Unlocked Learning Cymru
Helo! Ceri ydw i. Rydw i’n diwtor llawrydd ar ran ‘Unlocked Learning Cymru’, wedi fy lleoli yn ardal brydferth Gogledd Cymru.
Rydw i wedi gweithio ym maes addysg oedolion yng Nghymru ers dros 10 mlynedd, a chyn hynny, roeddwn yn gweithio yn y maes llunio polisi amgylcheddol.
Rydw i’n gweithio fel tiwtor llawrydd ar ran undebau llafur, gan addysgu ystod o bynciau gwahanol i bobl:
Ymwybyddiaeth Amgylcheddol
Rhagfarn Ddiarwybod
Salwch Cudd ac Anableddau yn y Gweithle
TG Sylfaenol
ESOL
Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i wneud ein rhan er mwyn ceisio adfer yr amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Gyda hynny mewn cof, rydw i’n addysgu ar-lein yn bennaf er mwyn lleihau costau teithio a chostau argraffu.
Rwyf hefyd wedi ymrwymo i blannu planhigyn neu goeden frodorol ar gyfer pob dysgwr rwy’n ei ddysgu. Gall planhigion, yn enwedig coed, amsugno CO2 (Carbon Deuocsid) a all helpu i wrthsefyll cynhesu byd-eang a newid yn yr hinsawdd. Felly yn ogystal â thyfu sgiliau dysgwyr, rydw i’n tyfu planhigion hefyd!
#tyfuadysgu #dysguathyfu #tyfudysgu
-
Gwybodaeth Cyswllt
- Ffôn: 07791263274
-
Cyfeiriad:
Tyn Twll Mawr,
Ni ddarganfuwyd digwyddiad tebyg