Coleg Sir Gâr
Yn y Coleg hwn, rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod eich amser gyda ni yn gyffrous, yn hwyl ac yn bwysicaf oll, yn rhoi’r wybodaeth, y cyfleoedd a’r sgiliau bywyd trosglwyddadwy i chi sy’n eich galluogi i symud ymlaen i lefelau uwch o ddysgu neu gyflogaeth.
Yn cwmpasu rhanbarthau Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, mae’r Coleg yn cynnig ystod eang o Addysg Bellach, Addysg Uwch, Dysgu Seiliedig ar Waith a chyrsiau masnachol o lefel Mynediad hyd at lefel Gradd, mewn ystod o ddisgyblaethau academaidd a galwedigaethol.
Mae’r Coleg yn rhan o bartneriaeth sector deuol gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac yn darparu llwybrau dilyniant dwyieithog i’r dysgwyr hynny sydd am aros yn lleol i astudio, yn ogystal â gweithio gydag ysgolion lleol i ddarparu darpariaeth galwedigaethol i ddisgyblion 14-16 oed yn wythnosol.
Mae diogelu yn flaenoriaeth i ni. Mae’r gofal, y gefnogaeth a’r arweiniad a ddarperir i ddysgwyr yn nodwedd ragorol o’r Coleg cynhwysol hwn. Yn y cyd-destun hwn, mae pob dysgwr yn cael ei drin yn gyfartal a disgwylir iddynt fod yn oddefgar ac yn dderbyniol o eraill. Mae’r Coleg hwn yn angerddol am ddysgu ac mae’r rhai sy’n astudio gyda ni wedi’u rhoi wrth wraidd popeth a wnawn. Mae croeso cynnes i fyfyrwyr aeddfed yn y coleg ac mae nifer fawr yn astudio amrywiaeth o gyrsiau ar wahanol gampysau. Rydym yn sicrhau bod ein safonau addysgu a dysgu yn uchel a bod canlyniadau myfyrwyr yn cyfuno â phrofiad dysgu gwych a phleserus.
Nod y Coleg yw ysbrydoli myfyrwyr, datblygu eu sgiliau, creu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgwyr a sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni ei botensial. Dymunaf y gorau i chi gyd ar y daith gyffrous hon ac edrychaf ymlaen at eich cyfarfod.
Dr Andrew Cornish CPhys MinstP, TAR
Prif Swyddog Gweithredol/Pennaeth, Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion
-
Gwybodaeth Cyswllt
- Ffôn: 01554 748179
-
Cyfeiriad:
Coleg Sir GarGraig CampusPwllLlanelliCarmarthenshireSA15 4DN
Ni ddarganfuwyd digwyddiad tebyg