Adult Learners Week
  • English
  • Cymraeg
Mewngofnodi Darparydd
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Youtube
  • CARTREF
  • Cael Ysbrydoli
    • Straeon Dysgwyr
    • Enillwyr Gwobrau Ysbrydoli!
    • Cyfres Podlediad
  • Amdanom
  • Cyrsiau A Digwyddiadau
    • Chwilio pob Cwrs a Digwyddiad
    • Rhestr Darparwyr
  • Gwybodaeth i ddarparwyr
  • Cyswllt
Select Page

Agored Cymru

Agored Cymru

Agored Cymru yw’r corff dyfarnu o ddewis yng Nghymru gan ddarparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Yn wahanol i gyrff dyfarnu eraill, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu talent yng Nghymru, i Gymru.

Rydym yn elusen gofrestredig ac yn fenter gymdeithasol, felly rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod dysgwyr o bob oed a gallu yn gwneud y gorau o’u potensial.

Rydym yn cynnig dros 400 o gymwysterau gyda sicrwydd ansawdd sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol, mewn amrywiaeth eang o bynciau o Sgiliau Hanfodol i Ddadansoddi Data.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo Agenda Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru. Rydym yn falch o allu cynnig ein holl gymwysterau yn Gymraeg (ar alw) ac rydym wedi buddsoddi mewn datblygu cymwysterau Iaith Gymraeg.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda dros 250 o ganolfannau ledled Cymru sy’n cynnwys ysgolion, prifysgolion, colegau, elusennau, cymdeithasau tai a busnesau i greu a darparu cymwysterau a dyfarnu credyd i ddysgwyr.

Rydym yn rhoi’r cyfle i bobl o bob oed fanteisio ar ddysgu gydol oes, boed hwy mewn addysg amser llawn o hyd, yn gweithio, neu’n chwilio am waith.

Mae gennym dros 30 mlynedd o brofiad ac arbenigedd unigryw mewn datblygu cymwysterau a chefnogi dysgu, asesu a sicrwydd ansawdd yng Nghymru.

Rydym yn cyflogi staff arbenigol sy’n meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o’r hyn y mae cyflogwyr ei eisiau a’i angen o ran sgiliau a phrofiad.

Mae gennym ddull arloesol a hyblyg o weithio gyda chanolfannau. Rydym yn rhoi cymorth un-i-un, arweiniad a hyfforddiant ar bob cam o’r daith ddysgu o gofrestru i ddatblygu cymwysterau a gwobrwyo llwyddiant.

Mae ein hymrwymiad diwyro i ragweld ac ymateb i anghenion newidiol y farchnad lafur yng Nghymru, agendâu cenedlaethol a blaenoriaethau addysg, oll wrth wraidd ein twf parhaus.

Mae cymwysterau Agored Cymru’n cael eu cydnabod yn eang, eu gwerthfawrogi a’u parchu gan gyflogwyr. Mae hyn yn golygu bod dysgwyr sydd wedi’u hachredu gan Agored Cymru mewn sefyllfa gref i ddod o hyd i swydd neu symud ymlaen yn eu gyrfa.

    • Gwybodaeth Cyswllt

    Ni ddarganfuwyd digwyddiad tebyg

    Ydych chi’n ddarparwr?

    Ychwanegwch eich cyrsiau eich hun i’n gwefan.

    Cliciwch Yma
    Adult Learners Week
    • English
    • Cymraeg
    • Facebook
    • Twitter
    • Instagram
    • Youtube
    GOV Wales
    ESF
    Learning and Work Institute
    • CARTREF
      • Amdanom
      • Gwybodaeth i ddarparwyr
      • Cyswllt
    • Cael eich Ysbrydoli
      • Newid Dy Stori
      • Newyddion a Blogiau
    • Canfod Digwyddiad
      • Chwilio Digwyddiad Rhydd
      • Rhestr Darparwyr
    • Mewngofnodi Darparydd
      • Fy Nghyfrif
      • Digwyddiadau
    ©2019 Sefydliad Dysgu a Gwaith. Cedwir Pob Hawl.
    • Polisi Cwcis
    • Datganiad Hygyrchedd
    • Polisi Preifatrwydd

    We are using cookies to give you the best experience on our website.

    You can find out more about which cookies we are using or switch them off in .

    Privacy Overview

    This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.

    Strictly Necessary Cookies

    Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.

    Cookie Policy

    More information about our Cookie Policy