NEWID DY STORI
Edrychwch ar straeon ysbrydoledig pobl a gymerodd y cam cyntaf i droi eu bywydau o amgylch i adeiladu dyfodol gwell iddynt eu hunain, eu teulu a’u cymuned. Bu addysg oedolion yn allweddol i bob un o’u straeon llwyddiant ac yn rhaff bywyd i lawer. Cewch chithau eich ysbrydoli drwy glicio ar unrhyw un o’r delweddau islaw i ddarllen neu gweld eu stori. Dyma’r hyn y gall addysg oedolion ei wneud i chi, gallwch chithau newid eich stori hefyd.
Chloe Young
Ddwy flynedd yn ôl, roedd Chloe Young o’r Wyddgrug yn rhy ofnus i adael ei chartref ei hun oherwydd gorbryder ac iselder difrifol ac anhwylder…
Darllen stori ChloeChloe Young
Ddwy flynedd yn ôl, roedd Chloe Young o’r Wyddgrug yn rhy ofnus i adael ei chartref ei hun oherwydd gorbryder ac iselder difrifol ac anhwylder bwyta yr oedd wedi bod yn brwydro yn ei erbyn ers pan oedd yn 17 oed. Meddai: “Mae fy mywyd wedi bod fyny ac i lawrr. Ar fy ngwaethaf, byddwn yn ei chael hi’n anodd dod allan o’r gwely i fynd â fy merch i’r ysgol. Doedd gen i ddim hyder – doedd gen i ddim byd ar ôl i’w roi. Doeddwn i ddim yn gweld pwrpas siarad am fy iechyd meddwl achos roeddwn i’n teimlo nad oedd unrhyw beth a fyddai’n gallu cael gwared ar fy mhrofiadau.”
Cafodd Chloe ei chyfeirio at raglen WeMindTheGap, cynllun sy’n darparu mentora bywyd, profiad gwaith a mynediad at gyflogaeth. Meddai:
Pan raddiodd Chloe, gofynnwyd iddi rannu ei phrofiadau gyda menywod ysbrydoledig eraill ar ei chwrs, noddwyr elusennau, rheolwyr lleoliadau, ffrindiau a theulu. “Roeddwn i’n ysgwyd, ac yn methu ynganu fy ngeiriau’n iawn wrth i mi ddarllen fy araith i ystafell o tua 200 o bobl. Roeddwn i mor emosiynol, fe ddechreuais i grio – allwn i ddim credu bod gen i’r hyder i’w wneud. Roeddwn i’n gwybod y gallwn ddangos yr hyn oedd yn bosib i’r bobl a oedd yn fy amau, a dwi wedi llwyddo i wneud hynny.
Arweiniodd ei lleoliad ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol fel gweithiwr cymorth i’r henoed at swydd barhaol.
“Dwi wrth fy modd gyda’r gwaith ac mae wedi bod yn newid byd i fi. Mae gan fy merch tua 20 o neiniau a theidiau anrhydeddus, maen nhw wrth eu boddau’n clywed amdani. Fe wnaeth hyn i mi sylweddoli fy mod i eisiau gofalu am bobl. Mae fy mos yn dweud fod gen i’r potensial i fod yn uwch reolwr, ond dwi eisiau mynd i’r brifysgol ac astudio nyrsio. Es i draw i weld fy nain yr wythnos diwethaf ac roedd hi’n dweud pa mor iach dwi’n edrych. Dwi’n bwyta’n well, dwi’n cymdeithasu, mae gen i swydd dwi wrth fy modd â hi, mae gen i gar a dwi’n aros am ddyddiad ar gyfer fy mhrawf gyrru.”
John Spence
Dechreuodd John ei daith ddysgu gyda'r Brifysgol Agored yn 2010, a graddiodd saith mlynedd yn ddiweddarach gyda gradd BSc (Anrh) mewn Gwyddorau Iechyd, cyflawniad sydd…
Darllen stori JohnJohn Spence
Dechreuodd John ei daith ddysgu gyda’r Brifysgol Agored yn 2010, a graddiodd saith mlynedd yn ddiweddarach gyda gradd BSc (Anrh) mewn Gwyddorau Iechyd, cyflawniad sydd yn cael ei ddisgrifio ganddo fel “cyflawniad mwyaf rhyfeddol fy mywyd.” Roedd John wedi cael trafferth yn dysgu yn yr ysgol. Roedd ganddo ddyslecsia difrifol ac ADHD, a dywedwyd wrtho “y byddai’n fethiant, ac nad oedd yn haeddu cael ei addysgu gydag eraill”. Meddai, “Roeddwn i’n cael fy ngwneud i deimlo ac i edrych yn dwp drwy’r amser. Roeddwn yn cael fy ngwneud yn destun sbort gan fy athrawon, ac yn cael fy mychanu o flaen plant eraill. Cefais fy ngwneud i sefyll ar gadair a darllen o flaen y dosbarth. Fe wnaethon nhw esiampl ohonof, heb sylwi fy mod i wir angen help. Cafodd fy hyder ei chwalu, a dechreuais ddatblygu atal dweud.” Ymunodd John â’r fyddin ar ôl gadael yr ysgol, a gwasanaethodd fel Comando y Fyddin yn Irac ac yn Affganistan. Cafodd ei wthio i’w gyfyngiadau corfforol, a chafodd fywyd milwrol llwyddiannus, ond fe barhaodd i frwydro gyda’r demoniaid personol oedd wedi cael eu plannu yn ei blentyndod. Nid oedd erioed wedi dweud wrth unrhyw un nad oedd yn gallu darllen nac ysgrifennu. Dim ond pan adawodd y Fyddin yn 2000, a phan oedd yn gweithio fel Parafeddyg ar y Môr, y cafodd ei gyfrinach ei darganfod. “Roeddwn i’n arfer dysgu popeth ar gof. Mae’r fyddin yn gorfforol iawn, felly roedd hi’n hawdd cuddio. Ond roeddwn i’n gwybod bob amser y buaswn i’n ofnadwy mewn arholiad. “Sylwodd ei hyfforddwr fod rhywbeth yn bod, a dywedodd wrtho ei fod yn ddigon clyfar i barhau â’i freuddwyd i gael gyrfa mewn meddygaeth – ac anogodd ef, yn 34 oed, i ailymuno â’r byd addysg. Roedd John yn nerfus iawn, ond gwnaeth ymholiadau gyda’r Brifysgol Agored. Cafodd asesiadau ar gyfer dyslecsia eu gwneud a gyda chefnogaeth tiwtoriaid, gwnaeth gynnydd da. Yna, cafodd ei ddiagnosio gydag anhwylder gweledol sy’n gysylltiedig â dyslecsia. Er ei fod angen cymryd mwy o amser i ddarllen trwy lyfrau testun a chwblhau aseiniadau, daliodd John ati, gan fuddsoddi amser ac ymdrech i feistroli technoleg gynorthwyol. Roedd gweithio oddi ar y tir yn cyflwyno heriau ychwanegol yn ystod amseroedd arholiadau, ond llwyddodd i oresgyn y rhain drwy recriwtio Capten y Llong i weithredu fel goruchwyliwr! Roedd y diwrnod graddio yn ddiwrnod emosiynol dros ben. “Does dim geiriau i ddisgrifio’r ymroddiad, yr amynedd a’r anogaeth a gefais gan fy nhiwtoriaid. Dechreuais gyda nhw fel milwr wedi torri, ond nawr, ar ôl siwrnai hir, ‘dwi wedi symud ymlaen, a dwi’n rhedeg fy nghwmni meddygol fy hun. ” Erbyn hyn, mae John yn uwch swyddog meddygol sy’n teithio’r byd, ac sy’n gyfrifol am iechyd criw o 150 o bobl ac am redeg ei fusnes meddygol ei hun, o’r enw PATRONAS Rescue International. Mae ei fusnes wedi’i seilio ar yr egwyddor o gefnogi eraill, addysgu gofal brys cyn mynd i’r ysbyty i dimau o feddygon, a darparu
Rhiannon Norfolk
Roedd cael y cyfle i ddysgu Cymraeg yn factor allweddol ym mhenderfyniad Rhiannon Norfolk i symud yn ôl i Gymru. Roedd wedi etifeddu ei chariad…
Darllen stori RhiannonRhiannon Norfolk
Roedd cael y cyfle i ddysgu Cymraeg yn factor allweddol ym mhenderfyniad Rhiannon Norfolk i symud yn ôl i Gymru. Roedd wedi etifeddu ei chariad at Gymreictod gan ei rhieni, sy’n hanu’n wreiddiol o dde Cymru ac arferai dreulio’u gwyliau bob haf yng Ngwynedd.
Fe ysbrydolodd y gwyliau teuluol hynny Rhiannon I astudio ym Mhrifysgol Bangor ble’r oedd wedi bwriadu dod yn rhugl yn yr iaith, ond oherwydd ei hamserlen brifysgol brysur bu raid iddi roi’r gorau i’w gwersi Cymraeg. “Fe es ymlaen gyda fy mywyd, fel mae rhywun yn gwneud, ond roedd Cymru bob amser yn teimlo fel adref ac roedd gen i’r hiraeth yma am yr iaith.”
Bu rhaid aros nes ei bod yn byw yn Wiltshire flynyddoedd yn ddiweddarach cyn i gyfarfyddiad hap a damwain arwain Rhiannon yn ôl i Gymru. “Gwelais boster am fand o’r enw Calan yn chwarae yn neuadd y dref yn Chippenham,” meddai. “Es draw yno ar fy mhen fy hun ac roeddwn i ar ben fy nigon. Fe deimlais gysylltiad enfawr gyda seiniau prydferth y Gymraeg a’r gerddoriaeth hudolus, a death hynny â rhywfaint o’r hyn oeddwn i wedi ei ddysgu yn ôl.”
Pan welodd swydd yn cael ei hysbysebu yn ei maes hi, sef gwerthuso yn y gwasanaeth iechyd, gwnaeth gais amdani, cafodd y swydd a symudodd i Gymru. Flwyddyn yn ddiweddarach mae bron wedi cwblhau cwrs Cymraeg lefel-sylfaen llwybr carlam yng Nghymuned Ddysgu Penarth.
“Roeddwn i’n teimlo’n nerfus iawn yn mynd yno ond cefais fy sicrhau y byddwn i’n gallu adeiladu ar y sgiliau Cymraeg oedd gen i’n barod, er eu bod nhw’n rhydlyd,” meddai. “Roeddwn i’n poeni y byddwn i mor bell ar ôl pawb arall gyda fy Nghymraeg elfennol iawn a finnau heb fod yn dysgu ers 13 blynedd, ond roedd yn wych. Roedd pawb mor groesawgar ac mae’n rhyfeddol gymaint mae rhywun yn ei gofio.”
Mae Rhiannon yn mynychu’r dosbarth am ddwyawr bob wythnos ochr yn ochr ag ysgolion dydd Sadwrn. Mae’n ymuno â grŵp darllen yng Nghanolfan Ddysgu Cymunedol i Oedolion Palmerston yn y Barri, ac wedi mynychu cwrs preswyl penwythnos gyda’i mam, Gill, sydd hefyd yn dysgu Cymraeg mewn dosbarthiadau yn agos at ei chartref yn Nhrefynwy.
Ar ôl cael canlyniadau rhagorol yn ei harholiad mynediad, mae Rhiannon nawr yn paratoi i sefyll ei hasesiad sylfaen. “Mae dysgu Cymraeg wedi bod yn bleser pur i mi, o’r diwedd rwyf wir yn teimlo ’mod i gartref,” meddai.
Mae Rhiannon yn dioddef o iselder, gorbryder a Syndrom Poen Rhanbarthol Cymhleth, sy’n golygu’i bod yn gorfod defnyddio ffon neu gadair olwyn ac yn achosi poen a blinder cyson.
Dywedodd Rhiannon: “Mae dod i ddosbarthiadau Cymraeg wedi gwneud wahaniaeth mawr i fy iechyd meddwl. Rwy’n mynd ar fy nghyflymder fy hun ac yn cymryd seibiant yn y dosbarth pan fydd angen. Mae dysgu’n rhoi strwythur i mi a lle i wneud ffrindiau. Mae wedi fy helpu i gadw fy ymennydd yn brysur a rhoi teimlad i mi o bwrpas a chyflawni. Roeddwn i wastad yn teimlo’n edifar i mi roi’r gorau i’r Gymraeg ac eisiau datrys hynny, ac rwy’n teimlo mor fodlon nawr fy mod wedi llwyddo.”
Dywedodd Suzanne Condon a enwebodd Rhiannon, “Mae’n amlwg fod dysgwyr eraill yn y dosbarth wrth eu bodd yn ymarfer gyda Rhiannon, mae hi’n wych am eu hannog i ddweud cymaint â allan nhw. Mae hi’n ddysgwraig gyda chenhadaeth ac yn ysbrydoliaeth i eraill.”
Catrin Pugh
Newidiodd bywyd Catrin am byth yn 2013 pan ddioddefodd losgiadau gradd tri ar 96% o’i chorff mewn damwain bws yn Ffrainc, roedd yn 19. Doedd…
Darllen stori CatrinCatrin Pugh
Newidiodd bywyd Catrin am byth yn 2013 pan ddioddefodd losgiadau gradd tri ar 96% o’i chorff mewn damwain bws yn Ffrainc, roedd yn 19. Doedd fawr o obaith iddi bara’n fyw ac fe fu mewn coma am dri mis. Meddai, “Fe ddaliais ati i frwydro, ond roeddwn yn amheus a oedd gen i ddyfodol. Pan wnes i ddeffro o’r coma roeddwn wedi cael sawl llawdriniaeth ac yn methu symud”. Cafodd Catrin ei gadael gyda chreithiau corfforol a meddyliol, roedd ei golwg canol y maes wedi diflannu, cafodd blaenau bysedd ei llaw chwith eu trychu, a bu’n ymgodymu ag anhwylder pryder ôl-drawmatig ac ôl-fflachiau o fod ar dân. Meddai, “Roedd bywydau pawb arall yn mynd yn eu blaenau tra roedd fy mywyd i’n cymryd egwyl. Mae’n gwneud i chi amau eich gwerth, roedd fy hunan hyder yn deilchion”. Wedi treulio’r pedair blynedd ganlynol yn cael therapi corfforol i ddysgu unwaith eto sut i gerdded, siarad a bwyta, meddai Catrin “Dechreuais weld fod fy anableddau corfforol a’m materion iechyd meddwl yn llai o rwystr ac yn fwy o ysgogiad i brofi fod modd cyflawni unrhyw beth os rowch eich bryd arno.” Er bod y byd yn teimlo fel lle dychrynllyd, gwthiodd Catrin ei ffordd drwy’r heriau hyn a chymryd ei cham cyntaf pan ddechreuodd weithio fel cyfaill cefnogol gydag elusennau megis Sefydliad Katie Piper a Changing Faces, gan gynnal sgyrsiau cymhelliant ar sut i oroesi profiadau sy’n newid bywydau. Meddai, “Yr hyn oeddwn wir am ei wneud oedd astudio unwaith eto ac anelu at yrfa ystyrlon ble gallwn i wneud gwahaniaeth.” Cafodd Catrin ei hysbrydoli gan swyddogaeth y Ffisiotherapydd yn ystod ei hadferiad ei hun, ac yn 2017 dechreuodd ar daith i ddod yn ffisiotherapydd. Meddai, “Roedd mynd yn ôl i fyd addysg yn frawychus. Roeddwn wedi cwblhau 15 mlynedd o addysg mewn sefyllfa ffodus o beidio â chael anghenion ychwanegol, nawr roedd gen i anghenion niferus.” I ddilyn cwrs gradd mewn Ffisiotherapi, roedd rhaid i Catrin gael cymhwyster Safon 3 mewn pwnc gwyddonol. Cofrestrodd i fynd ar gwrs Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru i astudio Biowyddorau yng Ngholeg Cambria. Meddai, “Wedi magu dewrder i fynychu, daeth pob dydd yn haws. Roeddwn i’n parhau i fod yn ddeallus, yn alluog a llwyddodd yr addasiadau i wneud popeth yn gyraeddadwy.” Wedi rhagori yn ei chwrs, mae Catrin wedi derbyn cynigion gan Brifysgol a bydd yn cymryd ei lle ym mis Medi 2018. Dywedodd Jackie Grieves o Goleg Cambria, “Mae pawb yma wedi cael eu syfrdanu a’u hysbrydoli gan agwedd gadarnhaol a phenderfyniad Catrin i gyrraedd ei nod.”
Scott Jenkinson
Ddeng mlynedd yn ol, roedd Scott Jenkinson yn camddefnyddio sylweddau ac yn ddigartref. Ond diolch i addysg oedolion, mae wedi newid ei fyd yn llwyr.…
Darllen stori ScottScott Jenkinson
Ddeng mlynedd yn ol, roedd Scott Jenkinson yn camddefnyddio sylweddau ac yn ddigartref. Ond diolch i addysg oedolion, mae wedi newid ei fyd yn llwyr. Erbyn hyn mae’n athro, yn briod efo merch fach newydd-anedig ac mae’n hapus!
Yn ol yn 2005, addysg oedolion oedd y peth olaf ar feddwl Scott, ond pan gafodd ei annog gan staff hostel lle roedd yn aros i wneud cais i ddilyn cwrs, cytunodd I wneud hynny gan ei fod angen rhywle i fyw. Yr hyn na sylweddolai ar y pryd oedd mai’r cwrs hwn fyddai’r trobwynt yr oedd ei angen oherwydd diolch i’r arweiniad, yr ysgogiad a’r cymorth a gafodd yno, dechreuodd osod y sylfeini ar gyfer bywyd newydd sbon ac ennill cymhwyster.
Yn 2008, gwnaeth Scott gais I ddilyn cwrs Cymorth Dysgu a Gofal Cymdeithasol ac fe’i hysbrydolwyd gan ei diwtor i ddilyn y llwybr a fyddai’n ei arwain i fod yn athro. Erbyn hyn mae’n hyfforddwr rhan-amser i Nacro, gan gydweithio ag oedolion ifanc ar raglan hyfforddeiaeth ac fe sefydlodd ‘4:28 training’ sy’n darparu hyfforddiant argyfer oedolion sydd yn wynebu’r un trafferthion ag yr oedd ef ar un adeg.
Meddai Scott, “Mae fy nhaith bersonol I fel rhywun a oedd yn gaeth i sylweddau ac yn gyn-droseddwr wedi rhoi darlun cliriach i mi o’r llwybr a arweiniodd at yrfa fel athro a’r unigolyn ydw i heddiw. Rwy’n credu’n gryf fod addysg yn newid bywydau a gall addysg fod yn Sylfaen i fywyd newydd a thynnu pobl allan o’r cylch dieflig o droseddu a hynny drwy gyfleoedd, anogaeth ac arweiniad. “Os galla i fod y math o athro yr oeddwn i’n ddigon lwcus o’i gyfarfod ar fy nhaith I yna rwy’n credu’n gryf bod yna reswm i’r blynyddoedd cythryblus y bues i’n gaeth I sylweddau.”
Kierran James
Saith mlynedd ar ôl cael ei ryddhau o’r Fyddin ar seiliau meddygol, mae Kierran James wedi ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Cynnal a Chadw…
Darllen stori KierranKierran James
Saith mlynedd ar ôl cael ei ryddhau o’r Fyddin ar seiliau meddygol, mae Kierran James wedi ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Cynnal a Chadw Awyrennau. Ymunodd Kierran â’r fyddin pan oedd yn 16 oed a heb y gefnogaeth a’r teimlad o bwrpas a gâi gyda’r Fyddin, dechreuodd ei iechyd meddwl ddioddef, a chafodd ddiagnosis o iselder a gorbryder. Ar ôl blynyddoedd yn symud o swydd i swydd, roedd o wedi colli ei ffordd.
Meddai Kierran: “Y Fyddin oedd yr unig beth oedd yn gyfarwydd i fi. Roedd llawer o fy mherthnasau yn y Fyddin ac roeddwn i wastad wedi dychmygu fy hun yn mynd o swydd i swydd o fewn y Fyddin. Mae’n ffordd o fyw ac mae’n teimlo fel teulu felly roedd cael hynny i gyd yn diflannu’n sydyn yn anodd iawn ymdopi ag ef.
“Roedd bywyd ar ôl hynny’n reit ddigalon, bues yn gweithio mewn nifer o dafarndai ond wnes i ddim llwyddo i aros yn unman.”
Daeth gobaith yn ôl i fywyd Kierran pan gyfarfu â’i bartner; fe wnaeth ei helpu i gamu yn ôl ac ail-werthuso ei yrfa. Dywedodd,
Roedd dychwelyd i ddysgu yn her i Kierran, a ddywedodd, “Roeddwn i wastad wedi cysylltu dysgu â’r amser anodd ges i yn yr ysgol pan fu nhad farw.” Yn ystod ei amser ar y cwrs, cafodd ddiagnosis o ddyslecsia nad oedd neb wedi sylwi arno yn yr ysgol. “Roeddwn i bob amser wedi teimlo bod gwaith ysgol yn waith caled ond ar ôl deall pam roeddwn i’n cael trafferth a gwneud newidiadau bach fel argraffu gwaith ar bapur melyn roeddwn i’n gallu cadw i fyny â’r gwaith yn y dosbarth yn well.”
Ffynnodd Kierran yn yr amgylchedd dysgu yma ac ar ôl cwblhau ei Lefel 2 a 3 mewn modiwlau Trwydded A aeth ymlaen i astudio ar gyfer gradd mewn cynnal a chadw awyrennau. Dywedodd Kay Davies, ei diwtor: “Rwyf wedi gweld ei drawsnewidiad o fod yn ddysgwr Addysg Bellach ar gwrs ymarferol yn bennaf Peirianneg Awyrennau i ddysgwr Addysg Uwch hyderus ar gwrs academaidd iawn”.
Ers hynny, mae Kierran wedi siarad mewn ffeiriau gyrfaoedd, wedi ymgymryd â rôl arweinydd tîm ar brosiectau grŵp a sicrhau’r interniaeth gyntaf erioed mewn cwmni cynnal a chadw awyrennau a hyfforddi, Caerdav – sy’n adnabyddus oherwydd ei gysyllltiadau gyda Bruce Dickinson o Iron Maiden.
“Roedd Bruce yn siarad mewn cynhadledd ac es i ato i ofyn am rywfaint o brofiad gwaith – pe baech wedi dweud hynny wrtha i bum mlynedd yn ôl, fyddwn i wedi chwerthin! Mae cefnogaeth ar gael a byddwn yn annog pobl i rannu eu problemau a’u nodau hefyd oherwydd fe fydd pobl yn eich helpu i ddod o hyd i ffordd drwyddi.”
Joseff Oscar Gnagbo
Cafodd Joseff Gnagbo ei fagu ar y Traeth Ifori, ond bu’n rhaid iddo geisio lloches yng Nghymru oherwydd aflonyddwch gwleidyddol. Meddai: “Roedd fy mamwlad o…
Darllen stori JoseffJoseff Oscar Gnagbo
Cafodd Joseff Gnagbo ei fagu ar y Traeth Ifori, ond bu’n rhaid iddo geisio lloches yng Nghymru oherwydd aflonyddwch gwleidyddol. Meddai: “Roedd fy mamwlad o dan warchae ac roedd o’n frawychus. Roedd yna lawer o ymladd, felly roedd yn rhaid i fi ffoi i rywle diogel.
Doeddwn i’n gwybod dim am Gaerdydd heb sôn am Gymru. Y cyfan roeddwn i wedi’i glywed oedd ei fod yn lle gwyrdd iawn, nad oedd gormod o bobl yma a bod y trigolion yn neis iawn. Dwi wedi byw ymhob cwr o’r byd ac wedi addo i fi fy hun y byddwn i bob amser yn dysgu iaith frodorol y wlad yr oeddwn ynddi.”
Mae Joseff bellach yn gweithio fel gofalwr, cyfieithydd ac athro, ac mae’n gwirfoddoli i Gymdeithas yr Iaith. Mae hefyd yn rhoi sesiynau blasu Cymraeg sy’n para hanner awr yng Nghyngor Ffoaduriaid Cymru – ar ôl i ddysgwyr gael awr o hyfforddiant Saesneg.
Aeth ymlaen i ddweud: “Roedd rhai o’m tiwtoriaid yn amheus am ychwanegu’r Gymraeg at y cyrsiau Saesneg.
Roedden nhw’n meddwl y gallai ddrysu pobl. Ond gan fod cymaint o arwyddion yn Gymraeg a bod pobl yn siarad yr iaith, dwi’n meddwl ei bod yn bwysig gwybod y pethau sylfaenol, yn enwedig os ydych chi’n chwilio am waith neu os oes gennych chi blant sy’n mynychu ysgolion dwyieithog. Dwi am barhau i ddatblygu fy sgiliau ac wrth fy modd yn cerdded drwy’r canolfannau lle dwi’n gwirfoddoli a chlywed ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn dweud diolch!”
Ralph Handscomb
Bu Ralph Handscomb, sy’n dod o Ferthyr Tudful ac sydd wedi ymddeol, yn helpu pobl i chwilio am swyddi yn ystod y cyfnod clo, mae’n…
Darllen stori RalphRalph Handscomb
Bu Ralph Handscomb, sy’n dod o Ferthyr Tudful ac sydd wedi ymddeol, yn helpu pobl i chwilio am swyddi yn ystod y cyfnod clo, mae’n ddysgwr ac yn wirfoddolwr sy’n gweithio gyda Dysgu Oedolion yn y Gymuned Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn Y Coleg ym Merthyr ac yn y Ganolfan Gwaith a Mwy yn y dref.
Meddai Ralph: “Dwi wedi bod â diddordeb brwd mewn cyfrifiaduron erioed. Ond ar ôl pasio saith Lefel O yn y 70au, doedd dim llawer o gyfleoedd i mi yn y diwydiant, felly tyfodd fy niddordeb gryn dipyn ar ôl i ni gael ein cyfrifiadur desg cyntaf gartref yn 1996. Fues i’n mynd i ddosbarthiadau nos ac roeddwn i wedi synnu pa mor wahanol oedd hynny i’m profiad yn yr ysgol oherwydd fod pobl eisiau bod yno go iawn! Roedd yn brawf bod modd i chi barhau i ddysgu, yn eich amser eich hun ac o gwmpas ymrwymiadau teuluol.
Meddai Ralph: “Dwi wedi dod â’m sgiliau digidol i bob swydd dwi wedi’i gwneud, hyd yn oed fel gyrrwr bws roeddwn i’n helpu pawb yn y swyddfa i ddigideiddio ac ailwampio’r systemau llwybrau a thocynnau. Ar ôl ymuno â’r gwasanaeth sifil roedd y ffaith ‘mod i wedi gwneud dosbarthiadau nos a chael cymwysterau yn gyfrifol am dri dyrchafiad o fewn y gwasanaeth sifil ond ar ôl 18 mlynedd roedd hi’n bryd i mi ymddeol. Fe wnes i dreulio peth amser o amgylch y tŷ, ond roedd fy ngwraig am i mi wneud rhywbeth i lenwi’r amser – ac achos ‘mod i o dan draed.”
Aeth Ralph yn ôl i’r “ysgol” gan gwblhau’r Wobr mewn Addysg a Hyfforddiant (Lefel III), sydd nawr yn caniatáu iddo rannu ei sgiliau a’i brofiad drwy ei waith gwirfoddoli. Meddai:
Aeth Ralph ymlaen: “Mae dysgu wedi fy helpu i drwy gydol fy ngyrfa ac erbyn hyn dwi’n hapus iawn fy mod i’n gallu helpu eraill. Mae bron bopeth ar-lein erbyn hyn, a gall fod yn greulon i’r rhai sy’n teimlo’n ddihyder – mae hyd yn oed cofrestru yn y Ganolfan Waith i gyd yn ddigidol, yn ogystal â chwilio am swydd.
Dwi wrth fy modd yn gweld fy nysgwyr yn pasio ac yn magu hyder a gweld drysau’n agor iddyn nhw – yn bersonol ac yn broffesiynol. Unwaith mae’r fflam ddysgu wedi tanio ac yn llosgi mae’r dysgwyr yn sicr o gyflawni, a does dim ffordd o fesur y balchder dwi’n ei deimlo.”
Emma Williams
Cafodd Emma Williams ei geni yn Wrecsam a roedd wedi gadael cartref erbyn iddi fod yn 14 oed. Cafodd broblemau gyda’i iechyd meddwl a bod…
Darllen stori EmmaEmma Williams
Cafodd Emma Williams ei geni yn Wrecsam a roedd wedi gadael cartref erbyn iddi fod yn 14 oed. Cafodd broblemau gyda’i iechyd meddwl a bod yn gaeth i gyffuriau, roedd yn ddigartref yn ei harddegau ac yn ofni na fedrai ddianc.
Pan oedd hi’n 21 oed, cafodd Emma ferch fach ac wrth iddi dioddef o iselder ôl-enedigol, gwaethygodd ei dibyniaeth ar gyffuriau ac aeth pethau o ddrwg i waeth. “Doeddwn i ddim yn gwybod y gwahaniaeth rhwng dydd a nos,” meddai. “Roeddwn i’n teimlo mai oes o galedi oedd fy nhynged i. Roedd cyffuriau ac alcohol fel blanced diogelwch.”
Wyth mlynedd yn ddiweddarach, a hithau’n 29 oed fe gerddodd i mewn i ganolfan adfer ym Mae Colwyn, o’r enw Touchstones 12.
“Roedd coleg drws nesaf i’r ganolfan. Dechreuais gyda rhywbeth bach – ychydig o gyrsiau cyflogadwyedd i gadw fy meddwl yn brysur. Fe newidiodd fy mywyd.”
Wrth gael help gyda’i dibyniaeth, gwnaeth Emma gais am swydd fel gweithiwr cymorth adfer a threuliodd y ddwy flynedd nesaf fel gweithiwr achos, gan helpu eraill i ddelio â’u problemau cyffuriau eu hunain.Roedd cael ei diswyddo o’r swydd yr oedd yn ei hoffi yn ergyd, ond fe’i gwnaeth hi’n fwy penderfynol byth i ddysgu a gwnaeth gais i fynd i’r brifysgol.
Gan ddychwelyd at y cymwysterau roedd hi wedi llwyddo i’w cael yn ei hugeiniau, ynghyd â’r cyrsiau newydd roedd hi wedi’u cwblhau, llwyddodd Emma i wneud cais i ddechrau astudio ar gyfer gradd mewn Gwyddoniaeth Fforensig.
Meddai Emma, sy’n 39: “Ddeng niwrnod yn ddiweddarach, roeddwn i’n eistedd yn fy narlith cemeg cwantwm cyntaf. Dwi wedi dioddef dipyn gyda syndrom twyllwr. Does dim llawer o’r myfyrwyr yn edrych fel fi nac yn dod o gefndir tebyg i fi – ond dwi mor benderfynol.”
Dros y pum mlynedd nesaf cwblhaodd ei gradd mewn Gwyddoniaeth Fforensig a chwrs TAR, ac ar hyn o bryd mae hi’n cwblhau MRes mewn Anthropoleg Fforensig a Bioarchaeoleg gyda ffocws ar anthropoleg fiolegol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Ar ôl cymhwyso fel athrawes, bu’n addysgu ar y cwrs gradd Gwyddoniaeth Fforensig ac mae bellach yn gyfathrebwr gwyddoniaeth i Techniquest yn y gogledd, gan weithio fel model rôl i fenywod mewn pynciau STEM.
“Nawr dwi’n annog merched i astudio gwyddoniaeth fel fi,” meddai.
Thomas Ferriday
Mae Thomas Ferriday wedi ennill Diploma Gwaith Brics Lefel 3 a nawr yn gweithio yng Ngholeg Caerdydd ar Fro fel technegydd yn yr Adran Adeiladu…
Darllen stori ThomasThomas Ferriday
Mae Thomas Ferriday wedi ennill Diploma Gwaith Brics Lefel 3 a nawr yn gweithio yng Ngholeg Caerdydd ar Fro fel technegydd yn yr Adran Adeiladu ble mae’n mentora dysgwyr newydd ar ddechrau eu taith.
Mae Tom wedi dod ymhell, ar ôl treulio blynyddoedd yn byw gyda gwahanol aelodau o’r teulu oherwydd problemau yn y cartref, cyn symud i fflat un ystafell ar ei ben ei hun pan oedd yn 17 oed. Ymwelodd ag elusen ddigartrefedd Llamau, a ddarparodd weithiwr cymorth i’w helpu i roi trefn ar ei faterion ariannol a’i sgiliau byw o ddydd i ddydd. “Fe weithiais allan mod i angen £5 y dydd i brynu bwyd, talu biliau a chael fy hun i’r coleg,” meddai. “Doedd gen i ddim llawer o arian ac roedd rhai diwrnodau nad oedd gen i brin ddigon i gael cinio, ond fe ddaliais I fynd i’r coleg gan fy mod i’n gwybod y byddai hynny’n fy helpu i gael gwaith a chael dyfodol gwell.”
Roedd wedi gadael yr ysgol heb unrhyw TGAU, roedd yn cael ei fwlio ac roedd bywyd gartref yn anodd. “Dwedais i wrtha’n hun o oedran cynnar fy mod i’n mynd I weithio’n galed a derbyn pob cyfle i fynd bant o’r helbulon a dod o hyd i rywbeth oeddwn i’n ei garu. Rwy’n dweud yr un peth wrth fy myfyrwyr.”
Ar ôl gadael ysgol rhoddodd Tom gynnig ar gwrs Paentio ac Addurno. “Wnes i ddim yn dda ar y cwrs hwnnw ond roeddwn i’n gwybod fod gen i lawer i’w gynnig, felly daliais ati,” meddai. Rhoddodd gwylio pytiau ysgogi ar YouTube fwy eto o benderfyniad iddo wneud ei orau. Mae’n dweud, “Roedd yna ddyn gydag anableddau difrifol oedd wedi gwneud pethau anhygoel, doedd e ddim wedi gadael i unrhyw beth ei ddal yn ôl ac roedd yn astudio mewn prifysgol. Meddyliais innau, mae cymaint o bobl wedi bod trwy galedi. Mae gan lawer o bobl brofiadau anodd ond maen nhw wedi newid eu bywydau trwy ddysgu.”
Ymgeisiodd Thomas am 40 swydd heb gael cymaint ag un cyfweliad, ond roedd yn benderfynol o gael gwaith, felly cofrestrodd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ar gwrs Diploma Gwaith Brics Lefel 2.
Gan gymryd dosbarthiadau ychwanegol mewn Mathemateg a Saesneg aeth ymlaen i gwrs Lefel 3. Nawr mae Thomas yn gobeithio y bydd ei sgiliau yn ei helpu I wireddu ei uchelgais i grwydro’r byd.
“Byddwn wrth fy modd yn gweithio ar brosiectau adeiladu yn Affrica,” meddai. “Rwyf wedi cynilo rhywfaint o arian ac yn gobeithio cynllunio rhywbeth ar gyfer gweddill y flwyddyn.”
Dywedodd y darlithydd Gwaith Brics, Paul Sebburn, a enwebodd Thomas, “Roedd ei agwedd at waith yn anhygoel. O’r diwrnod cyntaf roedd eisiau mwy o waith, doedd e byth yn hwyr, roedd ganddo bresenoldeb 100%, ac roedd bob amser yn cyrraedd ei wersi gyda gwên ar ei wyneb. Mae wedi gweithio mor galed i gyrraedd ble mae e a fe fydd y person cyntaf i ddweud nad oedd y Gwaith academaidd yn hawdd iddo, ond mae wedi dal ati.”
Ychwanegodd Thomas: “Rwyf bob amser wedi gorfod brwydro, ond rwyf bob amser wedi bod yn benderfynol o wneud fy ngorau a gwneud pethau ychwanegol i gyrraedd fy nod. Mae gweithio’n galed wedi rhoi cymaint i mi.”
Jimama Ansumana
Ganed Jimama (JJ) yn Sierra Leone, Gorllewin Affrica, ym 1995. Collodd ei theulu cyfan yn ystod y rhyfel cartref ac yn 7 oed, cafodd ei…
Darllen stori JimamaJimama Ansumana
Ganed Jimama (JJ) yn Sierra Leone, Gorllewin Affrica, ym 1995. Collodd ei theulu cyfan yn ystod y rhyfel cartref ac yn 7 oed, cafodd ei hachub gan ffrindiau i’r teulu a lwyddodd i ddod â hi i’r DU pan wnaethant ffoi.
Yn methu siarad Saesneg heb unrhyw addysg flaenorol na theulu yn y DU, cafodd Jimama ei symud rhwng sawl cartref maeth. Amharodd y plentyndod ansefydlog a di-drefn hwn ar addysg JJ a chynyddu ei phryder, gan arwain at swildod eithafol.
Yn 10 oed, cafodd Jimama ddiagnosis o ddyslecsia. Cafodd gymorth dysgu a oedd o gymorth, ond roedd yn dal i weld yr ysgol yn heriol a chafodd raddau G yn ei harholiadau TGAU.
Ond, rhoddodd taith addysgol Jimama ar ôl gadael yr ysgol hi ar y llwybr tuag at lwyddiant. Ymrestrodd ar gwrs Trin Gwallt lefel 1 yng Ngholeg Gŵyr Abertawe lle cafodd ei hanghenion dysgu eu cydnabod a’u cefnogi o’r cychwyn. Dechreuodd ffynnu a daeth ei phersonoliaeth hapus, wirioneddol i’r amlwg. Aeth ymlaen i astudio cymwysterau lefel 2 a 3 mewn Trin Gwallt a Therapi Harddwch, ynghyd â hyn, aeth ymlaen i wella ei sgiliau hanfodol. Bellach yn 21 oed, bydd JJ yn cymhwyso ac yn gorffen yn y coleg ym mis Mehefin a bydd yn dechrau ar daith o antur – yn llythrennol – am ei bod wedi cael swydd mewn sba ar long fordeithio.
Dywed Jimama, “Mae’r holl heriau wedi fy ngwneud yn fwy penderfynol o fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd yr wyf wedi eu cael. Byddwn yn dweud os oes gennych freuddwyd a’ch bod ei eisiau gymaint, yna gweithiwch yn galed a pheidiwch â gadael i unrhyw beth eich rhwystro. Nid wyf wedi cael llawer o sefydlogrwydd yn fy mywyd, collais fy mam a’m tad yn ifanc iawn, ond rwy’n siŵr y byddent yn falch iawn ohonof nawr. Mae dod i’r coleg a chael cymwysterau wedi rhoi strwythur, cyfeillgarwch a dyfodol i mi.”
Tarek Zou Alghena
Ffodd Tarek Zou Anghena o Syria pan ddechreuodd rhyfel cartref yno yn 2011 a daeth i Brydain lai na dwy flynedd yn ôl i adeiladu…
Darllen stori TarekTarek Zou Alghena
Ffodd Tarek Zou Anghena o Syria pan ddechreuodd rhyfel cartref yno yn 2011 a daeth i Brydain lai na dwy flynedd yn ôl i adeiladu bywyd newydd. Tair ar hugain oed oedd e pan gafodd ei orfodi i fynd – roedd ei dref enedigol wedi troi’n faes y gad yn y rhyfel cartref “Roeddwn i ofn am fy mywyd,” meddai Tarek, “Mae gen i bedair chwaer ifancach, tri brawd a fy rhieni. Fe adawon ni i gyd gyda’n gilydd, maen nhw nawr yn byw yn Sweden.” Roedd Tarek yn ddyn busnes, yn cwrdd â ffrindiau mewn caffes a bwytai, cyn i fywyd bob dydd droi’n beryglus. Wrth i’r teulu ddianc fe gawson nhw’u gwahanu – gyda Tarek yn cyrraedd Prydain ar ei ben ei hun yn 2015 ar ôl treulio blynyddoedd yn alltud yn Iorddonen, yr Aifft a Thwrci. “Fe adawais i heb ddim byd,” medd Tarek. Treuliodd fis yn y gwersyll i ffoaduriaid yn Calais cyn gwneud ei ffordd i Brydain. “Roedd pethau’n ddrwg yn y gwersyll. Roedd bywyd yn anodd, roedden ni’n byw mewn pebyll y rhan fwyaf o’r amser. Roedd asiantaethau’n rhoi bwyd i ni, ond roedd yn lle brawychus i fod ynddo.” Ym Mhrydain cafodd Tarek statws ffoadur ac ymsefydlodd yng Nghaerdydd ar ôl derbyn lloches. Doedd ganddo ddim Saesneg, ac roedd rhestr aros o chwe mis ar gyfer y cwrs ESOL (Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill) agosaf, felly aeth ati i fynychu pob dosbarth Saesneg gwirfoddol y gallai ddod o hyd iddo. “Pan gyrhaeddais i roedd yn drist bod ar fy mhen fy hun. Ycyfan allwn i ei ddweud yn Saesneg oedd ‘Hi, (I want to go) London, Cardiff, Manchester neu beth bynnag oedd enw’r dinasoedd, ac ychydig iawn o eiriau.” Am yr ychydig fisoedd cyntaf mynychodd ddosbarthiadau goroesi Saesneg, yn cael eu cyflwyno gan athrawon gwirfoddol a myfyrwyr prifysgol yng Nghyngor Ffoaduriaid Cymru a Chanolfan Oasis. Cyn gynted y daeth lle ar gael, dechreuodd Tarek astudio mewn dosbarthiadau ESOL ffurfiol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Ddwy flynedd yn ddiweddarach ymgeisiodd am gwrs gradd sylfaen, ac oherwydd ei statws ffoadur roedd yn gallu cymryd rhan yng Nghynllun Noddfa Ffoaduriaid Prifysgol De Cymru. Mae’r cynllun yn darparu paratoad Saesneg dwys am ddim i ffoaduriaid sydd eisiau astudio mewn prifysgol ond ddim yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf. Dysgwyd Tarek ar dri mis o gwrs Saesneg dwys, y llwyddodd arno y llynedd, a’i galluogodd i gwblhau blwyddyn gyntaf ei gwrs prifysgol yn llwyddiannus. Dywedodd, “Fe fyddwn i’n astudio am tua deuddeg awr y dydd. Ambell waith doeddwn i ddim yn cysgu, rwyf bob amser yn dysgu. Rwy’n gweithio arno bob diwrnod.” Mae newydd gwblhau ei flwyddyn sylfaen ac ym Medi bydd yn dechrau ar flwyddyn gyntaf ei radd tair blynedd mewn Mesur Meintiau a Rheoli Masnachol. “Roeddwn i’n caru fy hen fywyd,” meddai. “Mae’n anodd esbonio mor galed yw gorfod gadael a dechrau yn rhywle newydd pan ydych chi ddim eisiau mynd. Yn eich cartref mae gyda chi hawliau. Pan fydd eich gwlad yn cael ei rhwygo a mynd yn wan, does gyda chi ddim hawliau, dim llais. Mae dysgu Saesneg wedi newid fy mywyd, rwy’n gallu cael llais. Efallai gwnaf i aros yng Nghymru, efallai deithio’r byd, neu efallai ryw ddydd y bydd hi’n ddiogel i mi ddychwelyd i Syria.” Mike Chick o Brifysgol De Cymru wnaeth enwebu Tarek. Dywedodd: “Dengys profiad Tarek pa mor bwysig yw ESOL i fywyd ffoaduriaid sy’n ceisio lloches yng Nghymru. Drwy gydweithio mae mudiadau gwirfoddol, dysgu cymunedol a sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch yn chwarae rôl hanfodol mewn integreiddio a chydlyniaeth gymunedol. Llwybr i ymfudwyr oroesi a ffynnu!”
Rose Probert
Gadawodd Rose, mam sengl o Sir Benfro, yr ysgol heb unrhyw gymwysterau TGAU gradd C neu uwch, ond roedd yn wastad wedi breuddwydioam ddod yn…
Darllen stori RoseRose Probert
Gadawodd Rose, mam sengl o Sir Benfro, yr ysgol heb unrhyw gymwysterau TGAU gradd C neu uwch, ond roedd yn wastad wedi breuddwydioam ddod yn athrawes Anghenion Arbennig.
Fe dyfodd yn oedolyn gyda’i theulu o deithwyr, gan helpu i ofalu am ei brawd a chanddo anabledd difrifol, ac o dair oed ymlaen, gwyddai sut i ymateb i’w ffitiau mynych.
Mae Rose yn dal i ofalu am ei brawd ac mae wedi magu ei merch 10 mlwydd oed, Olivia, heb unrhyw gymorth na chefnogaeth o’r tu allan. Er gwaethaf hyn, fe neidiodd ar y cyfle I ailafael yn ei haddysg ar ôl cael nifer o swyddi fel glanhawraig.
Er mwyn gwireddu’i breuddwyd, roedd ar Rose eisiau cael ei chymwysterau TGAU a llwyddodd mewn Saesneg a Mathemateg tra ei bod yn astudio drwy ‘Dechrau Dysgu’ (Launch Learning) yn Ysgol Gynradd Gymunedol Priordy Cil-maen.
Aeth Rose rhagddi wedyn i gwblhau Gradd Sylfaen mewn Addysg a Chynhwysiant Cymdeithasol, a ddarparwyd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, fel cwrs allgymorth yn yr ysgol. Mae’r rhaglen hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr gwblhau blwyddyn arall er mwyn ennill Gradd BA. (Anrhydedd).
Yn 2015, cymhwysodd Rose â Gradd BA gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf; y radd uchaf y mae modd ei hennill. Mae hi’n dechrau ar ei hastudiaethau ôl-raddedig mewn Anghenion Arbennig ym mis Medi.
Nid yn unig y mae Rose yn ddelfryd ymddwyn i’w merch, ond hefyd i gymuned y teithwyr. Yn ôl Cyfrifiad 2011 y Deyrnas Unedig, nid oedd gan 60% o’r 58,000 o bobl a ddisgrifiodd eu hunain fel Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig unrhyw gymwysterau.
Meddai Rose: “Ni feddyliais erioed yn fy mreuddwydion rhyfeddaf y byddwn lle rydwyf heddiw; rwy’n dal mewn sioc fy mod wedi cyflawni cymaint. O fod yn rhan o’r gymuned Sipsiwn/Teithwyr, nid oes yna bwysau i wneud yn dda yn yr ysgol. Gobeithiaf fy mod yn dangos mai gyda gwaith caled a thrwy fod yn benderfynol, ni waeth beth yw’ch cefndir, fe allwch ddilyn eich breuddwydion
Owen Roberts
Yn 10 oed cafodd Owen ynghyd â’i ddau frawd a’i ddwy chwaer eu rhoi yn y system gofal. Cafwyd teulu maeth iddo ac mae o…
Darllen stori OwenOwen Roberts
Yn 10 oed cafodd Owen ynghyd â’i ddau frawd a’i ddwy chwaer eu rhoi yn y system gofal. Cafwyd teulu maeth iddo ac mae o a’i frodyr yn dal i fyw gyda nhw. Mae wedi bod yn yr un lleoliad maeth o’r dechrau.
Dywed Owen, “Wrth i mi fynd i ofal dwi’n cofio cael sioc fod popeth mor dawel. Roedd fy rhieni maeth yn ofalgar a ddim yn rhy gaeth. Yn fwy na dim, roeddwn i’n rhyfeddu fod rhai pobl yn malio go iawn amdanaf i. Mi wnaeth hyn i mi deimlo’n eithaf isel mewn rhyw ffordd ryfedd, ond mi wrthodais fynd i weld cwnselydd. Roeddwn i’n mynd I ddatrys fy holl broblemau fy hun.”
Aeth cyfnod ysgol uwchradd Owen heibio heb lawer o gynnwrf, ond doedd yr ysgol ddim yn apelio ac roedd wedi ei ddadrithio’n arw. Gwrthododd ymgysylltu â chwnselydd i helpu gyda thrawma’r esgeulustod a’r cam-drin yn ei fywyd cynnar a phenderfynodd ddelio â phethau ei hun – nid bob amser yn llwyddiannus.
Mae’n dweud, “Wnes i ddim yn dda yn yr ysgol gan nad o’n i eisiau i bobl feddwl ’mod i’n nerd. Ond fel y trodd hi allan ro’n i’n eitha’ da am Addysg Gorfforol ac Arlwyo. Ces waith dydd Sadwrn mewn cegin tafarn a sylweddolais ’mod i’n eitha’ da am weithio.”
Gan brofi iddo’i hun ei fod yn gallu gwneud gwaith da, meddyliodd Owen wedyn am ddilyn gyrfa fel cogydd. Pan adawodd yr ysgol gydag un TGAU mewn Addysg Gorfforol gwnaeth gais i ymuno â’r fyddin. Cafodd gyngor i fynd ar gwrs paratoi milwrol ac arweiniodd hynny at arwyddo ar gyfer rhaglen hyfforddiant gyda chwmni Hyfforddiant Gogledd Cymru Mae’r Cwrs Ymwybyddiaeth Filwrol wedi ei gynllunio i roi cipolwg i ddysgwyr ar fywyd y fyddin a’u paratoi a’u cefnogi yn eu cais i’r Lluoedd Arfog.
Bob bore byddai’n codi am 6:15 a theithio i Wersyll Cinmel ar ei ben ei hun ar y trên am fwy nag awr, a ddim yn cyrraedd adre tan ar ôl 6pm bob dydd. Dywed ei enwebydd, Martin Craven, “Ar y dechrau roedd Owen yn swil iawn ac yn brin o hyder. Roedd yn gweld y dyddiau cynnar yn galed ond roedd yn datblygu gwytnwch a phenderfyniad. Daeth yn ffrindiau efo rhai eraill ar y cwrs ac ar ôl siarad efo Gwarchodwyr Cymreig oedd yn ei helpu ar y rhaglen penderfynodd ei fod eisiau ymuno â’r milwyr traed. Unwaith oedd o wedi cael y ffocws hwnnw doedd dim troi’n ôl.”
Pan gyrhaeddodd Owen ar y cwrs roedd yn amlwg fod hyfforddiant ffitrwydd yn faes yr oedd yn ei wir fwynhau. Roedd yn rhoi popeth oedd ganddo yn hynny, gan ddod yn un o’r pedwar dysgwr gorau ar y cwrs. Wnaeth o ddim colli’r un diwrnod mewn naw mis a gallai’r staff weld ei hunan hyder a hunan ddisgyblaeth yn tyfu. Cwblhaodd Ddyfarniad BTEC Lefel 1 mewn Sgiliau Gwaith a llwyddodd i gael ei ddewis i fynd i Goleg Sylfaen y Fyddin yn Harrogate ar y cynnig cyntaf.
Ychwanegodd Martin Craven, “Mae ei hunaniaeth personol wedi aeddfedu a’i hunan barch wedi codi. Mi lwyddodd i drawsnewid ei fywyd yn llwyr a chanfod pwrpas a nod. Mae Owen yn edrych ymlaen at y bennod gyffrous nesaf yn ei fywyd a bydd yn ymuno â’r Gwarchodlu Cymreig, sy’n adnabyddus am eu hethos teuluol, dwi’n siŵr y bydd o’n ffitio i mewn ac yn ffynnu.”
Bernard Boon
Yn drist, bu farw Bernard ym mis Ionawr 2020 ond roedd wedi dal ati i ddysgu tan y diwedd. Roedd ei agwedd gadarnhaol a’i frwdfrydedd…
Darllen stori BernardBernard Boon
Yn drist, bu farw Bernard ym mis Ionawr 2020 ond roedd wedi dal ati i ddysgu tan y diwedd. Roedd ei agwedd gadarnhaol a’i frwdfrydedd at ddysgu yn heintus, yn arbennig i’w gyd-ddysgwyr oedd yn dysgu yn nes ymlaen yn eu bywydau.
Mae Bernard wedi ymdrwytho yn y byd digidol – wedi ymuno â sesiynau cyfrifiadurol ddwy flynedd yn ôl, agorwyd byd newydd o ddysgu, cyfeillion ac ymrwymiad cymdeithasol iddo. Meddai, “Doeddwn i erioed wedi defnyddio gliniadur cyn hynny, ond roeddwn wedi darllen amdanyn nhw ac roeddwn eisiau dysgu.” Yn fuan ar ôl mynychu’r dosbarthiadau, prynodd liniadur a doedd dim troi nôl.
Cafodd Bernard, sydd yn ei wythdegau, strôc ychydig flynyddoedd yn ôl. Er iddo gael gwybod na fyddai efallai’n dod drwyddi, roedd yn benderfynol o wella’ iawn. Gadawodd y strôc ei ôl arno gyda nam ar ei olwg ac anawsterau gyda’r cof. Meddai, “Yn yr ysbyty, fe ddywedon nhw wrtha i mai’r peth gorau i’w wneud yn dilyn strôc yw chwilio am rywbeth newydd i’w wneud. Fe awgrymon nhw groeseiriau ond rwy’n anobeithiol gyda rheiny, felly feddyliais i, roi i gynnig ar gyfrifiaduron.”
Mae defnyddio’i liniadur wedi helpu i ffocysu cof Bernard, i wella ei sgiliau cyfathrebu ac mae wedi cael effaith enfawr ar ei fywyd. Meddai, “Rwyf wedi cysylltu! Rwy’n gwybod sut i e-bostio pobl, yn hytrach nag ysgrifennu llythyrau hirion. Rwy’n gallu siopa ychydig ar-lein sy’n help os yw’r tywydd yn wael.”
Mae Bernard yn helpu i ofalu am ei chwaer Irene ac mae’r dosbarthiadau yng Nghaffi’r Hedyn Mwstard yn Llanbed yn rhoi ychydig o amser iddo ef ei hun. Meddai, “Mae’n gyfle i gymdeithasu, cwrdd â fy nghyd-ddisgyblion sy’n ffrindiau erbyn hyn. Rydyn ni’n rhannu hanesion a phrofiadau – hapus a thrist ac rydyn ni’n cynnal ein gilydd. Rydyn ni’n cael gymaint o hwyl, bob wythnos byddai’n mynd adre’n teimlo na alla i ddisgwyl tan y tro nesa – mae’n uchafbwynt fy wythnos.”
Meddai ei diwtor, Helen Thomas, “Mae ei hiwmor a’i swyn yn gyfareddol. Rwyf wastad yn edmygu’r hyn a gyflawnodd yn ei fywyd, cafodd yrfa yn y fyddin yn y Gwasanaeth Milwrol, bu’n Gyfarwyddwr mewn busnes defnydd pacio papur ac argraffu ac yn awr mae’n rhannu gofal dros ei chwaer. Rwyf i wedi dysgu llawer o glywed am ei brofiadau yn y gorffennol, ac mae wedi tyfu o fod yn ddysgwr llwyr i fod yn ddefnyddiwr medrus o’r Rhyngrwyd, E-bost, Skype, Facebook, Microsoft Word a Publisher.”
Datblygu ei sgiliau ffotograffiaeth sydd nesaf ar restr Bernard o bethau i’w gwneud, “Fy neges i unrhyw un sy’n teimlo eu bod yn rhy hen neu heb syniad ymhle i ddechrau yw – ewch amdani!”.
Natalie Lintern
Mae dysgu fel teulu wedi trawsnewid bywydau Natalie Lintern a’i theulu. Ar ôl sawl perthynas ble’r oedd yn cael ei cham-drin, a brwydro yn erbyn…
Darllen stori NatalieNatalie Lintern
Mae dysgu fel teulu wedi trawsnewid bywydau Natalie Lintern a’i theulu. Ar ôl sawl perthynas ble’r oedd yn cael ei cham-drin, a brwydro yn erbyn dibyniaeth ar gyffuriau, roedd yn magu ei thri phlentyn ar ei phen ei hun. “Roedd bywyd yn boen” meddai. Aeth i deimlo’n unig, a’i diffyg hyder, hunan barch isel a gorbryder yn ei rhwystro rhag gadael y tŷ.
Am chwe mis wnaeth Natalie ddim agor y llenni a welodd hi neb y tu allan i’w chartref. Roedd wedi dechrau cymryd cyffuriau yn 16 oed ac yn ddiweddarach dechreuodd gymryd heroin “Y chwe mis hynny oedd cyfnod isaf fy mywyd,” meddai. “Roedd dau o fy mhlant yn yr ysgol a’r feithrinfa, felly dim ond y babi a fi oedd gartref. Roeddwn trwy’r adeg yn gofalu am fy mhlant, roedden nhw bob amser yn cael eu bwydo a’u hymolch ond bodolaeth oedd e, nid bywyd.”
Nawr mae Natalie yn symud ymlaen ac ar ei ffordd i ddod yn weithiwr cymorth cyffuriau ar ôl cofrestru ar gyfer rhaglen dysgu fel teulu. “Roedd gan fy mhlentyn hynaf broblemau rheoli dicter a byddai’n dod adref o’r ysgol ac aros lan trwy’r nos ar y cyfrifiadur,” meddai. “Doedd fy mhlentyn bach ddim yn gallu siarad na gwneud sŵn. Doedden ni ddim yn darllen, doedd dim llyfrau, doeddwn i’n cael dim amser o ansawdd da gyda fy mhlant. Roeddwn I ofn am fy mywyd y byddai fy mhlant yn cael eu cymryd oddi arnaf ond doeddwn i ddim yn gadael i neb ddod i mewn i’r tŷ, felly doedd neb yn gwybod fod pethau mor wael.”
Dyna pryd y penderfynodd Natalie fod rhaid iddi gael cymorth. Symudodd ei mam i fyw ati a chysylltodd gyda gweithiwr cymorth Dechrau’n Deg. Dechreuodd gael cwnsela a chysylltodd ag ysgol ei phlant am y tro cyntaf ers misoedd.
Dywedodd athrawon wrth Natalie am Sbardun a Dysgu fel Teulu a dechreuodd ymuno ag un o’u sesiynau rheolaidd. Cofrestrodd Natalie ar gyfer y sesiynau ythnosol. “Roeddwn i mewn braw,” meddai. “doeddwn i erioed wedi ymwneud gyda rhieni eraill na’r staff ond bob tro’r oeddwn i’n mynd i’r sesiwn roeddwn i’n teimlo’n well. Rwy’n cofio’r trip ysgol cyntaf, ar draeth rhewllyd, ac roeddwn i mewn panic llwyr. Ond roedd rhywbeth ynglŷn â’r ffordd oedd y plant yn ymateb a wnaeth i mi ddal i fynd yn ôl.”
Dros yr ychydig wythnosau nesaf bu Natalie a’i theulu yn gwneud barcudiaid ar y traeth, ymdrochi mewn pyllau glan môr, a choginio ar danau agored. “Fe wnaethon ni bethau nad oedden ni erioed wedi eu gwneud fel teulu cyn hynny. Fe ddysgon ni gyfeiriannu, trochi pyllau a chelf bywyd gwyllt, cerdded yn droednoeth ar lwybrau mwdlyd a gwneud bara. Ond fe roddodd reswm i mi adael y tŷ. Fe wnes ffrindiau, tyfodd fy hyder, roedd fy mhlant yn mwynhau pob eiliad, erbyn yr haf roedden ni’n bwyta teisen ar y traeth ar ddiwrnod pen-blwydd fy merch fach.”
Rhoddodd dysgu fel teulu yr hyder i Natalie gwblhau Pecyn Cymorth Adfer 12 ythnos i oroeswyr trais yn y cartref oedd yn cael ei gyflenwi. Ers hynny mae wedi mynychu cyrsiau teulu Sbardun eraill a dau gwrs ychwanegol – rhaglen Mpower i fenywod gyda hunan barch isel a rhaglen Rhianta Blynyddoedd Cynradd.
Mae’n mynd â’i phlant i’r ysgol bob dydd – mae presenoldeb y ddau hynaf wedi cyrraedd 100%. “Mae fy mab yn gwneud yn dda iawn, mae’n dod adref yn hapus ac yn ffaelu aros i wneud ei waith cartref. Mae siarad fy merch yn wych – yn wir dyw hi byth yn stopio! Mae’r ifancaf yn mwynhau darllen – rwyf innau’n darllen nawr hefyd, allaf i ddim rhoi’r gorau iddi! Ddylai fy mhlant ddim bod wedi diodde’r hyn maen nhw wedi gorfod mynd trwyddo, ond nawr mae lan i fi ein cadw ni ar y llwybr yma.”
Gyda chymorth Cymunedau am Waith mae Natalie, sydd nawr yn glir o gyffuriau ers 18 mis, ar fin dechrau ar hyfforddiant i ddod yn weithiwr cymorth cyffuriau cymwysedig. Mae’n dweud, “Rwyf eisiau helpu pobl eraill a all weld eu hunain yn fy stori i. Rwyf eisiau i bobl sy’n mynd trwy broblemau weld sut gwnes i drawsnewid pethau. Mae’r rhwydwaith cymorth gefais i wedi bod yn rhyfeddol ac fe fyddwn i’n annog pobl eraill i ofyn am help. Rwy’n teimlo’n gyffrous ynglŷn â’r dyfodol.”
Andrea Garvey
Roedd gan Andrea Garvey uchelgais bob amser i astudio’r gyfraith. Pan ddaeth yn fam yn 16 oed ac yn magu dau blentyn ar ei phen…
Darllen stori AndreaAndrea Garvey
Roedd gan Andrea Garvey uchelgais bob amser i astudio’r gyfraith. Pan ddaeth yn fam yn 16 oed ac yn magu dau blentyn ar ei phen ei hun, yn 21 oed, ac yn dioddef o ymosodiadau pryder difrifol, rhoddodd ei huchelgais o’r neilltu fel “breuddwyd gwrach”.
Effeithiodd ei phryder a’i hiselder ar ei chyfleoedd ar gyfer gwaith, ond rhoddodd astudio ffocws iddi. Cwblhaodd Andrera gwrs blwyddyn gyda’r Brifysgol Agored ac ennill tystysgrif mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Dywedodd, “Gyda dau blentyn i ofalu amdanynt roeddwn i’n gwybod fod rhaid i mi ddal i frwydro yn erbyn yr awydd i guddio fy hun. Dechreuais gwrs dysgu o bell oedd yn help i mi sianelu fy egni nerfus. Roeddwn i’n benderfynol o weithio a bod yn fodel rôl dda.”
Cam nesaf Andrea oedd gwirfoddoli am ddwy flynedd mewn cartref preswyl, gan ennill NVQ Lefelau 2 a 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac yna dechreuodd weithiogydag Ymddiriedolaeth Shaw, yn cefnogi pobl gydag anableddau.
Yn dal i frwydro gyda phroblemau iechyd meddwl, mae’n dweud, “Yn rhyfedd iawn, yr un peth wnaeth fy helpu oedd astudio. Fe helpodd fi i ganolbwyntio ar rywbeth arall yn hytrach na fy mhroblemau fy hun a daeth yn fendith annisgwyl.”
Pan enillodd Lefel 5 mewn Rheoli fe brofodd hynny I Andrea y gallai gyrraedd lefelau dysgu uwch a phan oedd yn wynebu colli ei gwaith dechreuodd feddwl eto am ei huchelgais ym myd y gyfraith. “Roeddwn wedi argyhoeddi fy hun fod fy uchelgais gyfreithiol ar ben a bod fy nghyfle wedi mynd – ond doeddwn i ddim yn credu hynny, er gwaethaf fy oed, hwn oedd cyfle mawr fy mywyd – roeddwn i’n mynd i gwblhau gradd yn y gyfraith.” Yn 48 oed, ymrestrodd ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer gradd lawnamser yn y gyfraith. Dywedodd, “Dyma’r peth anoddaf i mi ei wneud erioed. Doedd gen i ddim cynilion a heb fod mewn ystafell ddosbarth am fwy na 30 mlynedd.”
Enwebwyd Andrea gan ei merch Lucie, a ddywedodd: “Mae bywyd Mam wedi bod yn galed ond mae cryfder ei chymeriad yn ysbrydoliaeth – er gwaethaf yr holl rwystrau mae wedi cymryd rheolaeth o’i bywyd a dilyn ei breuddwydion. Roedd ganddi fynyddoedd o waith i’w gwblhau gartref, yn ogystal â cheisio ymdopi ar fenthyciadau myfyriwr fel rhiant sengl. Doedd neb yn credo y byddai hi’n para’n hir… yn amlwg doedden nhw ddim yn adnabod fy mam yn ddigon da. Byddai’n gweithio tan yn hwyr y nos, roedd yn gorfod colli rhai darlithoedd oherwydd ei gorbryder, felly roedd rhaid iddi ddysgu adref ar ei phen ei hun. Ond fe wnaeth ei phenderfyniad i gyflawni uchelgais oes ei gyrru ymlaen.”
Pan gafodd chwaer Andrea ddiagnosis canser terfynol dechreuodd Andrea ofalu amdani hithau yn ogystal â dal i astudio, gan wrthod gohirio’i hastudiaethau. Gadawodd marwolaeth ei chwaer hi mewn trallod ond yn fwy penderfynol nag erioed i gwblhau ei harholiadau.
Graddiodd Andrea yn haf y llynedd, 35 mlynedd ar ôl gadael yr ysgol heb unrhyw ymwysterau. “Roeddwn wrth fy modd, fe es â’r wn adre gyda fi a’i gwisgo o amgylch y tŷ cyn mynd â hi nôl y trannoeth.” Mae’n awr hanner ffordd drwy radd Meistr mewn cyfraith uwch a throseddeg ac mae’n gweithio i gymhwyso fel cyfreithiwr.
“Mae cynifer o bobl yn wynebu’r un problemau â fi. Mae’n bwysig iddynt wybod – gallem fod i lawr, ond dydyn ni ddim allan! Rwyf eisiau i famau ifanc, unrhyw un sydd wedi colli eu hyder a’u cred i wybod – peidiwch rhoi lan – nid yw am byth – dim os nad ydych eisiau iddo fod.”
Marilyn Llewellyn
Mae Lynnie Llewellyn yn mynychu dau ddosbarth wythnosol er mwyn dysgu Cymraeg i Lefel Sylfaen 1 a 2 ac mae’n rheolaidd yn mynychu ysgolion dyddiol…
Darllen stori MarilynMarilyn Llewellyn
Mae Lynnie Llewellyn yn mynychu dau ddosbarth wythnosol er mwyn dysgu Cymraeg i Lefel Sylfaen 1 a 2 ac mae’n rheolaidd yn mynychu ysgolion dyddiol ychwanegol a chyrsiau penwythnos i ddatblygu ei sgiliau. Meddai, “Cyn i mi ddechrau dysgu Cymraeg, Lynnie oeddwn i, nawr ‘wi’n Lynnie’r Gymraes! Nawr alla i siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg. Ers i mi ddysgu, mae fy myd wedi’i droi wyneb i waered.” Mae hi eisoes wedi llwyddo yn Arholiadau Mynediad CBAC, ac wedi cofrestru ar gyfer y nesaf, ond dywed ei thiwtor, “A dweud y gwir, nid ei chynnydd yw’r peth pwysicaf am Lynnie ond ei brwdfrydedd tuag at yr iaith a’i pharodrwydd i ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r dosbarth, gyda’i theulu, yn y gymuned ac yn y gweithle”. Mae Lynnie wedi mynychu cyrsiau preswyl, gan annog ei ffrindiau i ddod gyda hi i ymarfer y Gymraeg ac mae’n mynychu nosweithiau cymdeithasol yn rheolaidd – ond mae’n disgleirio wrth wneud y pethau bychain, megis dweud “Shwmae” a
“Diolch” wrth siopwyr yng Nghaerffili neu fynd â dysgwyr swil o’i dosbarth i’r bore coffi lleol. Mae dysgu Cymraeg wedi cynnig cyfleoedd newydd i Lynnie ac mae wedi manteisio ar y cyfan. Mae wedi teithio drwy Gymru gyfan, wedi gwirfoddoli yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac aeth â’i wyrion ar gwrs Cymraeg i’r Teulu yng nghanolfan breswyl yr Urdd yn Llangrannog – roedd am iddyn nhw gael rhan o’r iaith a chael cyfle i glywed a dechrau dysgu hefyd. Meddai, “Dechreuais ddysgu Cymraeg er mwyn fy wyrion ac am fonws enfawr cael mynd â nhw i Langrannog, dyna’u hanrheg Nadolig, atgofion nid teganau!” Mae ei brwdfrydedd dros ddysgu yn heintus ac mae Lynnie wedi derbyn swyddogaeth weithgar yn cefnogi cydddysgwyr drwy gydlynu eu hymrwymiad y tu allan i’r dosbarth drwy gyfrwng y cyfryngau cymdeithasol a gwirfoddoli. Meddai ei thiwtor, “Mae Lynnie yn hyrwyddwr ardderchog ar ran yr iaith Gymraeg ac mae’n dangos sut y gall ailddechrau dysgu yn weddol hwyr yn eich bywyd newid eich bywyd.”
Emily Harding
Cafodd Emily ei gyrru yn ôl i ddysgu er mwyn iddi gael y sgiliau i gynnal ei bachgen bach sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae…
Darllen stori EmilyEmily Harding
Cafodd Emily ei gyrru yn ôl i ddysgu er mwyn iddi gael y sgiliau i gynnal ei bachgen bach sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae Emily yn fam sengl a gafodd blentyndod cythryblus a’i gadawodd yn fewnblyg, yn ymladd materion iechyd meddwl a diffyg hunan barch. Yn 15 oed cafodd ddiagnosis fod ganddi anorecsia ac iselder a’i bod yn hunanniweidio er yn 11 oed.
Meddai, “Fe wnes i gloi fy hun o’r golwg am bedair blynedd gyda gorbryder erchyll ac iselder, byddai gadael y tŷ yn fy ngwneud i chwysu a chrynu, yna wnes i sylweddoli’r effaith oedd yn cael ar fy mab, dyna pryd ro’n i’n gwybod bod rhaid i mi newid.”
Cynyddodd pwysau Emily yn aruthrol dros gyfnod ac yn ystod y cyfnod hwn treuliodd amser maith wedi’i chloi yn ei chartref yn rhy ofnus i agor y drws.
Pan welodd gynorthwyydd addysgu yn gweithio gyda’i mab, cafodd Emily ei hysbrydoli i reoli ei gorbryder a diffyg hyder ac fe gofrestrodd ar gwrs Cyflwyniad i Ofal Plant gyda Dysgu Oedolion yn y Gymuned. Yn yr amgylchedd dysgu hwn mae wedi ffynnu gan gamu ymlaen i raglen lefel 2 yn ogystal â mynd ar gyrsiau eraill.
“Newidiodd fy mywyd er gwell o’r cychwyn cyntaf. Am unwaith roeddwn yn edrych ymlaen at rywbeth i mi fy hun. Dydd Gwener oedd fy niwrnod. Yn dilyn y cwrs byddwn yn mynd i redeg, wnes i nid yn unig feithrin hyder, addysg a rhyddid oddi wrth fy mhen – o’r diwedd wnes i ddechrau colli pwysau.” Mae iechyd corfforol a iechyd meddwl Emily wedi gwella, ac mae wedi colli 5 stôn ers dechrau gyda Dysgu Oedolion yn y Gymuned ac yn ddiweddar dechreuodd weithio’n rhan amser mewn cartref gofal.
Defnyddiodd yr addysg o’r rhaglen gofal plant i ddatblygu ei sgiliau fel rhiant ac i gefnogi datblygiad ei mab, yn ogystal â bod yn fwy cymwys i fynd ar ôl pobl broffesiynol i sicrhau ei fod yn cael yr asesiadau y mae eu hangen ac i ddygymod â’r gwaith papur angenrheidiol i lywio’r system.
“Rwyf nawr yn awyddus i ddysgu. Rwyf wedi cwblhau tri chwrs, wedi cofrestru ar ddau ar hyn o bryd ac rwy’n bwriadu mynd ar ddau arall. O’r diwedd gallaf weld gwerth i’r dyfodol. Dyfodol y gall fy mab fod yn falch ohono.”
Sam Gardner
Mae Sam bob amser wedi breuddwydio am fod yn athro ysgol gynradd, felly yn 18 oed, dechreuodd ar radd BA Anrhydedd mewn Astudiaethau Addysg ym…
Darllen stori SamSam Gardner
Mae Sam bob amser wedi breuddwydio am fod yn athro ysgol gynradd, felly yn 18 oed, dechreuodd ar radd BA Anrhydedd mewn Astudiaethau Addysg ym Mhrifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant.
Yn dod o gefndir gofal heb lawer o gyswllt â’i deulu, daeth y teimlad ynysig oedd gan Sam wrth astudio yn broblem yn gyflym iawn. Treuliodd ei Nadolig cyntaf ar ei ben ei hun yn ei lety i fyfyrwyr tra bod ei gyfoedion yn mynd adref at eu rhieni a’u hanwyliaid. Dros y flwyddyn nesaf, daeth yr unigrwydd hwnnw yn nodwedd amlwg o’i fywyd ac er iddo wedyn lwyddo i dreulio gwyliau penodol gyda rhieni maeth blaenorol ac weithiau ei ffrindiau, roedd yn anodd iddo. Nid oedd graddau Sam gyda’r uchaf yn ei garfan ond roedd ei uchelgais i lwyddo yn amlwg ac fe wnaeth barhau i wneud cynnydd. Wrth i amser fynd ymlaen, roedd yn amlwg bod Sam yn dioddef o orbryder ac iselder ac erbyn canol ei flwyddyn olaf o astudio, nid oedd yn ymdopi bellach. Roedd y diffyg strwythur cefnogaeth y tu allan i’r brifysgol yn golygu ei fod yn teimlo nad oedd yn gallu parhau.
Gwnaeth Sam y penderfyniad y byddai’n cymryd saib o’i astudiaethau ac yn dychwelyd y flwyddyn academaidd flaenorol i ddechrau o’r newydd, er mwyn cael y cyfle gorau i wella ei raddau a chael ei radd. Dychwelodd i’w astudiaethau am ei flwyddyn olaf yn gryfach, yn fwy hyderus ac yn benderfynol o lwyddo. Llwyddodd i gwblhau ei radd a graddiodd yn haf 2015. Aeth ymlaen i gael swydd fel cynorthwyydd addysgu ac yna gwnaeth gais i gwblhau ei gymhwyster TAR. Mae Sam wedi dangos penderfynoldeb a chadernid er gwaethaf ei brofiadau niweidiol mewn bywyd ac mae bellach ar fin gwireddu ei freuddwyd o fod yn athro cymwys.
“Rwy’n credu bod addysg yn offeryn sy’n eich grymuso, yn agor eich meddyliau ac yn ein galluogi ni i symud yn gymdeithasol. Nid wyf erioed wedi gadael i’r gorffennol fy niffinio ond credaf ei fod wedi fy ngwneud yn gryfach ac yn fwy penderfynol o lwyddo”.
Shafiq Mohammed
Dechreuodd Shafiq astudio gyda’r Brifysgol Agored yn 2010 ac mae i fod cwblhau ei BA (Anrh) yn y Dyniaethau yn haf 2017. Ei nod bob…
Darllen stori ShafiqShafiq Mohammed
Dechreuodd Shafiq astudio gyda’r Brifysgol Agored yn 2010 ac mae i fod cwblhau ei BA (Anrh) yn y Dyniaethau yn haf 2017. Ei nod bob amser oedd gwella ei ragolygon am swydd, yn benodol trwy symud o’i swydd wreiddiol mewn canolfan alwadau i swydd yn y sector addysg.
Pan oedd yn tyfu i fyny, roedd bywyd yn anodd gartref a chafodd hyn effaith ar ei addysg a’i gyflawniadau academaidd. Fel oedolyn, roedd Shafiq yn awyddus i ddychwelyd i ddysgu a gwella ei sgiliau a’i gyflogadwyedd. Fodd bynnag, nid yw’r daith wedi bod yn hawdd a phan oedd gwraig Shafiq 8 mis yn feichiog, cawsant eu gwneud yn ddigartref.
Dywed; “Dyma adeg anoddaf fy mywyd. Benthycais arian gan ffrind er mwyn symud i mewn i fflat oedd mewn cyflwr gwael. Nid oedd unrhyw ddodrefn, dim oergell. Roedd hi’n haf, rwy’n cofio cael llaeth a’i roi mewn bwced a’i lenwi â dŵr oer er mwyn parhau’r nos. Roeddwn mewn argyfwng ariannol llwyr; byddwn yn cael fy nghyflog a byddai popeth yn mynd allan yn syth i dalu’r biliau. Byddwn yn beicio i’r ysbyty a byddai fy ngwraig feichiog yn dal y bws. Nid oeddwn yn gallu teithio gyda hi am nad oedd gennyf arian am docyn.”
Treuliodd amser yn astudio yn y llyfrgell neu’n darllen gyda golau ffôn symudol yn ystod y nos er mwyn arbed ar drydan. Er gwaethaf yr adegau tywyll hyn, mae Shafiq wedi parhau i wneud ei aseiniadau ar amser, dywed “Rwyf wedi bod ar daith hir ac anodd ond mae wedi bod yn werth chweil 100%. Rwyf wedi cael swydd fel athro cynorthwyol mewn ysgol uwchradd leol ac rwy’n teimlo fy mod yn cyrraedd fy nod o’r diwedd. Rwy’n teimlo bod popeth yn dod ynghyd o’r diwedd ac rwy’n gallu creu dyfodol i fi a’m teulu.”
“Er mwyn arbed trydan, ni fyddwn yn rhoi’r golau ymlaen gyda’r nos tra’n astudio, felly byddwn yn defnyddio golau fy ffôn symudol i ddarllen y penodau. Byddwn yn defnyddio’r llyfrgell leol i fynd ar y rhyngrwyd, neu bori ar safle’r Brifysgol Agored ac i gyflwyno traethodau. Astudiais yn galed, roedd fy mreuddwydion a’m hamcanion yn dal yn fyw ac fel llusern i’m harwain trwy fy astudiaethau”.
Lynda Sullivan
Roedd Lynda Sullivan yn dioddef o agoraffobia ac iselder yn 2001 pan ddaeth taflen am addysg oedolion trwy ei drws. ‘Am dair blynedd prin yr…
Darllen stori LyndaLynda Sullivan
Roedd Lynda Sullivan yn dioddef o agoraffobia ac iselder yn 2001 pan ddaeth taflen am addysg oedolion trwy ei drws. ‘Am dair blynedd prin yr oeddwn i’n gadael y tˆy,’ medd Lynda, ‘Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd bod yng nghanol pobl ac roedd bod mewn llefydd gorlawn yn gwneud i mi deimlo panig.
Pan gerddais i i Ganolfan Addysg Oedolion Llanfihangel roeddwn i’n crynu cymaint fel mai prin y gallwn i siarad, ond roedd y staff yn deall fy salwch yn dda iawn. Wedyn fe gofrestrais ar gyfer Cyfrifiaduron i Ddechreuwyr.’ Yr adeg honno roedd Cyngor Caerdydd yn mynd i godi tai ar yr ardal sy’n cael ei hadnabod fel y Rec. ‘Es ati i e-bostio pobl, dechrau deiseb, ac ysgrifennu llu o lythyrau gan ddefnyddio fy nghyfrifiadur i gywiro unrhyw wallau sillafu,’ medd Lynda.
‘Roedd hyn yn golygu mynd allan o’r tˆy yn amlach, oedd ddim bob amser yn hawdd. Cynhaliais gyfarfodydd a phrotestio y tu allan i Neuadd y Ddinas ac ar ôl dwy flynedd hir fe enillon ni’n brwydr’. ‘Dyma ni’n ffurfio grwˆp a’i alw’n Ely Garden Villagers a dod yn weithgar yn y gymuned. Erbyn hyn rwy’n rhedeg naw o dimau pêl-droed gan ddechrau gyda rhai 8 -18 oed’. Yn 2010 roedd Richard North yn chwilio am brosiect fel miliwnydd dirgel mewn ardaloedd tlawd. Aeth i’r ardal yn y dirgel a rhyfeddu faint o waith oedd Lynda a’i gwˆr Peter yn ei wneud, ac felly fe ddarparodd yr arian ar gyfer cyfleusterau pêl-droed yn y Rec.
Ymwelodd wedyn bum mis yn ddiweddarach ac roedd wrth ei fodd gweld y gwelliannau i’r ardal a’r cynnydd yn nifer y bobl ifanc oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon. ‘Fe newidiodd dysgu oedolion fy mywyd,’ medd Lynda. ‘Mae popeth wyf wedi’i wneud ers hynny yn ganlyniad i wneud y cyrsiau. Y diwrnod y daeth y daflen trwy fy nrws gan y Ganolfan Dysgu Oedolion mi newidiwyd fy holl fywyd.’
DAL ATI
I DDYSGU
Os ydych yn teimlo eich bod wedi cael eich ysbrydoli i newid eich stori, mae ein hymgyrch yn ffordd wych o ganfod mwy am y ffordd y gallwch ddysgu rhywbeth newydd a datblygu eich sgiliau. Porwch er mwyn dod o hyd i ystod o diwtorialau a chyrsiau am ddim fel y celfyddydau, ieithoedd, sgiliau digidol, pobi, mathemateg, ysgrifennu creadigol a llawer mwy!
CYMRU’N GWEITHIO
Dysgu sgiliau newydd adechrau’r bennod nesaf
Mae Cymru’n Gweithio yn wasanaeth newydd sy’n galluogi unrhyw un dros 16 oed ledled Cymru i gael mynediad i gyngor ac arweiniad arbenigol i’ch helpu i oresgyn rhwystau a all fod yn eich wynebu i fynd i waith.
Felly p’un ai ydych angen help i chwilio am swyddi, ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliad, canfod lleoliad gwaith, dysgu sgiliau newydd, deall hawliau dileu swydd, cefnogaeth gofal plant, meithrin hunanhyder, neu hyd yn oed ble i droi iddo nesaf, dyma’r lle cywir i gael yr help rydych ei angen.