Enillydd Gwobr Newidiadau Gweithle
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Enwebwyd Gan: Y Brifysgol Agored yng Nghymru
Noddir gan: Y Brifysgol Agored yng Nghymru
Arferai Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ei chael yn anodd recriwtio a chadw staff nyrsio oherwydd diffyg cyfleoedd yn yr ardal, gan olygu fod llawer yn gorfod gadael y sir i gael eu gradd nyrsio.
Sylweddolodd Katelyn Falvey, Pennaeth Dylunio Sefydliadol a Thrawsnewid Gweithlu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, hyn a bu’n gweithio gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru a’r comisiynwyr ar ddull gweithredu ar y cyd i sicrhau opsiwn i ymgeiswyr gymryd swyddi a’u gradd nyrsio yn lleol.
Meddai Katelyn: “Oherwydd ein bod yn ardal wledig helaeth, a’r ffaith nad oes gennym brifysgol yn yr ardal, roeddem yn ei chael yn anodd cynnig cyfleoedd academaidd lefel gradd i bobl ym Mhowys. Roedd hyn yn golygu fod ein gallu i ddenu a chadw nyrsys newydd gymhwyso yn heriol. Yn aml byddai pobl o’r gymuned leol yn dewis gadael y sir i chwilio am addysg bellach ar draws Cymru, neu hyd yn oed ar draws y ffin i Loegr, ac ni fyddent yn dod yn ôl am flynyddoedd lawer, os byth.”
I drin hyn fe wnaeth Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a’r Brifysgol Agored yng Nghymru sicrhau cyllid ychwanegol gan y bwrdd iechyd a chytundeb i ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru yn wahanol i recriwtio pobl o’r tu mewn i Bowys i swyddi hyfforddi newydd ar dâl ar gyfer nyrsys.
Cafodd y cynllun ymateb cadarnhaol gan y gymuned leol gyda nifer fawr o geisiadau. Ychwanegodd Katelyn: “Roedd mor llwyddiannus oherwydd na fu opsiwn tebyg o’r blaen. Roedd swyddi hyfforddiant Darpar Nyrsys yn golygu fod gan yr ymgeiswyr oedd yn flaenorol wedi cael rhwystrau wrth fynd i’r brifysgol yn awr ddarpariaeth leol i astudio a hyfforddi a chael eu talu ar yr un pryd. Fe wnaeth cymysgedd go iawn o bobl wneud cais. Roedd gennym bobl ifanc yn ymadael â‘r ysgol a hefyd bobl fwy aeddfed gyda chartrefi a theuluoedd nad oedd ganddynt y dewis i adael.”
Yn ddiweddar lansiodd y Bwrdd Iechyd ei Academi Dysgu Iechyd a Gofal, sy’n rhan o gynllun Cymru-gyfan i gynyddu mynediad lleol i addysg, hyfforddiant a datblygu ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
O fewn yr academi newydd hon, datblygwyd ystafelloedd sgiliau clinigol ac efelychu a ddefnyddir i gynyddu dysgu a datblygiad y gweithlu clinigol, yn cynnwys darpar nyrsys.
“Mae gan lawer o’n nyrsys dan hyfforddiant ymrwymiadau, a hefyd nid yw rhai pobl eisiau byw mewn dinas a maent yn hapusach mewn ardal wledig. Roedd felly yn bwysig i ni gynnig datrysiad lleol, creu swyddi hyfforddi Darpar Nyrsys ynghyd â chefnogaeth fugeiliol gadarn ac amgylchedd sy’n cefnogi ac yn ychwanegu at brofiad dysgu y myfyrwyr.
Roedd tîm Hwylusydd Addysg Ymarfer Powys yn ganolog i lwyddiant y prosiect a chawsant eu hysgogi i helpu cefnogi’r myfyrwyr a’u goruchwylwyr ac aseswyr ymarfer.
“Mae’r aelodau staff hyn yn hanfodol wrth sicrhau fod y myfyrwyr yn cael profiad gwirioneddol gadarnhaol yn ystod eu blynyddoedd fel nyrsys dan hyfforddiant ym Mhowys. Maent yn gweithio’n galed i sicrhau fod y myfyrwyr yn cael mynediad i leoliadau dysgu ymarferol rhagorol ym Mhowys yn ogystal darparu cymorth bugeiliol amserol i’n myfyrwyr lleol a myfyrwyr ar ymweliad”, meddai Katelyn.