byddai gadael y tŷ yn fy ngwneud i chwysu a chrynu, yna wnes i sylweddoli’r effaith oedd yn cael ar fy mab, dyna pryd ro’n i’n gwybod bod rhaid i mi newid.”
Cynyddodd pwysau Emily yn aruthrol dros gyfnod ac yn ystod y cyfnod hwn treuliodd amser maith wedi’i chloi yn ei chartref yn rhy ofnus i agor y drws.
Pan welodd gynorthwyydd addysgu yn gweithio gyda’i mab, cafodd Emily ei hysbrydoli i reoli ei gorbryder a diffyg hyder ac fe gofrestrodd ar gwrs Cyflwyniad i Ofal Plant gyda Dysgu Oedolion yn y Gymuned. Yn yr amgylchedd dysgu hwn mae wedi ffynnu gan gamu ymlaen i raglen lefel 2 yn ogystal â mynd ar gyrsiau eraill.
“Newidiodd fy mywyd er gwell o’r cychwyn cyntaf. Am unwaith roeddwn yn edrych ymlaen at rywbeth i mi fy hun. Dydd Gwener oedd fy niwrnod. Yn dilyn y cwrs byddwn yn mynd i redeg, wnes i nid yn unig feithrin hyder, addysg a rhyddid oddi wrth fy mhen – o’r diwedd wnes i ddechrau colli pwysau.” Mae iechyd corfforol a iechyd meddwl Emily wedi gwella, ac mae wedi colli 5 stôn ers dechrau gyda Dysgu Oedolion yn y Gymuned ac yn ddiweddar dechreuodd weithio’n rhan amser mewn cartref gofal.
Defnyddiodd yr addysg o’r rhaglen gofal plant i ddatblygu ei sgiliau fel rhiant ac i gefnogi datblygiad ei mab, yn ogystal â bod yn fwy cymwys i fynd ar ôl pobl broffesiynol i sicrhau ei fod yn cael yr asesiadau y mae eu hangen ac i ddygymod â’r gwaith papur angenrheidiol i lywio’r system.
“Rwyf nawr yn awyddus i ddysgu. Rwyf wedi cwblhau tri chwrs, wedi cofrestru ar ddau ar hyn o bryd ac rwy’n bwriadu mynd ar ddau arall. O’r diwedd gallaf weld gwerth i’r dyfodol. Dyfodol y gall fy mab fod yn falch ohono.”


Sam Gardner
Mae Sam bob amser wedi breuddwydio am fod yn athro ysgol gynradd, felly yn 18 oed, dechreuodd ar radd BA Anrhydedd mewn Astudiaethau Addysg ym…
Darllen stori Sam
Sam Gardner
Mae Sam bob amser wedi breuddwydio am fod yn athro ysgol gynradd, felly yn 18 oed, dechreuodd ar radd BA Anrhydedd mewn Astudiaethau Addysg ym Mhrifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant.
Yn dod o gefndir gofal heb lawer o gyswllt â’i deulu, daeth y teimlad ynysig oedd gan Sam wrth astudio yn broblem yn gyflym iawn. Treuliodd ei Nadolig cyntaf ar ei ben ei hun yn ei lety i fyfyrwyr tra bod ei gyfoedion yn mynd adref at eu rhieni a’u hanwyliaid. Dros y flwyddyn nesaf, daeth yr unigrwydd hwnnw yn nodwedd amlwg o’i fywyd ac er iddo wedyn lwyddo i dreulio gwyliau penodol gyda rhieni maeth blaenorol ac weithiau ei ffrindiau, roedd yn anodd iddo. Nid oedd graddau Sam gyda’r uchaf yn ei garfan ond roedd ei uchelgais i lwyddo yn amlwg ac fe wnaeth barhau i wneud cynnydd. Wrth i amser fynd ymlaen, roedd yn amlwg bod Sam yn dioddef o orbryder ac iselder ac erbyn canol ei flwyddyn olaf o astudio, nid oedd yn ymdopi bellach. Roedd y diffyg strwythur cefnogaeth y tu allan i’r brifysgol yn golygu ei fod yn teimlo nad oedd yn gallu parhau.
Gwnaeth Sam y penderfyniad y byddai’n cymryd saib o’i astudiaethau ac yn dychwelyd y flwyddyn academaidd flaenorol i ddechrau o’r newydd, er mwyn cael y cyfle gorau i wella ei raddau a chael ei radd. Dychwelodd i’w astudiaethau am ei flwyddyn olaf yn gryfach, yn fwy hyderus ac yn benderfynol o lwyddo. Llwyddodd i gwblhau ei radd a graddiodd yn haf 2015. Aeth ymlaen i gael swydd fel cynorthwyydd addysgu ac yna gwnaeth gais i gwblhau ei gymhwyster TAR. Mae Sam wedi dangos penderfynoldeb a chadernid er gwaethaf ei brofiadau niweidiol mewn bywyd ac mae bellach ar fin gwireddu ei freuddwyd o fod yn athro cymwys.
“Rwy’n credu bod addysg yn offeryn sy’n eich grymuso, yn agor eich meddyliau ac yn ein galluogi ni i symud yn gymdeithasol. Nid wyf erioed wedi gadael i’r gorffennol fy niffinio ond credaf ei fod wedi fy ngwneud yn gryfach ac yn fwy penderfynol o lwyddo”.


Lynda Sullivan
Roedd Lynda Sullivan yn dioddef o agoraffobia ac iselder yn 2001 pan ddaeth taflen am addysg oedolion trwy ei drws. ‘Am dair blynedd prin yr…
Darllen stori Lynda
Lynda Sullivan
Roedd Lynda Sullivan yn dioddef o agoraffobia ac iselder yn 2001 pan ddaeth taflen am addysg oedolion trwy ei drws. ‘Am dair blynedd prin yr oeddwn i’n gadael y tˆy,’ medd Lynda, ‘Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd bod yng nghanol pobl ac roedd bod mewn llefydd gorlawn yn gwneud i mi deimlo panig.
Pan gerddais i i Ganolfan Addysg Oedolion Llanfihangel roeddwn i’n crynu cymaint fel mai prin y gallwn i siarad, ond roedd y staff yn deall fy salwch yn dda iawn. Wedyn fe gofrestrais ar gyfer Cyfrifiaduron i Ddechreuwyr.’ Yr adeg honno roedd Cyngor Caerdydd yn mynd i godi tai ar yr ardal sy’n cael ei hadnabod fel y Rec. ‘Es ati i e-bostio pobl, dechrau deiseb, ac ysgrifennu llu o lythyrau gan ddefnyddio fy nghyfrifiadur i gywiro unrhyw wallau sillafu,’ medd Lynda.
‘Roedd hyn yn golygu mynd allan o’r tˆy yn amlach, oedd ddim bob amser yn hawdd. Cynhaliais gyfarfodydd a phrotestio y tu allan i Neuadd y Ddinas ac ar ôl dwy flynedd hir fe enillon ni’n brwydr’. ‘Dyma ni’n ffurfio grwˆp a’i alw’n Ely Garden Villagers a dod yn weithgar yn y gymuned. Erbyn hyn rwy’n rhedeg naw o dimau pêl-droed gan ddechrau gyda rhai 8 -18 oed’. Yn 2010 roedd Richard North yn chwilio am brosiect fel miliwnydd dirgel mewn ardaloedd tlawd. Aeth i’r ardal yn y dirgel a rhyfeddu faint o waith oedd Lynda a’i gwˆr Peter yn ei wneud, ac felly fe ddarparodd yr arian ar gyfer cyfleusterau pêl-droed yn y Rec.
Ymwelodd wedyn bum mis yn ddiweddarach ac roedd wrth ei fodd gweld y gwelliannau i’r ardal a’r cynnydd yn nifer y bobl ifanc oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon. ‘Fe newidiodd dysgu oedolion fy mywyd,’ medd Lynda. ‘Mae popeth wyf wedi’i wneud ers hynny yn ganlyniad i wneud y cyrsiau. Y diwrnod y daeth y daflen trwy fy nrws gan y Ganolfan Dysgu Oedolion mi newidiwyd fy holl fywyd.’
DAL ATI
I DDYSGU
Os ydych yn teimlo eich bod wedi cael eich ysbrydoli i newid eich stori, mae ein hymgyrch yn ffordd wych o ganfod mwy am y ffordd y gallwch ddysgu rhywbeth newydd a datblygu eich sgiliau. Porwch er mwyn dod o hyd i ystod o diwtorialau a chyrsiau am ddim fel y celfyddydau, ieithoedd, sgiliau digidol, pobi, mathemateg, ysgrifennu creadigol a llawer mwy!
CYMRU’N GWEITHO
Dysgu sgiliau newydd adechrau’r bennod nesaf
Mae Cymru’n Gweithio yn wasanaeth newydd sy’n galluogi unrhyw un dros 16 oed ledled Cymru i gael mynediad i gyngor ac arweiniad arbenigol i’ch helpu i oresgyn rhwystau a all fod yn eich wynebu i fynd i waith.
Felly p’un ai ydych angen help i chwilio am swyddi, ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliad, canfod lleoliad gwaith, dysgu sgiliau newydd, deall hawliau dileu swydd, cefnogaeth gofal plant, meithrin hunanhyder, neu hyd yn oed ble i droi iddo nesaf, dyma’r lle cywir i gael yr help rydych ei angen.