Enillydd Gwobr Newid Bywyd a Chynnydd
Daniel Morgan
Gall newid gyrfa yn 38 oed o swydd am oes gyfforddus ym myd manwerthu i ansicrwydd y diwydiant ffilm ymddangos yn ffolineb, ond dywed Dan Morgan mai dyma’r newid callaf a wnaeth erioed.
Mewn mater o wythnosau, aeth Dan o Orseinon, o reoli cyllidebau o filiynau lawer o bunnoedd a goruchwylio staff mewn swydd reoli yn Tesco, i gymryd archebion cinio ar setiau cynhyrchu gan weithwyr proffesiynol 15 mlynedd yn iau nag ef, ond nid yw wedi difaru o gwbl.
Cychwynnodd taith y siaradwr Cymraeg rhugl gyda BA mewn Ymarfer Cyfryngau Proffesiynol o Athrofa Abertawe yn 2007, yna sefydlodd ei fusnes ffotograffiaeth ei hun am dair blynedd.
Yna gwnaeth y penderfyniad poenus i gamu allan o’r byd creadigol ac i fanwerthu, gan symud i reoli o fewn 18 mis a threulio’r 11 mlynedd nesaf yn creu enw da am fod yn llawn cymhelliant, yn wydn a chydweithredol, gan gael profiad mewn arwain ac ymgysylltu â thimau.
Ond roedd ei ddyhead am gael gyrfa ar sail ei awch artistig yn swnian o’i fewn.
Dywedodd: “Roeddwn yn credu bod y cyfle i ddilyn fy angerdd trwy gydol fy oes o weithio yn y diwydiant ffilm wedi hen fynd. Roedd gennyf gysur sicrwydd swydd, pensiwn a gwyliau penodol gyda Tesco, ond nid dyna oeddwn i ei eisiau o’m bywyd, felly fe wnes i ddechrau edrych beth oedd ar gael.”
Roedd Dan yn meddwl bod ei oedran yn ei erbyn wrth iddo geisio datblygu gyrfa yn y diwydiant ffilm. Nid oedd unrhyw gyfyngiadau oedran ar Brentisiaeth CRIW Sgil Cymru, arweiniodd hyn at benderfyniad a newidiodd ei fywyd yn Chwefror 2022.
Mae Nadine Roberts, Pennaeth Hyfforddiant Sgil Cymru yn cofio: “Roedd y risg o newid gyrfa yn 38 yn anferth, ond rydym mor falch o Dan am brofi ei fod yn bosibl.”
Ei flas cyntaf o gynhyrchu ar y Brentisiaeth Cyfryngau Creadigol a Digidol oedd lleoliad tri mis fel rhedwr i Gorilla, cwmni ôl-gynhyrchu mwyaf Cymru.
Yna daeth lleoliad fel hyfforddai sain ar On the Edge Channel 4, cyn i Dan ffynnu ar ddrama £84 miliwn Disney/ Hulu HETV, Black Cake, gan weithio fel cynorthwyydd cynhyrchu i ddysgu sut y cyrhaeddodd y sioe y llinell gychwyn.
Ei leoliad olaf gyda CRIW oedd fel rhedwr cynhyrchiad ar ddrama ITV, Until I Kill You ac, ar ôl cwblhau ei brentisiaeth, bu’n gweithio fel cynorthwyydd rheolwr cynhyrchu ar Casualty y BBC, ysgrifennydd cynhyrchiad ar ddrama sombi newydd Sianel 4, Generation Z, Dr Who y BBC ac yna cydlynydd cynhyrchu cynorthwyol ar ffilm lawn newydd Craig Roberts, The Scurry.
Enwebwyd gan:
Sgil Cymru
Noddwr categori: