Enillydd Gwobr Newid Bywyd a Chynnydd
Elinor Ridout

Enwebwyd Gan: Prifysgol Caerdydd
Noddir gan: Y Brifysgol Agored yng Nghymru ac Agored Cymru
Bu farw Will, ail blentyn Elinor, yn sydyn pan oedd yn 13 oed o salwch prin ac aciwt. Yn dilyn marwolaeth Will, roedd Elinor yn awyddus i ailddechrau ei bywyd ac roedd eisiau cael effaith gadarnhaol fel gwaddol i’w mab.
Ar ôl gweithio’n flaenorol fel nyrs meithrinfa a swyddog cymorth rhieni a gofalwyr, roedd gofalu am bobl eraill eisoes yn rhywbeth yr oedd Elinor yn angerddol amdano. Fodd bynnag, yn dilyn ei phrofiad yn yr ysbyty a’r tu allan gyda Will, roedd eisiau helpu mwy o blant difrifol wael fel ef, felly dechreuodd ar radd nyrsio.
Nawr, ddwy flynedd a hanner yn ddiweddarach, mae Elinor wedi cwblhau blwyddyn gyntaf BSc Nyrsio (Plant) ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dri mis ar ôl colli Will, roedd Elinor yn cael trafferthion gyda theimladau o ddifffyg diben ac yn awyddus i gael swydd a fyddai’n gwneud gwahaniaeth go iawn. Esboniodd: “Roedd fy mab William yn grwt bach hardd a phrysur, oedd hefyd ag anawsterau dysgu ac epilepsi. Ar ôl ei golli roedd angen i mi fod yn brysur a gwneud rhywbeth gwahanol. Roeddwn mor bryderus am fy merch a’i galar, ac roeddwn eisiau bod yn fodel rôl iddi.
“Roeddwn eisiau gwneud rhywbeth cadarnhaol yn enw Will ac fe wnes gais am y cwrs Llwybr i radd mewn gofal iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd yn galluogi myfyrwyr aeddfed fel fi i ennill y cymwysterau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddechrau gradd nyrsio.”
Mae gradd nyrsio Elinor yn adeiladu ar ei phrofiad blaenorol o weithio yn y maes gofal ond mae hefyd yn ei galluogi i gael mwy o effaith ar fywydau plant fel Will, diolch i’r cymwysterau y bydd yn eu hennill. Dywedodd: “Rwy’n gwybod y byddai Will mor falch ac mae medru helpu cleifion ac ymdrechu i roi’r gofal y dylai teuluoedd ei gael mewn ysbyty yn gymaint o ffocws i fi.”
I’w chefnogi ei hunan a’i merch pan oedd yn astudio, dechreuodd Elinor weithio mewn siop siocled. “Roedd gweithio yn y siop yn well i fi pan oeddwn yn astudio. Fel nyrs feithrin ni fyddwn yn gorffen tan 6pm ond gallwn adael y siop am 5pm a chyrraedd y brifysgol erbyn 6:30pm ar gyfer fy narlithoedd.
“Rhoddodd y Llwybr gefndir gwirioneddol dda i fi ar gyfer fy ngradd nyrsio ond rwyf hefyd wedi cwrdd â chynifer o bobl o bob cefndir sydd bellach yn ffrindiau da.
Ar ôl gorffen lleoliadau mewn ysbyty plant ac fel ymwelydd iechyd a nyrsio ysgol, penderfynodd Elinor y byddai’n hoffi gweithio ar wardiau cyffredinol plant am nawr.
“Byddwn wrth fy modd i fod y nyrs sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i blant a’u teuluoedd, yn union fel mae cynifer o nyrsys wedi gwneud gwahaniaeth i ni dros y blynyddoedd,” meddai.
Drwy rannu ei stori mae Elinor yn gobeithio ysbrydoli eraill i gael yr hyder i ail-adeiladu eu bywydau ar ôl colled.
“Rwy’n hoff iawn o’r syniad y gallai fy stori roi’r hyder i rywun fynd ati i newid neu anelu am rywbeth cadarnhaol yn dilyn eu sefyllfa anodd eu hunain.
“Cefais yn bendant fy ysbrydoli o ddarllen straeon pobl eraill oedd wedi ymdrechu i ganfod rhywbeth cadarnhaol ar ôl colli plentyn. Eu nod nhw oedd helpu eraill, a dyna fy nod innau hefyd.”