Aaron Jones – Skills for Work Award Winner
Mae Aaron Jones wedi dod yn esiampl sy’n ysbrydoli ar gyfer niwroamrywiaeth a grym trawsnewidiol dysgu gydol oes.
Mae’n gweithio fel uwch weinydd rhan-amser yn y Pencae Inn ger Abertawe a, gyda chefnogaeth ei gyflogwyr a Chwmni Hyfforddiant Cambrian, mae wedi cwblhau Prentisiaeth mewn Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch, gan ychwanegu at ei restr o lwyddiannau.
Yn ogystal â sgiliau gweithle, mae ei brentisiaeth wedi rhoi’r hyder iddo ddod yn siaradwr cyhoeddus am ei daith dysgu a niwroamrywiaeth. Yn llysgennad ar gyfer Dysgu seiliedig ar waith, cafodd ei enw’n ddiweddar yn Brentis y Flwyddyn Cwmni Hyfforddiant Cambrian.
Dechreuodd addysg Aaron yn Ysgol Penmaes, Ysgol anghenion addysgol arbennig yn Aberhonddu lle bu’n astudio o pan oedd yn dair oed tan ei fod yn 19. Enillodd wobrau efydd, arian ac aur Dug Caeredin, gwirfoddoli I weithio gyda phlant gydag anableddau yn Romania ac ennill Gwobr Barcud Aur Powys a Gwobr yr Uchel Siryf am Ragoriaeth.
Ymunodd Aaron â’r Penycae Inn fel gweithiwr cegin pan oedd yn 19 ond gwelodd ei gyflogwyr fod ei ddawn naturiol am wasanaeth cwsmeriaid yn golygu ei fod yn fwy addas ar gyfer dyletswyddau blaen tŷ.
Yn defnyddio’r sgiliau goruchwylio, arwain a thechnoleg gwybodaeth a ddatblygodd yn ystod ei brentisiaeth, mae’n awr yn rheoli blaen tŷ, mentora staff newydd, gofalu am gwsmeriaid a gwneud shifftiau achlysurol yn y gegin.
“Rwy’n falch iawn o fy mhrentisiaeth, yn arbennig gan fod rhai yn amau fy ngallu i lwyddo,” meddai Aaron.
“Rydw i’n awtistig ac yn y gorffennol mae hynny wedi effeithio ar fy hyder a fy sgiliau cyfathrebu a rhyngweithio cymdeithasol. Fodd bynnag, yn hytrach na gadael i hynny fy nghyfyngu, rwyf wedi derbyn fy niwroamrywiaeth ac wedi gwthio fy hun i oresgyn y rhwystrau yma.
“O gael y cymorth cywir, gwaith caled a phenderfyniad, gall unrhyw un sy’n niwroamrywiol gyflawni’r un fath â fi”.
Gan obeithio dod yn oruchwyliwr neu reolwr bar yn y dyfodol, mae mwy na 22,000 o bobl yn ei ddilyn ar ei sianel Aaron’s Ales ar TikTok, lle mae’n adolygu cwrw.
Dywedodd Alison Collingridge o Gwmni Hyfforddiant Cambrian, a’i enwebodd am y wobr: “Mae Aaron yn fwy na dim ond stori o lwyddiant, mae’n enghraifft wych o sut y gall addysg oedolion newid bywydau.
“Mae’n weithiwr proffesiynol medrus mewn lletygarwch, yn arweinydd a gaiff ei barchu yn ei weithle ac yn esiampl ar gyfer pobl ifanc eraill gydag ag anghenion Dysgu ychwanegol.”