WISDOM CIRCLES
Crëwyd WISDOM CIRCLES gan Dr Sangeet Bhullar i helpu teuluoedd, gweithwyr proffesiynol a mudiadau cymunedol i ddarganfod sut y gall arfer a dealltwriaeth sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar eu cynorthwyo i ffynnu yn eu bywydau bob dydd. Bu gan Sangeet bractis ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrio personol am dros 20 mlynedd, ac mae hi’n manteisio ar hwn yn y gwaith hwn. Mae hi wedi darparu’r rhaglenni hyn sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar i addysgwyr, pobl ifanc a grwpiau cymunedol ac elusennau trwy Wisdom Circles, yn ogystal â’i sefydliad arall, WISE KIDS. Mae WISE KIDS yn gweithio gyda phobl ifanc, teuluoedd, addysgwyr, gweithwyr proffesiynol eraill a grwpiau cymunedol yn y DU ac mewn gwledydd tramor i ddatblygu eu llythrennedd a’u cymhwysedd digidol, a’u hymdeimlad o weithrediad a lles, fel y gallant ffynnu ar-lein ac all-lein. Mae Sangeet yn aelod o nifer o fyrddau cynghori llywodraethol ac anllywodraethol yn y DU hefyd, ac mae modd ei gweld ar Twitter fel @sangeet.
-
Gwybodaeth Cyswllt
- Ffôn: 07540707258
-
Cyfeiriad:
40 Wood Crescent
Ni ddarganfuwyd digwyddiad tebyg