Prifysgol Aberystwyth, Dysgu Gydol Oes
Mae yna nifer o resymau pam y dylech chi ystyried cofrestru – cyfle i ddysgu rhywbeth gwahanol, dechrau diddordeb newydd, datblygu sgil neu iaith, ac yn olaf ond nid lleiaf, gwella eich potensial gyrfa.
Mae ein holl gyrsiau wedi’u cynllunio ar gyfer y grŵp oedran ôl-16 ond nid oes terfyn uchaf. Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cyrsiau, ond mewn rhai achosion mae’n ddefnyddiol i chi fod wedi cwblhau cyrsiau lefel mynediad cyn symud ymlaen i’r cam nesaf. Os oes amheuaeth – gofynnwch! Mae gennym dîm arbenigol o gydlynwyr a fydd yn eich helpu i ddewis y cwrs a’r lefel sy’n gweddu orau i’ch anghenion a’ch profiad.
Nid yn Aberystwyth y cynhelir pob un o’n cyrsiau; os nad yw’r cwrs yr ydych am ei astudio ar gael yn eich ardal, dewch i siarad â ni – os oes niferoedd digonol o bobl o’r un anian, efallai y byddwn yn gallu cynnal cwrs yn eich ardal, yn dibynnu ar y galw.
Mae rhai o’ch cyrsiau’n cynnig hyd yn oed mwy o hyblygrwydd i chi o ran ble a sut rydych chi’n astudio. Chwiliwch am y symbolau sy’n dynodi cyfleoedd dysgu hyblyg i astudio’n gyfan gwbl o gartref, neu sy’n cyfuno ysgolion dydd a gweithdai a ddarperir gan diwtor gyda dysgu gartref. Gobeithiwn y byddwch yn cymryd ychydig funudau i ddysgu am yr ystod gyffrous o gyrsiau Dysgu Gydol Oes sydd gennym ar gael i chi. Mae cyrsiau Dysgu Gydol Oes a gynigir gan Brifysgol Aberystwyth yn darparu addysgu a dysgu o ansawdd uchel, gan gynnwys ennill sawl gwobr am ein cwricwla arloesol.
Mae ein cyrsiau yn cynnig gwerth rhagorol am arian a phrofiad pleserus. Gan ddefnyddio cymhariaeth cost-yr-awr, mae’n debyg y gwelwch ein bod yn rhatach nag aelodaeth o gampfa, neu ymweliad â’r sinema, neu goffi neu ddiod yn eich Tafarn leol. Gallwch ddysgu mewn amgylchedd cyfeillgar a chwrdd ag amrywiaeth o bobl ddiddorol.
Darganfyddwch fwy amdanom ni yma:
Trydar @AberLLL
(Cymraeg) @AberCym
Instagram- @aberystwyth.lifelong.learning
(Cymraeg) @aberystwyth.lll.cym
Facebook:
@LifelongLearningAber
Cymraeg @DysguGydolOes
Ein gwefan:
https://www.aber.ac.uk/cy/lifelong-learning/
-
Gwybodaeth Cyswllt
- Ffôn: 01970 621580
-
Cyfeiriad:
Cledwyn