Enillydd Gwobr Hywel Francis am Effaith Gymunedol
Teuluoedd yn Dysgu Gyda’i Gilydd
Enwebwyd Gan: Coleg Caerdydd a´r Fro
Noddir gan: Y Brifysgol Agored yng Nghymru
Mae’r rhaglen Teuluoedd yn Dysgu Gyda’i Gilydd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn cyflwyno dewis eang o gyrsiau ar gyfer oedolion a rhieni mewn dros 80 ysgol ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.
Mae’r cyrsiau yn rhoi dulliau a gwybodaeth I deuluoedd I helpu rhieni I gefnogi eu plant I ddysgu ac ar yr un pryd yn datblygu eu sgiliau gydol oes eu hunain. Caiff pob cwrs ei deilwra I anghenion y teuluoedd ac mae’n cefnogi datblygu Llythrennedd, Rhifedd, Cymraeg, Siarad a Gwrando, Gwyddoniaeth, Sgiliau Digidol a Saesneg fel Ail Iaith.
Dywedodd Wayne Carter, Pennaeth Adran Lledaenu Cyfranogiad Coleg Caerdydd a’r Fro: “Mae’r profiad o wrando ar ddysgwyr yn sôn am yr effaith a gafodd dysgu arnyn nhw, eu plant a’u teuluoedd yn gwneud I rywun deimlo’n wylaidd. Yn ein sesiynau, mae llawer o’r oedolion yn siarad am y gobaith maent yn ei deimlo, y teimlad o berthyn y maent wedi’i ganfod a’u cyffro am y dyfodol.”
Mae pob cwrs yn rhedeg am 10 wythnos, gyda thua tair awr o ddysgu bob wythnos a chaiff dosbarthiadau eu cynnal wyneb yn wyneb mewn ysgolion. Mae hyn yn ei gwneud yn bosibl I feithrin perthynas gadarnhaol gyda’r ysgol ac yn rhoi rhaglen strwythuredig o ddysgu ar y cyd rhwng oedolion a phlant.
Yn ystod y pandemig fe wnaeth y tîm addasu pob rhaglen fel y gellid eu cyflwyno ar-lein a datblygwyd darpariaeth newydd i helpu rhieni I gefnogi addysg eu plant. Roedd hyn yn cynnwys gemau addysgol newydd a chynorthwyo oedolion I gefnogi myfyrwyr Cyfnod Allweddol 3 ysgolion uwchradd. Llwyddiant allweddol y rhaglen yw’r cydweithio rhwng tiwtoriaid, yr ysgolion ac, yn bwysicaf oll, lais ac anghenion yr oedolion sy’n dysgu.
Meddai Wayne: “Mae’r ddarpariaeth yn cynnig ail gyfle ar gyfer oedolion I ddatblygu eu sgiliau eu hunain tra’n cefnogi addysg eu plant. Yn ystod y rhaglen mae llawer o ddysgwyr yn siarad am y cyfleoedd y gwnaethant eu colli pan oeddent yn yr ysgol ac mae’r rhaglen wedi eu sbarduno ar gyfer eu taith eu hunain yn ôl I addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth. Mae teuluoedd yn dweud wrthym am ganlyniadau cadarnhaol y rhaglen tebyg I wella iechyd meddwl a llesiant, meithrin perthynas gadarnhaol gyda’u plant, rhieni eraill, eu hysgol leol a’u cymuned. Mae’n wych gweld teuluoedd yn sylweddoli y gallant gyflawni pethau gwych.”
Rhwng y cyfnod Medi 2022 a mis Rhagfyr 2022, mae Teuluoedd yn Dysgu Gyda’i Gilydd wedi cyflwyno 57 cwrs mewn 46 ysgol ar draws Caerdydd a’r Fro, gyda 435 o oedolion yn datblygu sgiliau newydd a 890 o blant yn cael eu cefnogi I ddysgu wrth eu hochr.
Ychwanegodd Wayne: “Mae’r tîm yn gweld drostynt eu hunain beth yw oblygiadau’r argyfwng costau byw a gallant gefnogi eu dysgwyr yn ymarferol ac yn emosiynol. Mae’r tiwtoriaid yn dosbarthu cynnyrch gofal urddas mislif heb dynnu sylw at hynny mewn sesiynau ac yn eu cefnogi I gael mynediad I apiau gostyngiad myfyrwyr ar gyfer bwyd am ddim a disgownt helaeth ar gynnyrch.”
Mae gan ysgolion bellach restr aros ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol. Mae’r tîm yn bwriadu parhau I hyrwyddo addysg oedolion I deuluoedd ac maent yn angerddol am greu ail gyfle ar gyfer pobl yn y cymunedau sydd dan fwyaf o anfantais.
“Mae’r rhaglen hon yn fwy nag am ddysgu: mae’n genhadaeth ddinesig. Cyfle I roi ail gyfle, I greu diwylliant o ddysgu ac I ddod â chymunedau mewn ardaloedd o’r angen uchaf at ei gilydd. Mae’n ymwneud â darparu cyfleoedd I ffynnu a byw mewn cymuned fwy cyfartal”, meddai Wayne.