Cymru'n Gweithio
Mae Cymru’n Gweithio – y gwasanaeth ar gyfer pobl dros 16 oed a ddarperir fel rhan o Gyrfa Cymru – yn falch unwaith eto o gefnogi Wythnos Addysg Oedolion. Trwy gydol mis Medi, gallwn helpu unigolion i ddod o hyd i gyrsiau addas drwy ein gwasanaeth Chwilio am Gwrs, trafod opsiynau ariannu sydd ar gael iddynt, a chynnig cymorth gyda cheisiadau a chynllunio llwybrau. Mae gennym Ganolfannau Gyrfaoedd ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, ac rydym hefyd yn gweithio o leoliadau cymunedol ac allgymorth. Yn ystod Wythnos Addysg Oedolion rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o golegau, darparwyr hyfforddiant a phartneriaid i gynnig sesiynau dysgu a gwybodaeth yn ein canolfannau. Gellir gweld y rhain ar ein tudalennau digwyddiadau https://cymrungweithio.llyw.cymru/digwyddiadau/, a byddant yn cael eu hyrwyddo ar cyfryngau cymdeithasol. Gall unigolion hefyd gysylltu â ni’n uniongyrchol i archebu sesiwn gymorth un-i-un, boed hynny wyneb yn wyneb, neu drwy fideo neu dros y ffôn https://gyrfacymru.llyw.cymru/trefnu-apwyntiad/ Ewch i https://cymrungweithio.llyw.cymru/ neu ffoniwch 0800 028 4844 am ragor o wybodaeth.
-
Gwybodaeth Cyswllt
- Ffôn: 0800 028 4844
Ni ddarganfuwyd digwyddiad tebyg