Gwasanaeth Dysgu Gydol Abertawe
I ddathlu Wythnos Dysgwyr Oedolion bydd Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes Abertawe yn cynnig sesiynau blasu wyneb i wyneb AM DDIM.
Ysgrifennu Creadigol – Dydd Llun 15 Medi 10.30am – 12.00pm, Llyfrgell Cilâ – AM DDIM
Ydych chi’n chwilfrydig am ysgrifennu creadigol ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Ymunwch â’n sesiwn ragflas Ysgrifennu Creadigol hamddenol ac ysbrydoledig – y cyflwyniad perffaith i unrhyw un sydd am archwilio’i sgiliau adrodd straeon. P’un a oes gennych stori yn eich pen, llyfr nodiadau llawn syniadau, neu gariad at eiriau yn unig, bydd y sesiwn hon yn rhoi blas i chi ar hanfodion ysgrifennu creadigol.
Does dim angen unrhyw brofiad, dewch â phin, papur a’ch dychymyg yn unig!
Creu Gemwaith er Lles – Dydd Llun 15 Medi 11.00am – 1.00pm, Yr ARC Portmead – AM DDIM 19+
Gan dynnu ar theori lliw a chyda dewis o gemau gwydr a mwynau, byddwn yn creu set freichled a mwclis syml. Byddwn yn myfyrio ar pam rydym yn cael ein denu at rai lliwiau, gan greu’r cylchoedd symbolaidd a fydd yn amgylchynu ein harddyrnau a’n gyddfau (neu rai ein hanwyliaid).
Cerdded a chreu – Dydd Mawrth 16 Medi 11.00am – 2.00pm, Traeth Abertawe, AM DDIM (Cwrdd ger The Secret) 19+
Ydych chi’n mwynhau teimlo’n gysylltiedig â natur? Ymunwch â ni ar gyfer y gweithdy unigryw hwn lle byddwn yn archwilio ffyrdd creadigol o gysylltu â’n gilydd a natur. Bydd Patti, cyfansoddwr ac artist naturiol yn mynd â chi ar daith fewnol ac allanol, gan ymateb i olygfeydd a synau arfordir Abertawe, gyda chaneuon adar yn ganolog i’r cyfan.
Garddio a choginio cawl – Dydd Mercher 17 Medi, 11.30am – 1.00pm, Cymunedau am Waith Bôn-y-maen, AM DDIM 19+
Ymunwch â’n tiwtoriaid i wella’ch iechyd a’ch lles wrth i chi ofalu am yr ardd yn adeilad Cymunedau am Waith, yna dysgwch sut i goginio cawl cynnes sy’n addas i’r teulu cyfan. P’un a ydych yn breuddwydio am fod yn arddwr gwell, neu’n dwlu ar fwyd cartref blasus, mae’r digwyddiad rhagflas hwn yn cynnig cyflwyniad hamddenol a gwerth chweil i dyfu a bwyta eich cynnyrch eich hun. Dewch i ddysgu a blasu!
Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl – Dydd Mercher, 17 Medi 1.00pm – 3.00pm, Yr Arc, Portmead, AM DDIM 19+
Mae Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn hyrwyddo ymwybyddiaeth, yn lleihau stigma ac yn helpu unigolion i adnabod arwyddion problemau iechyd meddwl. Mae’n grymuso pobl i gynnig cefnogaeth, yn annog sgyrsiau agored ac yn arwain eraill tuag at gymorth proffesiynol gan feithrin cymunedau ac amgylcheddau dysgu mwy diogel ac empathetig.
Cymorth TG – Dydd Gwener 19 Medi 11.30am – 1.30pm, Yr Arc, Portmead AM DDIM 19+
Ydych chi’n cael eich llethu gan dechnoleg? Dydych chi ddim ar eich pen eich hun!
Mae ein sesiwn ragflas am ddim yn gyflwyniad hamddenol heb unrhyw jargon i ddechreuwyr sydd am fagu hyder wrth ddefnyddio cyfrifiaduron, ffonau clyfar neu dabledi. P’un a ydych erioed wedi cyffwrdd â bysellfwrdd o’r blaen neu am gael cymorth gyda’r pethau sylfaenol fel anfon e-bost, pori’r rhyngrwyd neu ddefnyddio apiau, bydd y sesiwn gyfeillgar hon yn rhoi blas i chi ar yr hyn y gall TG ei wneud i chi!
-
Gwybodaeth Cyswllt
- Ffôn: 01792 637101
-
Cyfeiriad:
Swansea Lifelong Learning Service
Ni ddarganfuwyd digwyddiad tebyg