Menter Iaith Casnewydd
Mae Menter Iaith Casnewydd yn bodoli oherwydd i nifer o bobl cymunedau Casnewydd ddatgan eu bod am weld Menter Iaith yn cael sefydlu yma yn y Ddinas.
Ein Gweledigaeth
Galluogi cymunedau Casnewydd i fyw a gweithio drwy’r iaith Gymraeg.
Byddwn yn sicrhau hyn
•Trwy gynnwys y gymuned wrth gynllunio ein gwaith
•Trwy gefnogi addysg Gymraeg o fabandod i oed yr addewid
•Trwy gysylltu siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a’r rhai sydd yn ymdrin â’r Gymraeg yn eu gwaith, â’i gilydd.
•Trwy gyfrannu’n gadarnhaol at fwrlwm rhwydweithiau cymunedol a busnesau Casnewydd
•Trwy feithrin a datblygu agweddau adeiladol tuag at yr iaith
•Trwy gynyddu hyder siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a’r di-Gymraeg wrth ymdrin â’r iaith wrth fynychu ein gweithgareddau a thrwy ein gwaith.
•Trwy greu darlun gonest a diffuant o sefyllfa’r iaith yn ein hardal leol a chynllunio’n briodol i gynyddu defnydd yr iaith a’r niferoedd sydd yn ei siarad yn gymunedol.
•Trwy ennyn hyder a hygrededd o fewn cymunedau Casnewydd fel cyflogwr, darparwr gwasanaeth a darparwr gwybodaeth arbenigol lleol am ac yn yr Iaith Gymraeg.
-
Gwybodaeth Cyswllt
- Ffôn: 01633 432101
-
Cyfeiriad:
Menter Iaith Casnewydd
Prifysgol De Cymru
Usk Way
NP20 2BP
Ni ddarganfuwyd digwyddiad tebyg