Cymeradwyaeth Uchel – Gwobr Dysgu ar gyfer Gwell Iechyd
Alan Hardie
Mae penderfyniad Alan Hardie i barhau yn gadarnhaol a chadw ei ymennydd yn brysur ar ôl dioddef strôc ddwy flynedd yn ôl yn 56 oed yn ysbrydoli pawb sy’n dod ar ei draws.
Ar y dechrau roedd y strôc wedi gadael Alan, 57, â gwendid ar ei ochr dde ac anawsterau siarad ysgafn. Mae’n parhau ei therapi ei hun i wrthweithio yn erbyn ei anawsterau symud.
Roedd yn teimlo’n ynysig nes iddo ymuno â dosbarth ysgrifennu i oedolion oedd yn cael ei redeg gan Wasanaeth Dysgu Gydol Oes Dinas a Sir Abertawe yn Llyfrgell Gorseinon y llynedd.
Clywodd am y dosbarth trwy Grŵp Goroeswyr Strôc Abertawe a dywed bod ysgrifennu am ei strôc a’r anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD) wedi bod yn “eithriadol o gathartig”.
Mae Alan wedi bod yn dioddef o PTSD ers mwy na 30 mlynedd ers iddo fynd at ddamwain erchyll ar y draffordd pan oedd yn Dechnegydd Meddygol yn y Fyddin. Combat Stress, elusen iechyd meddwl cyn-filwyr, wnaeth roi diagnosis y cyflwr iddo, a wnaeth ei adael yn isel iawn.
Roedd wedi gwasanaethu cyn hynny gyda Chorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin, gan gymhwyso fel Uwch Nyrs Staff cyn dychwelyd i fywyd tu allan i’r lluoedd a dod yn Gynghorydd Genetig i’r GIG, swydd yr oedd wrth ei fodd ynddi hyd at ei strôc.
“Mae ysgrifennu Alan yn dod o’r galon, yn ddoniol ac weithiau yn dorcalonnus,” dywedodd ei diwtor dosbarth ysgrifennu Carolyn Jones, a wnaeth ei enwebu.
“Ysgrifennodd am ei brofiad o gael strôc ac effaith hynny arno ef a’i wraig, Kath. Fel yr oedd yn darllen ei waith i ni, roeddem yn chwerthin a chrio yn eu tro.
“Mae wedi gorfod derbyn ymddeol yn gynnar, rhywbeth nad oedd yn ei ddisgwyl ar y pwynt hwn yn ei fywyd. Hyd yn oed ar ddyddiau pan nad yw’n teimlo’n dda, mae’n llawn positifrwydd ac mae’n mynd at bob tasg ysgrifennu’n llawn pwrpas. Mae Alan yn garedig a chefnogol i aelodau eraill y dosbarth bob amser.”
Ar ôl y strôc, roedd Alan yn benderfynol o beidio â gadael i negyddiaeth reoli ei feddyliau. “Peidiwch â’m camddeall, roedd hyn yn ddigwyddiad trawmatig, ond roedd yn rhaid i mi ei dderbyn a symud ymlaen,” dywedodd.
“Roeddwn eisiau gweithgaredd nad oedd ganddo unrhyw gysylltiad â’m strôc, a fyddai’n cadw fy meddwl yn effro a’m symud allan o fod yn ynysig trwy gyfarfod pobl wahanol. Mae cychwyn ar y cwrs ysgrifennu creadigol wedi normaleiddio fy mywyd, gan fod gennyf yn awr gysylltiadau cymdeithasol pwysig, cyfeillgarwch newydd ac rwy’n dysgu ar yr un pryd.
“Gobeithio, rhyw ddydd, y gallaf ysgrifennu am fy mhrofiad o gael strôc ac annog aelodau o Grŵp Goroeswyr Strôc Abertawe i rannu eu profiadau hefyd i helpu eraill mewn sefyllfa debyg.”
Enwebwyd gan:
Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes Sir a Dinas Abertawe
Noddwr categori: