Enillydd Gwobr Sgiliau Gwaith
Emma Howells

Enwebwyd Gan: PRP Training
Noddir gan: Y Brifysgol Agored yng Nghymru
Roedd Emma Howells yn rhedeg ei busnes langylchu a chlustogwaith ei hun pan gyrhaeddodd y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf. Collodd ei busnes dros nos a dechreuodd edrych ar lwybrau gwahanol o gyflogaeth.
Ar ôl gweithio yn y sector gofal yn flaenorol, cafodd swydd mewn cartref gofal pan oedd y pandemig COVID-19 ar ei waethaf. Roedd ymroddiad Emma i’w swydd newydd fel cynorthwyydd gofal iechyd yn golygu y bu’n rhaid iddi symud allan o’i chartref i ddiogelu aelodau bregus o’i theulu. Bu’n dilyn nifer o ddiplomâu i barhau ei dysgu tra’r oedd yn gweithio yn y cartref gofal.
Symudodd Emma o fod yn Gynorthwyydd Gofal Iechyd i ddod yn Ddirprwy Reolwr Cartref Gofal. Bu heriau, ar ôl iddi gael diagnosis o ddyslecsia pan oedd yn yr ysgol, mae Emma wedi datblygu strategaethau i reoli ei anhawster dysgu pan oedd yn astudio am ei Diplomâu Lefel 2 a Lefel 3 mewn Gofal Cymdeithasol Oedolion gydag addasiadau tebyg i amser ychwanegol a gorchuddion sgrin.
Yn ei swydd fel cynorthwyydd gofal iechyd canfu Emma gariad at ddysgu a gyda chefnogaeth PRP Training mae wedi cofrestru ar nifer o gyrsiau ar amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys seicoleg. Penderfynodd wneud cais pan ddaeth swydd wag Dirprwy Reolwr ar gael yn y cartref gofal.
“Roedd yn eithaf dewr mewn gwirionedd pan rwy’n meddwl amdano. Fe wnes feddwl ‘Rwy’n gwthio fy nghyfle nawr ond rydw i angen hyn ac rydw i’n mynd amdani’. Felly fe wnes i ac fe wnes ei chael. O’r diwedd roeddwn yn adeiladu gyrfa.”
Mae uwch reolwyr Cartref Gofal Ashdale wedi sylweddoli ar ddymuniad Emma i ddysgu a’i hetheg gwaith. Dywedodd ei rheolwr Neil James:
“O ddechrau’r daith, nid yw Emma wedi dangos dim byd heblaw angerdd, ymroddiad, trugaredd ac empathi. Roedd hynny’n wych gan ein bod yn ymaflyd gyda ffordd wahanol iawn o weithio oherwydd y pandemig. Mae gan Emma ddawn naturiol ac fe wnaeth ei dymuniad i ddysgu a datblygu arwain y ffordd at ei dyrchafiad cyntaf i fod yn gydlynydd gofal. Fe wnaeth ddefnyddio’r un etheg gwaith yn y swydd honno ac fel canlyniad mae Emma yn awr yn eistedd yn falch wrth fy ochr fel fy nirprwy reolwr.”
Fel dirprwy reolwr mae Emma yn ymwneud â rhedeg y cartref gofal ond yn dal i oruchwylio gofal ar y coridorau, gan gefnogi’r cynorthwywyr gofal iechyd gyda’u gwaith. Mae’n medru parhau i ddysgu yn ei swydd newydd ac ar fin dechrau cymhwyster Lefel 4 Gofal Cymdeithasol Oedolion.
“Mae’r Lefel 4 yn ymchwilio deddfau a deddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau a’r agwedd honno y swydd. Felly mae’n fwy o reoli, sy’n dangos mwy o fy ngwaith dydd i ddydd yn awr. Mae’n her, ond rwy’n dysgu bob eiliad o’r dydd. Fe hoffwn barhau i ddatblygu i fod y gorau y gallaf fod.”