Inspire 2 Work
Arianir Ysbrydoli i Weithio trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop (CGE) er mwyn gweithio â phobl ifanc sydd rhwng 16 a 24 oed nad sydd mewn cyflogaeth, addysg nac hyfforddiant (NEET.) Mae Tîm Ysbrydoli i Weithio’n cynnig cymorth trwy dîm gwaith ieuenctid profiadol a chymwys.
Mae Ysbrydoli i Weithio yn cynnig pecynnau sydd wedi eu teilwra i gwrdd ag anghenion pobl ifanc all gael eu darparu ar lefel un i un neu mewn sesiynau ar gyfer grwpiau bychan. Mae’r sesiynau hyn yn gymorth i wella iechyd a lles, ennill cymwysterau a chanfod ffyrdd addas i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant.
Beth all Ysbrydoli i Weithio ei gynnig?
• Gweithio Arweiniol – cymorth un i un gyda’ch gweithiwr dynodedig er mwyn gwella hyder a hunanwerth a’ch gallu i weithio fel rhan o dîm. Byddwch yn cael eich mentora, yn derbyn cyngor ac arweiniad a chynllunio ar gyfer gyrfa
• Hyfforddiant Cyngyflogaeth – cyflawnwch achrediad Iechyd a Diogelwch, Codi a Chario a Chymorth Cyntaf yn ogystal ag amrywiaeth o achrediadau a hyfforddiant gwaith eraill
• Cymwysterau – gweithiwch tuag at gymhwyster lefel 2 cydnabyddedig mewn pynciau sy’n berthnasol i waith fel Creu Curriculum Vitae, Datblygu Hunanhyder a Hunanymwybyddiaeth a Sgiliau Cyfweliad
Paratoi ar gyfer Gwaith – cefnogaeth er mwyn cwblhau chwiliadau am waith, ceisiadau ar gyfer swyddi ac i baratoi ar gyfer cyfweliadau
• Lleoliad Gwaith – rhwydweithio â chyflogwyr lleol er mwyn cynnig lleoliadau gwaith i ymestyn eich CV a’ch symud yn agosach fyth at gyflogaeth
-
Gwybodaeth Cyswllt
- Ffôn: 01685 727457
-
Cyfeiriad:
Penydre Youth CentreGurnos EstateMerthyr TydfilCF47 9BY
Ni ddarganfuwyd digwyddiad tebyg