Agri-cation – Enillydd Gwobr Hywel Francis am Effaith Gymunedol
Mae Agri-cation, cwmni budd cymunedol sy’n seiliedig ar fferm waith ger Wrecsam yn cyflwyno rhaglenni dysgu sy’n helpu i ddatblygu sgiliau bywyd a chyflogadwyedd, gwella llesiant, meithrin hyder ac ailgysylltu gyda’u cymunedau.
Wedi’i sefydlu gan Cheryl Reeves a’i gŵr Andrew yn 2020 – yn union cyn pandemig Covid-19 –cymerodd ddwy flynedd arall i’r busnes fod yn gweithredu’n iawn. O’u fferm eidion 110-erw, maent yn cefnogi pobl sy’n wynebu rhwystrau i gyflogaeth, addysg a bywyd bob dydd.
Mae ffocws ar ddefnyddio natur, ffermio a’r awyr agored i addysgu pobl am gynhyrchu bwyd, sgiliau bywyd a’r amgylchedd, tra’n dod â chymunedau ynghyd.
Nid yw llawer o’r oedolion sy’n mynychu eu cyrsiau mewn gwaith, gan fod yn ynysig yn gymdeithasol neu’n byw gyda trawma, profedigaeth, cyflyrau iechyd hirdymor neu ddiffyg hyder. Yn aml, nhw yw’r rhai lleiaf tebygol o ymwneud ag amgylcheddau dysgu traddodiadol.
Maent yn coginio gyda’i gilydd, yn adeiladu prosiectau gwaith coed, ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yn yr awyr agored, dysgu technegau llesiant a gofalu am anifeiliaid.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r tîm o dri wedi cyflwyno 23 cwrs i Groundwork Gogledd Cymru, gyda 232 o oedolion yn dilyn y cyrsiau. Mae Agri-cation hefyd yn rhedeg cyrsiau cymunedol.
Maent yn cynnwys Wellness in Wellies sy’n cefnogi pobl sy’n ynysig a phryderus, Dyddiau Fferm i’r Teulu ar gyfer rhieni, gofalwyr a phlant yn ystod gwyliau ysgol, Men/ Women in Sheds, yn darparu sgiliau ymarferol a Chylch Menopôs ar gyfer menywod i ailgysylltu a gwella llesiant meddwl.
Mae’r tîm yn datblygu nifer o gyrsiau newydd, yn cynnwys sesiynau Lads & Dads i gryfhau perthnasoedd tad-mab, Punching Princesses i gefnogi llesiant corfforol a meddwl merched a chyfleoedd dysgu gydag achrediad Agored Cymru.
“Mae gan bob rhaglen ddiben creiddiol: dileu rhwystrau, meithrin hyder ac ailgysylltu pobl gyda chymuned a natur,” esboniodd Cheryl. “Yr hyn sy’n gwneud Agri-cation yn wahanol yw ein bod yn cyflwyno dysgu a llesiant mewn ffordd sydd ddim byd tebyg i addysg ffurfiol. “Rydym yn gweithio’n agos gyda’r rhai heb fod mewn gwaith, gan roi cyfleoedd iddynt gynyddu eu sgiliau a’u gwneud yn haws iddynt ddod o hyd i swydd. Drwy weithdai, rhaglenni hyfforddiant a mentoriaeth, rydym yn helpu unigolion i ennill yr hyder a’r arbenigedd sydd eu hangen i sicrhau cyflogaeth ystyrlon”.
Dywedodd Louise Stokes, o Groundwork Gogledd Cymru, sy’n darparu dysgu oedolion yn y gymuned: “Mae effaith Agri-cation yn mynd lawer tu hwnt i ddatblygu sgiliau.
“Mae llawer o ddysgwyr yn disgrifio’r profiad fel un sy’n trawsnewid, gan sôn am wella iechyd meddwl, cynyddu hunan-gred, adnewyddu cymhelliant ac ymdeimlad clir o berthyn.”